NODAU'R ANHYGOEL BLANTOS gan Huw Williams

 

Joseph Hughes a'i frodyr fel y byddent yn ymddangos mewn cyngherddau.
O'r chwith : Joseph a David yn cyflwyno deuawd ar un delyn; John A. Hughes
(pedair oed) yn canu'r ffidil; Joseph Hughes (deg oed) a'i delyn a'i gonsertina;
David E.Hughes (chwech oed) a'i delyn - a Joseph yn perfformio consierto ar ddwy delyn.

O'R HOLL gasgliadau o alawon Cymreig a gyhoeddwyd er pan ymddangosodd y cyntaf, wedi ei lunio gan John Parry, Rhiwabon, yn 1742, mae'n debyg mai'r hynotaf ohonynt i gyd yw British Melodies ..., a gyhoeddwyd yn Llundain gan D'Almaine a'i Gwmni. Nid yw'r gyfrol hon wedi ei dyddio, ond fe gytunir fel rheol mai yn 1839 y cafodd ei chyhoeddi, sef yr un flwyddyn yn union ag y gwelodd y gyfrol gyntaf o Welsh Harper gan Fardd Alaw olau dydd.

Mae dau beth sy'n gwneud British Melodies yn gasgliad cwbl unigryw. Un yw ei fod yn cynnwys cyfansoddiadau gwreiddiol yn ogystal â threfniadau o dros ugain o alawon Cymreig, a'r cyfan, meddir, yn waith Joseph Hughes (neu 'Master Hughes' fel y'i gelwir yn y gyfrol), pan oedd hwnnw'n grwt rhwng pedair a naw mlwydd oed!

Y llall yw bod yn y gyfrol 23 o dudalennau sy'n cynnwys dros naw cant o lofnodion gwahanol danysgrifwyr mewn facsimile. Ymhlith y rhain y mae enwau amryw o Gymry blaenllaw y ganrif o'r blaen, heblaw enwau llu o offeiriaid, arglwyddi ac arglwyddesau, ac aelodau seneddol, gydag ambell un ohonynt wedi ychwanegu ei oedran ar ôl ei enw!

Ac i ychwanegu at hynodrwydd y gyfrol, fe geir ynddi hefyd un dudalen yn dwyn y teitl 'Royal Page', sy'n cynnwys facsimile o lofnodion y Frenhines Victoria ac aelodau eraill o'r teulu brenhinol, gyda'r cyfan ohonynt yn mynd yn gyfrifol am bwrcasu 26 o gopïau o'r gyfrol.

***

CEIR yn y gyfrol hefyd ddarluniau o Joseph Hughes a'i ddau frawd iau, gyda phump o delynau, yn union fel y byddent yn arfer ag ymddangos yn eu cyngherddau.

Yna, yn dilyn enwau'r tanysgrifwyr, ceir caneuon gwreiddiol, y gyntaf yn gân bur faith o ddeuddeg tudalen yn dwyn y teitl 'Llywelyn's Lament, Composed by Master Hughes from the history of Prince Llewelyn and his dog', a'r llall yn dwyn yr enw 'Pull the oar', y dywedir ei bod wedi cael ei chyfansoddi gan Master Hughes ar Afon Conwy.

Yn nesaf yn y gyfrol ceir trefniadau o dros ugain o alawon Cymreig, yn eu plith 'Gwyr Harlech' a'r 'Gadlys', ac yn olaf chwech o ddarnau a elwir yn 'Cambrian Quadrilles' ('Composed by Master Hughes from the history of Wales'), yn dwyn y teitlau 'Arthur', 'Caradog', 'Llewelyn', 'Glyndwr', 'Tudor', a 'Regina Waltz', yn cael eu dilyn gan ddau drefniant o'r Anthem Genedlaethol Seisnig, y cyntaf ar gyfer telyn, a'r ail ar gyfer llais, gyda geiriau Cymraeg a Saesneg.

***

DIAU fod digon eisoes wedi cael ei ysgrifennu am Joseph Hughes (ac am ei frodyr talentog hefyd o ran hynny), ac fel y bu iddo foddi yn Afon Hudson yn dair ar ddeg oed ym mis Mai 1841, yn dilyn cyfres o gyngherddau mewn gwahanol ganolfannau yn yr Amerig, gan gynnwys y 'White House' yn Washington.

Ond beth am y gyfrol Welsh Melodies? A yw'r cynnwys yn alawon ac yn drefniadau dilys gan fachgen rhwng pedair a naw oed? Cyn ceisio ateb y cwestiwn, credaf fod dau beth sy'n haeddu ein sylw. Y cyntaf yw bod cynulleidfaoedd mewn gwledydd heblaw Cymru yn edrych ar y Master Hughes fel rhyfeddod bychan ym myd cerddoriaeth, a'i fod yntau wedi gwneud cymaint o argraff ar wrandawyr, gan gynnwys aelodau o'r teulu brenhinol ac amryw o uchelwyr Cymru a Lloegr, fel y bu iddynt brynu nifer go dda o gopïau o'i gyfrol hynod, sy'n cynnwys eitemau y byddai'n eu canu yn y gwahanol gyngherddau.

Fe ddylid hefyd cofio bod y Master Hughes yn cael ei ystyried yn gymaint o ryfeddod gan ei genedl yn nhridegau'r ganrif o'r blaen fel y daeth yn destun yr awdl yn Eisteddfod y Bala yn 1836, - awdl a enillwyd, gyda llaw, gan Richard Parry (Gwalchmai), Llannerchymedd, a'i chyhoeddi gan Rees, Caernarfon yn 1836.

Y flwyddyn flaenorol yn Eisteddfod Llannerch-y-medd, cyflogwyd Joseph Hughes fel telynor swyddogol, ac yntau ond ychydig dros saith oed, ac yn yr Eisteddfod honno y gwisgwyd ef â'r teitl 'Blegwryd ab Seisyllt'.

Wrth ddilyn trywydd y telynor bach, ynghyd â hanes yr Eisteddfod honno trwy gymorth rhifyn 1835 o'r Gwladgarwr, fe ddysgwn rai pethau sy'n swnio'n anhygoel i'r sawl sy'n troi mewn cylchoedd eisteddfodol heddiw.

***

GŴYL ddeuddydd oedd yr Eisteddfod, yn cael ei chynnal (yn ôl y North Wales Chronicle) ym mis Mehefin 1835 mewn pabell eang ger capel y Bedyddwyr yn Llannerch-y-medd.

Mae'n ymddangos mai telyn bedawl oedd y delyn y byddai'r telynor bach yn arfer ei chanu, – telyn symudiad dwbl tebyg i'r modelau hynny yr oedd cwmni Dodd o Lundain yn arfer eu masnachu, – ac yn ôl Y Gwladgarwr yr oedd ei berfformiad ar y delyn honno yn Llannerch-y-medd yn un gwir gofiadwy.

I raddau helaeth iawn, y mae'n rhaid inni, felly, ddibynnu ar sylwadau ymfflamychol rhai o feirdd Cymru oedd yn canu yn nhridegau a phedwardegau'r ganrif o'r blaen cyn y gellir llawn amgyffred pa mor ddawnus mewn gwirionedd oedd y Master Hughes, er mai gwir hefyd fyddai dweud bod rhai o 'haneswyr' Cymreig y dydd, yn eu plith 'Carnhuanawc', wedi canu clodydd y telynor bach.

Ond er mor ddiddorol yw hanes y telynor, mae'r gyfrol sy'n dwyn ei enw yn bwysicach o lawer erbyn heddiw nag unrhyw orchestwaith a gyflawnodd mewn cyngerdd neu eisteddfod tua chanrif a hanner yn ôl, a'r rhestr o danysgrifwyr y gyfrol honno yn fwy diddorol o lawer na'i chynnwys cerddorol.

***

BYDD llawer o'r enwau yn gyfarwydd i'r sawl sy'n gwybod y mymryn lleiaf o hanes ei wlad, yn eu plith 'Thos. Jones, Solicitor, Holywell' (sef y gŵr a gyflogai 'Gwenffrwd' cyn i'r bardd ieuanc hwnnw ymfudo i'r Amerig yn 1833); 'Aneurin Owen, Egryn' (mab William Owen Pughe); 'John Davies, Brychan' (hyrwyddwr mudiad y cymdeithasau cyfeillgar); 'J.M. Jones, Llanidloes' (John Mendus Jones, a fu'n argraffu ym Mangor yn ddiweddarach); 'Mrs Waddington of Llanover' (Gwenynen Gwent, wrth gwrs); 'Taliesin Williams, Merthyr' (mab Iolo Morganwg); a 'Revd. J. Blackwell, Manor Divy' (sef Alun y telynegwr).

Pan sylweddolir bod British Melodies wedi cael cylchrediad da yn 1839, – yn enwedig felly yn siroedd de Cymru, – mae'n syndod pa mor brin yw copïau o'r gyfrol erbyn heddiw. Dywedodd Nansi Richards (Telynores Maldwyn) wrthyf mewn sgwrs un tro mai rhyw dri chopi'n unig o'r gyfrol oedd "mewn dwylo preifat" yng Nghymru, a bod un o'r copïau hynny yn arfer â bod ym meddiant y Doctor Jones, Llwyn Onn, Treffynnon.

Yn 1898, tystiai Robert Griffith, Manceinion (awdur Llyfr Cerdd Dannau) fod y gyfrol yn brin, ac yn costio gini pan gyhoeddwyd hi gyntaf, a phan ymddangosodd Catalog Llyfrgell Caerdydd y flwyddyn honno, cafodd rhai o gasglwyr llyfrau'r genedl dipyn o syndod wrth weld bod John Ballinger ac Ifano Jones (o bawb!) wedi methu â dod o hyd i gopi.