MWY AM INC LLANNERCH-Y-MEDD gan Dafydd Wyn Wiliam

 

WEDI MARW Lewis Jones (1841-77) fe barhawyd gwasg Llannerch-y-medd gan ei chwiorydd, Jane (1837-91) ac Elisabeth Jones (1848-1920). Yng Nghyfrifiad 1871 nodir mai , 'dressmaker' oedd Elisabeth a deng mlynedd yn ddiweddarach yr oedd hi a'i chwaer hŷn yn cadw siop 'Bookseller' yn Market Square

Heblaw'r siop hwy ill dwy oedd perchen y wasg argraffu y tu ôl i'r siop a chan na wyddent odid ddim am argraffu gorfu iddynt ymddiried holl ofal y wasg i reolwr, John Jones (1850-1935), argraffydd profiadol a brodor o Lannerch-y-medd.

Dysgasai ei grefft gyda Lewis, brawd Jane ac Elisabeth Jones, ac iddo ef, felly, y mae'n rhaid priodoli holl gynnyrch gwasg Llannerch-y-medd rhwng 1877 a 1910, sef y flwyddyn y gwerthodd Elisabeth y wasg iddo.

Ganed mab anghyfreithlon i Elisabeth, y chwaer ieuangaf, sef John, ac yn ddiweddarach fe briododd hi Owen Jones (g.1839), Bro Dirion (lle saif modurdy'r pentref heddiw). Aeth Owen Jones i fyw i'r 'Printing Office' at ei wraig a chofir hwy a'u siop gan rai o drigolion y Llan.

Gwraig dal denau, annwyl, ddiniwed a ffeind oedd Elisabeth a phrawf o'i ffeindrwydd yw iddi fabwysiadu bachgen o dloty'r pentref, Robert Owen Edwards, bachgen a laddwyd 18 Medi 1918 yn y Rhyfel Mawr.

Gwerthid Beiblau, llyfrau emynau, esboniadau, papurau newydd, a holl gyhoeddiadau gwasg Llannerch-y-medd yn y siop, ac fe'm sicrheir gan hen wraig 91 oed a fu'n forwyn i Elisabeth Jones nad oedd a wnelo hi ddim â'r wasg rhagor na thalu cyflog i'r rheolwr a'r gweithwyr eraill. Addolai Elisabeth a'i phriod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

***

YN UNION wedi marw eu brawd fe roddodd y ddwy chwaer 'Jones A'i Gyf.' ar gyhoeddiadau'r wasg. Newidiwyd hyn i 'Jane ac Elisabeth Jones', ac ar ôl marw Jane, hen ferch, a'i chladdu ym mynwent y Llan, 28 Mai 1891, fe ddilëwyd ei henw a rhoi 'Elisabeth Jones' yn unig.

Yn ystod tymor Lewis Jones fe rwymid cynnyrch y wasg yn Llannerch-y-medd, eithr nid yw'r ddwy chwaer yn disgrifio eu hunain yn llyfr-rwymwyr.

Preswyliai John Jones, rheolwr y wasg, yn Gwalia House. Ni ellir bod yn siŵr mai ef yw'r John Jones, Pen-y-graig, argraffydd 14 oed a restrir yng Nghyfrifiad Llannerch-y-medd yn 1871. Yr oedd y rheolwr yn 21 oed yn y flwyddyn honno.

Argraffwyr eraill a feithrinwyd gan John Jones oedd Wiliam John Williams (g.1861), gŵr a enwir yng Nghyfrifiad 1881. Ganed ef yn Aberffraw, a Dorothy Williams oedd ei fam. Hefyd Wiliam John Jones (1873-1955), Gladstone Terrace. Ef, yn 1892, oedd y gŵr a dderbyniodd wahoddiad John David Lewis i sefydlu gwasg enwog Llandysul. (Gw. Y Faner 10 Rhagfyr 1982, t.8.)

Eto, Gruffudd John Jones (1890-1950), mab rheolwr y wasg, a Tommy Evans o'r Winllan ym mhlwyf Llechgynfarwy.

Tua 1911 fe gododd Elisabeth a'i phriod dŷ, Bryn Garth, ger Llannerch-y-medd a mynd yno i fyw gyda'u mab, John. Prynwyd y wasg gan John Jones pan oedd dros 60 oed a diau iddo wneud hynny oherwydd ymarfer ei fab Gruffudd i'r grefft o argraffu.

Bu farw Elisabeth 2 Mawrth 1920 a chladdwyd hi gerllaw ei rhieni a'i brawd Lewis ac eraill o'i theulu ym mynwent Eglwys blwyf Rhodogeidio. Ymfudodd ei mab John i America.

***

GYDAG ambell eithriad llyfrau a llyfrynnau crefyddol oedd pennaf cynnyrch gwasg Llannerch-y-medd yng nghyfnod Jane ac Elisabeth Jones, a mwyafrif yr awduron yn wŷr Môn. Yn 1883 y daeth y gyfrol fwyaf sylweddol o'r wasg, sef cyfansoddiadau barddol Hwfa Môn, a oedd ar y pryd yn Weinidog cynulleidfa'r Annibynwyr yn y dreflan.

Efallai mai un o gynhyrchion mwyaf diddorol y wasg yw Safle Briodol Merch Mewn Cymdeithas (1897), llyfryn sy'n dadlau am fwy o hawliau i ferched. Rhoddir rhestr o rai o gynhyrchion y wasg yn Atodiad A.

Mwy diddorol yw'r gerddoriaeth a argraffwyd yn Llannerch-y-medd. Lewis Jones oedd y sawl a fentrodd i'r maes hwn tua dwy flynedd cyn iddo farw ym Mawrth 1877, a pharhawyd y fenter yn effeithiol ac yn broffidiol yn ystod cyfnod Jane ac Elisabeth Jones.

Dwg y gerddoriaeth a argraffwyd yn y dreflan fri cenedlaethol iddi a phorthwyd bri cerddorol ac eisteddfodol y cyfnod gyda dros 150 o gyhoeddiadau gwahanol. Rhestrais yn Atodiad B rai ohonynt.

Canolbwyntiodd John Jones a'i fab Gruffudd ar gyflawni gorchwylion arferol argraffu, megis posteri, taflenni angladd, tocynnau ac ambell raglen gymanfa ganu, a pharheir y traddodiad gan Hywel (g:1932), ŵyr John Jones, yn ei oriau hamdden.

Atodiad A

Cynnyrch Gwasg Llannerch-y-medd 1877-1910

Atodiad B

Cerddoriaeth:

Y mae gennyf gopïau o'r darnau uchod, ond nid ydynt namyn cyfran fechan o gynnyrch cerddorol y wasg fel y dengys Catalog wyth tudalen a gyd-rwymwyd gyda rhaglen Cymanfa Ganu a gynhaliwyd yn Llannerch-y-medd 29 Gorffennaf 1890.