JONES & Co. Y BALA gan W.J.Edwards
Y JONES yn Jones & Co., Y Bala, oedd y Parchedig Thomas Jones o Ddinbych, un o arweinyddion galluocaf y Methodistiaid Calfinaidd, cyfaill mawr Thomas Charles a'r gŵr a draddododd ei bregeth angladdol yn 1814.
Yr oedd Thomas Jones wedi cyfarfod Thomas Charles mor gynnar â 1784 ac yn 1799 cydweithiodd y ddau i gyhoeddi'r Drysorfa Ysprydol, ar gais y Gymdeithasfa. Fel y dywedais yn yr erthygl ar Hen Argraffydd Thomas Charles, yn rhifyn Mawrth, danfonai'r gŵr o'r Bala ei waith i'w argraffu at William Collister Jones, Caer, o 1798 i 1802 ond gan fod hwnnw'n codi tâl uchel ac yn araf wrth y gwaith penderfynodd sefydlu ei wasg ei hun.
Robert Saunderson, a brentisiwyd gyda W.C. Jones, a ddaeth i'r Bala i weithio'r wasg ond yr oedd gan Thomas Jones ran go fawr yn y busnes. Gwyddai am allu Saunderson gan ei fod yntau fel Charles yn arfer gyrru'i waith i Gaer i'w argraffu.
***
YN 1803 y sefydlwyd y wasg newydd yn Y Bala a'r flwyddyn wedyn cyhoeddodd lyfryn 44 tudalen wythblyg: 'Talfyriad o hanes Mr Kichener, gweinidog yr efengyl, am ei lafur, ei beryglon, a'i lwyddiant ym mysg y Boschemen, un o'r llwythau tywyllaf a mwyaf anifeilaidd o'r Hottentots, yn Neheudir Affrica. Hefyd, byr hanes am lafur amryw eraill ym mysg y paganiaid: holiadau ac atebion tri o'r Boschemen a ddychwelwyd i'r ffydd, &c, &c. Bala: argraphwyd yn argraphdy Jones & Co; 1804'.
Ar ôl hynny ymddangosodd llyfryn bychan wyth tudalen, 'Pethau dwys i'w hystyried', gyda'r geiriau 'Argraphwyd yn argraphdy Jones & Co; Bala', ar y ddalen flaen ac '0 argraphwasg Jones & Co; Bala', ar y ddalen olaf.
Tybiodd rhai ar y pryd, ac ar ôl hynny yn wir, mai W.C. Jones, Caer, oedd y 'Jones & Co', oherwydd, mae'n debyg iddo argraffu cynnyrch Thomas Charles rhwng 1798 ac 1802. Ond Thomas Jones, mewn partneriaeth â Sarah, gwraig Thomas Charles, a sefydlodd y wasg a chael Saunderson i ofalu amdani.
***
ERBYN 1808 a Thomas Jones yn byw yn Rhuthun fe sefydlodd ei wasg ei hun, 'i fod at ei wasanaeth ei hun, ac er budd ei genedl', chwedl ei gofiannydd Jonathan Jones (Cofiant Y Parch. Thomas Jones o Ddinbych, t.152-3). Cyn hynny, yr oedd wedi argraffu tri llyfr pwysig yn Y Bala: Y Drych Athrawiaethol, yn 1806; yr Ymddiddanion Crefyddol, yn 1807 (cyfrol 446 o dudalennau), a'r Sylwadau ar Lyfr Mr Owen Davies, yn 1808.
Awgryma'i gofiannydd mai am iddo orfod aros yn hir am y llyfr cyntaf (cwyn Thomas Charles yn erbyn W.C. Jones!) yr aeth ati i sefydlu'i wasg ei hun.
Ond ychwanega Jonathan Jones sylwadau diddorol eraill: `Hefyd cafodd Mr Jones dro angharedig iawn ynglŷn â'r swyddfa argraphu yn y Bala, yn 1807, pan ddarfu i gysodydd, yr hwn oedd gan Mr. Saunderson yn ei wasanaeth, ddangos y prawfleni o'i lyfr, sef yr Ymddiddanion Crefyddol, i Mr. Owen Davies, cyn i'r llyfr ddyfod allan yn rheolaidd o'r wasg; yr hyn a alluogai Mr Davies i ysgrifennu ei atebiad iddo ar yr un amser ag yr oedd llyfr Mr Jones yn cael ei argraphu. Ond dylid dweud nad oedd gan Mr. Saunderson ddim o gwbl a wnelai a'r trick hwn.' (Cofiant, t.153).
Yn 1808 anfonodd Thomas Jones at W.C. Jones, Caer, 'i ofyn a oedd ganddo ef ddyn ieuangc ag y gallasai ei gymeradwyo iddo i gymmeryd gofal ei argraphwasg. Yr oedd gan Mr Collister Jones ddyn ieuangc felly wedi bod gydag ef yn dysgu y gelfyddyd o argraphu yn ddiweddar; ond yr oedd hwnnw ar y pryd wedi myned i Lundain. Anfonwyd i Lundain ar ei ôl; a'r canlyniad fu, dyfodiad Mr. Thomas Gee, tad Mr. Thomas Gee presennol, at Mr. Jones i Ruthun, i gymmeryd gofal ei argraphwasg.'
Dyma hanes dechreuad 'swyddfa argraphu Thomas Gee, Dinbych'. Mr Jones, fel y gwelir, oedd ei thad, a'i pherchennog cyntaf(Cofiant T.G. 153-4). A phe bai Thomas Jones heb wneud dim arall, gwnaeth gymwynas fawr Jones at W.C. Jones, Caer, 'i ofyn a oedd ganddo ef ddyn ieuangc ag y gallasai ei gymeradwyo iddo i gymmeryd gofal ei argraphwasg. Yr oedd gan Mr Collister Jones ddyn ieuangc felly wedi bod gydag ef yn dysgu y gelfyddyd o argraphu yn ddiweddar; ond yr oedd hwnw ar y pryd wedi myned i Lundain. Anfonwyd i Lundain ar ei ôl; a'r canlyniad fu, dyfodiad Mr. Thomas Gee, tad Mr. Thomas Gee presennol, at Mr. Jones i Ruthyn, i gymmeryd gofal ei argraphwasg.'
Dyma hanes dechreuad 'swyddfa argraphu Thomas Gee, Dinbych'. Mr Jones, fel y gwelir, oedd ei thad, a'i pherchennog cyntaf(Cofiant T.G. 153-4). A phe bai Thomas Jones heb wneud dim arall, gwnaeth gymwynas fawr â'n cenedl ac â'n llenyddiaeth yn 1808.
Symudwyd ar ôl ychydig fisoedd i Ddinbych a gwyddom fod y wasg yn y dref erbyn Ebrill 1809, ac ar Catecism Mwyaf Eglwys Loegr (wedi ei gyfieithu o argraphiad o honno yn y Lladiniaeth), gwelir ar y ddalen flaen: 'Argraphedig yn Ninbych, gan Thomas Gee, dros T. Jones, 1809. Pris. ls.6c.'
Ar ôl gosod y sylfeini, gwerthodd Thomas Jones y wasg i Thomas Gee yn 1813, a deil yr hen wasg enwog i gyfoethogi bywyd Cymru o hyd.