HEN GEFNDIR YR HERALD CYMRAEG ...
AC INC CAERNARFON YN SYCHU
Maldwyn Thomas ar derfyn dyddiau mawr yr argraffwyr

PEDWAR ohonyn nhw oedd yna ar y dechrau, pedwar brith iawn, a'r pedwar yn bobol ddŵad i Gaernarfon. Felly yr oedd pethau'n amlach na pheidio yn hanes papurau newydd y dref. Richard Matthias Preece, William Potter, James Hews Bransby a 'Mr Morgan' wrth eu henwau, enw'n unig, gwaetha'r modd ydi'r pedwerydd hwn ar hyn o bryd.

Mae yna fymryn o wybodaeth ar gael am y tri arall. Fe anwyd R.M. Preece yn y Bontfaen, Morgannwg yn 1797; erbyn 1815 yr oedd o'n byw yng Nghaernarfon, yn cadw ysgol yn Llanddeiniolen, ond yn fuan yr oedd o wedi ffeirio'r bwrdd du a'r sialc am gownter banc Williams a Hughes yn y dre -banc teulu Paget, Plas Newydd, y teulu oedd yn tynnu'r llinynnau gwleidyddol ar ran y Radicaliaid ar lannau Menai yn y cyfnod yma.

Roedd hinsawdd wleidyddol y banc yn siwtio R.M. Preece i'r dim, ac yn fuan iawn yr oedd 'na enw iddo fo fel radical 'tanllyd' a hefyd fel pregethwr cynorthwyol cyffrous iawn efo'r Wesla yng nghapel Ebeneser tu ôl i'r Maes.

Cyn athro ysgol oedd J.H. Bransby yntau, Sais a anwyd yn Ipswich yn 1783, a pherchennog pâr o ddwylo blewog iawn iawn. Yn Dudley y bu Bransby am flynyddoedd yn weinidog Undodaidd ac athro ysgol; yno yn Dudley y gwelwyd y dwylo blewog yn brysur, ac yn y diwedd fe fu'n rhaid iddo adael y lle ar frys, a than gymylau duon iawn. Cafodd loches yng Nghaernarfon.

Flwyddyn o'i flaen y daeth William Potter i'r dre, o Gaer, a thaflu ei hun i ganol helbulon masnachol yr ardal, a llosgi'i fysedd yn syth bin, efo llyfrau cownt chwareli'r Hafodlas. Mi fu Bransby farw yn y dre yn 1847, a Potter yntau yn chwech a thrigain oed yn 1855.

Dyma sefydlwyr cwmni'r Carnarvon Herald. Fe lansiwyd y papur ar ddydd Calan 1831.

***

NEWYDDION oedd yn bennaf yn y papur - newyddion lleol, - prisiau'r farchnad yn y dre a chofnodion am fynd a dod y llongau yn y porthladd, a newyddion tramor hefyd wedi'u cymysgu efo adroddiadau am 'remarkable and curious trials'.

Preece oedd aelod amlyca'r bartneriaeth, ei enw ef oedd ar y cwmni, ac ef a Bransby oedd yn golygu'r papur. Ond fe ddaeth y gweithgarwch hwn i ben yn ddisymwth ar 28 Mai 1831, a hynny yn fêl ar fysedd perchnogion y North Wales Chronicle Torïaidd ym Mangor:

"The Carnarvon Waste Book is now without any ostensible conductor. . ."

Erbyn y pedwerydd o Fehefin yr oedd golygydd 'newydd' wrth ei waith, ac yn utganu hynny ar draws yr erthygl flaen. Mae'n anodd peidio â meddwl mai mymryn o dwyll oedd hyn, a'i bod hi'n eitha' tebygol mai Bransby oedd y golygydd.

Dyn busnes ar y cyrrau gwleidyddol oedd Potter, go brin iddo ef fentro eistedd yn y gadair wleidyddol. Sŵn radicalaidd oedd sŵn y papur yr adeg yma, ond fe newidiodd pethau'n ddramatig ymhen ychydig fisoedd.

Un dyn arall pwysig - y pwysicaf un - oedd yn y swyddfa yn y dyddiau cynnar, sef James Rees yr argraffydd a rheolwr y peiriannau.

***

MI FU Preece yn weithgar ar ran Syr Charles Paget yn etholiad 1831, a theimlodd frathiad y Torïaid lleol pan fu newid ym mherchnogaeth y banc, a'r awenau bellach yn newid eu lliw gwleidyddol. Dyma anfon llythyr chwyrn at Preece yn ei orchymyn i roi'r gorau i'r Carnarvon Herald radicalaidd neu ddioddef colli ei swydd yn y banc. Bu Preece yn ufudd.

Daeth newid ar ei fyd. Yr oedd y Torïaid yn pwyso'n drwm arno yn niwedd y tridegau, a T. Assheton Smith o'r Faenol yn pwyso'n drymach na neb.

Mae'n sicr i Preece gyfaddawdu, ac er na ellir dilyn llwybr ei daith wleidyddol yn gysact yn y cyfnod hwn, mae'n ddigon dweud ei fod yn gyfforddus iawn ei fyd fel un o denantiaid sgweiar y Faenol erbyn diwedd y degawd.

Roedd sŵn ym mrig y morwydd. Bu Preece yn faer Caernarfon yn 1844, ac yn Nhachwedd y flwyddyn honno fe gasglwyd arian er mwyn i'r trefnwyr ddangos eu gwerthfawrogiad o'i lafur yn ystod ei faeroliaeth.

A phan gyhoeddwyd rhestr o enwau cronfa deyrnged Preece, mae'n werth sylwi mai enw Mr Assheton Smith y Faenol oedd ar ben y dudalen gyferbyn â'i rodd anrhydeddus o bum punt ar hugain. Roedd Preece wedi newid ei gôt.

Bu ei gwymp yn fawr. Diarddelwyd ef o eglwys Ebeneser. Aeth i Lundain a chael profiadau sigledig yn y farchnad arian, cyn marw'n ŵr hanner cant a saith oed.

***

WEDI ymadawiad Preece fe benodwyd John Trevor, newyddiadurwr o Bolton, yn olygydd ym mis Hydref 1833, ac arhosodd ef yn y gadair hyd fis Hydref 1835. Roedd Trevor yn elyn chwyrn i Dorïaeth ond yn ystod ei olygyddiaeth ef fe welwyd y Carnarvon Herald yn closio am y tro cyntaf yn ei hanes at y Torïaid, a hynny oherwydd dylanwad William Potter.

Partneriaeth anesmwyth fu hi rhwng y golygydd a'r cyhoeddwr Torïaidd ac yn y diwedd fe ymadawodd Trevor â'r swyddfa, a sbonciodd Bransby am y gadair olygyddol unwaith eto.

Ato ef yr hyrddiwyd picellau O.O. Roberts a'r radicaliaid lleol, o gylchgrawn The Figaro in Wales gan amlaf, a hynny ym misoedd olaf 1835 pan oedd gwleidyddiaeth Caernarfon yn ferw gwyllt oherwydd y frwydr am reolaeth ar gyngor y dref rhwng, y diwygwyr a'r Torïaid.

Roedd Bransby fel pysgodyn ar gae gwenith yn y math hwn o ymrafael, ac ymosodwyd yn ddidrugaredd ar ei whigyddiaeth lednais betrus o. Daeth ei gefndir lliwgar yn Dudley i ddwylo hyrwyddwyr y Figaro in Wales, a dechreuwyd troi'r sgriws o ddifrif, a chyfeirio at Bransby fel lleidr a voyeur rhywiol:

"Our next number will contain a biographical memoir, moral, and political of this notorious Unitarian preacher ..."

Ddigwyddodd hynny ddim, ond nid oedd y golygydd i barhau'n gocyn hitio yn y dyfodol. Yn rhifyn 26 Rhagfyr 1835, fe gyhoeddodd y perchnogion eu bod yn rhoi'r gorau i'r Carnarvon Herald.

***

ROEDD James Rees yr Herald yn ddyn a oedd yn cadw'n dawel mewn argyfwng. Diau fod gweithio efo un mor od â pherchnogion cyntaf yr Herald wedi bod yn ysgol brofiad iddo; does yna ddim amheuaeth mai ei sadrwydd o a chwythodd anadl einioes i esgyrn go sychion a brau.

Roedd yn hanu o Gaerfyrddin, ac yn dair ar ddeg ar hugain oed pan achubodd o'r Herald rhag diflannu am byth ar ddechrau Ionawr 1936.

Am rai wythnosau argyfyngus mi fu'n cyhoeddi'r papur o'i gartref, wedyn, a'r cylchrediad yn codi, dyma symud i'r Stryd Fawr. Ac yno y bu James Rees am weddill ei ddyddiau.

Gostwng pris y papur o saith geiniog i rôt, mwyhau y teitl i The Carnarvon and Denbigh Herald, ail benodi John Trevor yn olygydd, a dyma bethau'n dechrau goleuo.

A chafodd y papur dderbyniad ymysg yr ychydig a oedd yn siarad Saesneg yn sir Gaernarfon y dyddiau hynny - a'r gwerthiant yn codi i bum can copi yn ystod Ionawr-Ebrill 1836, er mawr bleser i James Rees, a dyma ergydio at y Chronicle ym Mangor gan edliw nad oedd cylchrediad hwnnw ond tri chant a dau ddeg wyth copi yr wythnos yn ystod yr un chwarter.

Newidwyd y golygydd yn 1838 oherwydd penodi John Trevor yn olygydd y Chester Chronicle - dyma gryfhau y ddolen rhwng Caer a Chaernarfon - dolen a ffurfiwyd yn gadwyn erbyn diwedd y ganrif pan brynwyd holl bapurau'r Herald gan berchnogion y Chronicle.

William Powers Smith, gohebydd cyntaf y Nottingham Mercury oedd golygydd newydd yr Herald, a bu'n olygydd rhyfygus a rhagorol, yn anwybyddu barn pawb heblaw James Rees wrth lywio'r Herald ar foroedd radicalaidd canol oes Fictoria.

Bu'r perchennog yntau yn gefn cyson i'w olygydd yng nghanol fflamau brwydrau'r Deddfau Ŷd ac ysgarmesoedd penodi Saeson i'r esgobaethau Cymreig, a gwelwyd llwyddiant, o fewn terfynau, ar eu hymdrechion.

Blwyddyn Cyfartaledd cylchrediad wythnosol y C.D.H. Cyfartaledd cylchrediad wythnosol y N.W.C.
1837 1050 -
1838 814/815 -
1839 700 -
1840 762/3 -
1841 777/8 -
1842 771/2 519/520
1843 778/779 422/423
1844 865/866 423/424
1845 894/895 432/433
1846 1000 427/428
1847 1008/1009 432/433
1848 1127/1128 346/347
1849 1283/1284 296/297
1850 1543/1544 777/778
1851 1773/1774 746/747
1852 1538/1539 795/796
1853 1586/1587 884/885
1854 1634/1635 826/827
1855 1182/1183 685/686

AR Y pedwerydd ar hugain o Orffennaf 1852 fe lansiwyd The Rhyl Record yn y swyddfa - dyna'r cyntaf o argraffiadau lleol o'r C.D.H. a gyhoeddwyd gan James Rees.

Seithfed tudalen yr Herald Saesneg wedi'i hargraffu ar gyfer ymwelwyr â'r Rhyl yn ystod gwyliau'r haf oedd y Rhyl Record, rhestrau o enwau ymwelwyr Saesneg â'r dref.

Cyhoeddwyd hwn bob haf tan 1855, a byddai James Rees yn argraffu pedwar cant a hanner ohono, yn ogystal â chyflogi cynrychiolydd y papur yn y dref.

***

YR Herald Cymreig oedd o ar y dechrau ar 19 Mai 1855, a James Rees yn ei argraffu a'i gyhoeddi ac yn ei werthu am geiniog y copi. James Evans (1827-1911), yn wyth ar hugain oed, a phrofiad o gysodi yn swyddfa Thomas Gee y tu cefn iddo oedd y golygydd cyntaf, ac ef a fu wrth y llyw hyd 1875.

Digon traddodiadol oedd cyfarchiad y papur - sôn am fod yn "newyddiadur y werin" ac "yn bleidiwr gwresog dros Ryddid Gwladol a Chrefyddol, ac yn ddinoethwr llym ar bob trais a gorthrwm", ond y tu cefn i'r geiriau talog yr oedd meddwl manwl James Evans wrthi'n cynllunio llwyddiant y fenter.

Ar gyfer y fenter hon yr oedd James Rees wedi prynu 'Electric Telegraph' ar gyfer y swyddfa "yr hwn a fydd ar waith hyd y fynyd ddiweddaf cyn ei gyhoeddiad".

Roedd James Evans hefyd yn bwriadu cyhoeddi "erthyglau golygyddol grymus ... lle caiff y darllenydd brif weithrediadau yr wythnos wedi eu crynhôi at eu gilydd, yn nghyd ag eglurhad arnynt".

Ychydig o ddeunydd ar gyfer y papur a ysgrifennai James Evans ei hun, ond y golygydd, fodd bynnag, oedd yn gyfrifol am 'Y Crynodeb Wythnosol o Newyddion' - sylwadau ar ryfel Y Crimea ac Arddangosfa Paris oedd ganddo yn y rhifyn cyntaf o'r Herald Cymreig.

***

UN o nodweddion pwysicaf y papur oedd y lle a roddwyd yn ei golofnau i lenyddiaeth Gymraeg. Mae'n berffaith wir i'r Herald Cymreig gefnogi'r achosion Rhyddfrydol uniongred hyd droad y ganrif, a bu'r papur yn defnyddio arfau gloyw iawn yn y frwydr anghydffurfiol, ond yr oedd yr Herald trwy gydol y cyfnod hwn yn flaenllaw yn y wasg Gymraeg am y sylw arbennig a roddid yn y colofnau i feirdd ac ysgrifenwyr rhyddiaith.

Bu James Evans yn eithriadol lwyddiannus yn yr agwedd yma ar ei waith golygyddol o'r dyddiau cyntaf un – Hugh Williams, 'Corfan', deryn drycin, enaid Y Cymro Bangor ac awdur Caban F'Ewythr Twm oedd awdur y golofn 'Wil Pwllceris'.

'Glasynys' oedd yn gyfrifol am eiriau 'Salmon Llwyd', tra oedd hen hebog gwleidyddol deupen Menai, y Dr O.O. Roberts, a fu unwaith yn hanner lladd James Hews Bransby yn y tri degau pell, yntau yn golofnydd cyson yn Yr Herald Cymraeg ifanc.

Ac ni ddylid anwybyddu'r beirdd. Bu nifer o fuddugwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn aelodau o staff golygyddol y papur - 'Llew Llwyfo', yn is-olygydd, a bardd buddugol yn Aberdâr 1861, Aberystwyth 1865, Caer 1866, Wrecsam 1888 ac yn Llanelli yn 1895; 'Tudno', is-olygydd arall a fu'n ennill ym Mhwllheli yn 1875, yng Nghaernarfon yn 1877, yn Wrecsam yn 1888 a Bangor yn 1890.

Beirdd yr hen ganrif oedden nhw. Bu eraill o'r staff golygyddol yn amlwg yn eu dydd yn ysgrifenwyr rhyddiaith - John Evans Jones, 'Y Cwilsyn Gwyn', olynydd James Evans yn y gadair olygyddol yn niwedd Mehefin 1875; R.D. Rowlands, 'Anthropos', a fu'n is-olygydd, Daniel Rees; olynydd 'Y Cwilsyn Gwyn' yn olygydd; a John James Hughes, 'Alfardd', is-olygydd galluog ffyrnig y blynyddoedd o 1869 hyd 1875.

'Alfardd' a fu'n ysgrifennu erthyglau golygyddol yn ystod y cyfnod hwn, tra oedd James Evans yn gofalu am y papur drwyddo draw. Dyma un o gyfnodau hanes Yr Herald Cymraeg - cyfnod a ddaeth i ben pan fu farw 'Alfardd' yn sydyn ac yntau'n ŵr ifanc tair ar ddeg ar hugain oed.

Be' am gylchrediad y papur? Mae 'na rifau gwych ac aruthrol wedi'u cynnig - pum mil ar hugain oedd offrwm Gwenallt yn Llenyddiaeth Fy Ngwlad - roedd hynny'n bosibl, ond rhaid edrych ar dystiolaeth ffeiliau'r papur ei hun.

Yno fe welir bod cylchrediad wythnosol Yr Herald Cymraeg yn naw mil o gopïau yn 1857, ac yn bedwar mil ar ddeg o gopïau erbyn 1869.

Fe ellir, ac fe ddylid cymharu hyn â gwerthiant wythnosol y C.D.H. – papur Saesneg mwyaf llwyddiannus Gwynedd yn ystod y blynyddoedd hyn – mil a phum deg saith o gopïau oedd gwerthiant hwnnw yn 1861, tra oedd cylchrediad y North Wales Chronicle yn saith gant ac wyth deg ac wyth yn ystod yr un flwyddyn. Dyna'r Gymraeg yn ei nerth.

***

AR 9 Mehefin 1857 fe lansiodd James Rees y rhifyn cyntaf o'r Rhyl Visitor, yn bapur pedair tudalen ar gyfer tymor yr haf, a lyncwyd yn y C.D.H. chwe blynedd yn ddiweddarach. Wythnos yn ddiweddarach yn 1857 dyma'r Llandudno Register yn gweld golau dydd am y tro cyntaf.

Fe ychwanegwyd y geiriau And Herald at y teitl yn 1862, ond nychu fu ei hanes am sbel – doedd o ddim mwy nag un dudalen o enwau pobol ddiarth yng nghorff y C.D.H. erbyn Mai 1863. Ond fe ddaeth haul ar fryn yn ei hanes, a dechreuodd ymddangos yn wythnosolyn wyth tudalen a oedd yn cael ei gyhoeddi trwy gydol y flwyddyn.

Bu 'Creuddynfab' yn edrych ar ôl y swyddfa leol ar ran James Rees yn 1867, ac mae yna le i gredu bod 'Tudno' wedi golygu'r papur am blwc, gan gychwyn, mae'n debyg, yng ngwanwyn 1867.

Y Beaumaris Visitor oedd yr olaf o'r argraffiadau lleol o'r C.D.H. a gyhoeddwyd gan James Rees, yn bapur newydd pedair tudalen ar gyfer gwyliau'r haf. Erbyn dechrau tymor 1863 yr oedd y Beaumaris Visitor wedi peidio â bod yn bapur annibynnol, a chyhoeddwyd ef o hyn ymlaen, yn fylchog a herciog, fel tudalen arbennig o'r C.D.H.

***

DAETH nifer o brofedigaethau teuluaidd i ran James Rees yn ystod y pumdegau - ddwy golled drymaf oedd colli ei fab bychan Arthur yn Chwefror 1853 a cholli ei etifedd Walter John Rees yn un ar hugain oed yn y mis blaenorol.

Ar ôl y profedigaethau hyn fe ddechreuodd James Rees roi profiad o wahanol agweddau ar argraffu a chyhoeddi i'w feibion eraill - rhoi cyfle i James Wilmot yr hynaf o'r meibion i argraffu y pythefnosolyn Charles o'r Bala a'r misolyn Yr Aelwyd, yn 1859-1860, i dyfu yn argraffydd a chyhoeddwr yr wythnosolyn y Star of Gwent yng Nghasnewydd, yn y chwe degau cynnar, cyn dychwelyd i Gaernarfon fel un o olygyddion y C.D.H. wedi ymddeoliad William Powers Smith yn 1866.

Ond chwalwyd y gobeithion yn chwilfriw pan fu James Wilmot Rees farw yn ddeuddeg ar hugain oed yn 1869.

Cafodd Charles Herbert Rees, a anwyd yn 1847, hefyd brofiad a hyfforddiant yn y swyddfa, yn rheolwr Yr Herald Cymraeg ac yn golygu'r C.D.H. efo'i frawd hŷn. Wedi marw James Wilmot yn 1869, Thomas Llewelyn Rees oedd yr etifedd; dyn busnes oedd ef yn hytrach na newyddiadurwr, er iddo yntau olygu'r C.D.H. am gyfnod ar ddechrau'r saithdegau. Thomas Llewelyn Rees oedd asiant 'The National Line' yng Nghaernarfon, yn cynnig cyngor a gwybodaeth i bobol y dref a oedd â'u bryd ar ymfudo i America. Yn ôl hysbysiadau Thomas Llewelyn Rees llongau ager y cwmni hwn oedd llongau mwyaf y byd, ond serch hynny yr oedd hefyd yn gwerthu yswiriant bywyd ar gyfer yr 'Accident Insurance Co.' - rhag ofn.

Sefydlodd fusnes masnachwr amaethyddol yn y 'Corn Exchange' yn Stryd y Plas - mae'r siop a'r busnes yno heddiw. Disgrifiwyd Thomas Llewelyn Rees fel 'gŵr bonheddig' pan fu farw o'r diciâu yn dair ar ddeg ar hugain oed y 1876.

Y papurau newydd sydd bwysicaf, debyg iawn. Ond fe fu James Rees yn ymhel â'r wasg gyfnodol yn y blynyddoedd cyn sefydlu'r Herald Cymraeg, yn argraffu tipyn ar y Seren Ogleddol, yn argraffu Y Drysorfa Hynafiaethol ac yn cadw trefn ar 'Owain Gwyrfai', y perchennog, yn argraffu a chyhoeddi Cylchgrawn Rhyddid a'r Amaethydd yn y pedwar degau, ac yn argraffu'r Athraw Dirwestol yn niwedd 1850.

Ond Yr Herald Cymraeg oedd coron gyrfa faith James Rees. Llwyddodd ef a William Powers Smith i sicrhau bodolaeth y C.D.H. a'i wneud yn wythnosolyn Rhyddfrydol pwysig erbyn y chwedegau. Bu hefyd yn hirben wrth ddarparu ar gyfer pobol ddieithr misoedd yr haf, a llwyddodd i sefydlu'r Llandudno Register and Herald yn newyddiadur effeithiol yng ngogledd pella'r hen sir.

Eithr bychan oedd cylchrediad y papurau Saesneg ar hyd y blynyddoedd, tra oedd Yr Herald Cymraeg yn gyfrwng pwysig iawn ar gyfer lledaenu newyddion a syniadau Rhyddfrydol ym Môn ac Arfon, ac oherwydd pwyslais arbennig James Evans, yn bapur arwyddocaol yn y byd llenyddol Cymraeg drwyddo draw.

***

FE drosglwyddodd James Rees hawlfraint y C.D.H. i'w ddau fab Thomas Llewelyn a Charles Herbert a'u dau bartner James Evans, y golygydd, a John Evans, cynrychiolydd byrbwyll y Rhyddfrydwyr yn etholaeth bwrdeisdrefi Arfon, ar 25 Mehefin 1870. Yr oedd yr hen ŵr wedi ymladd "a henaint a phenllwydni wedi ei oddiwes".

Cyflwynodd hawlfraint gwerthfawr Yr Herald Cymraeg i Charles Herbert ac i James Evans ar ôl rhifyn 26 Mehefin 1869, a bu James Rees yn parhau i argraffu'r papur ar eu rhan am flwyddyn.

Yna fe ymunodd y ddau fab gyda'r golygydd a John Evans a ffurfio partneriaeth yn berchnogion grŵp yr Herald o Orffennaf 1870 hyd Fedi 1875.

Bu'r hen gyhoeddwr farw yn ei gartref yn Stryd y Castell ar 21 Mehefin 1880, wedi gweld Yr Herald Cymraeg wedi teithio 'mhell ar ei daith fel y papur wythnosol mwyaf llwyddiannus a fu erioed yn y Gymraeg.