GEMAU PANT A BRYN gan Dyfnallt Morgan
BU DAVID Jenkins Morgan yn Brif Swyddog Amaethyddol Sir Aberteifi am yn agos i ddeugain mlynedd, cyfnod yn cynnwys y ddau ryfel byd. Ac yntau ar fin ymddeol, bu farw'n sydyn tra'n ymweld, yn rhinwedd ei swydd, â Llundain.
Claddwyd ei lwch yn ei bentref genedigol, Llanddewibrefi, lle buasai ei dad, Rhys Morgan, yntau hefyd yn Gardi, yn weinidog gyda'r Hen Gorff o 1883 tan ei farw yn 1918.
Mae mwy nag un rheswm dros gyplysu ei enw ag enw R. Williams Parry wrth nodi canmlwyddiant geni’r ddau. Ei chwaer Olive a olynodd y bardd yn Ysgol Sir y Barri yn 1916.
Yn ddiweddarach priododd hi'r Dr John Thomas o Harlech, gwyddonydd disglair iawn a wnaeth gyfraniadau pwysig i ddatblygiad y diwydiant lliwiau (dyes) ym Mhrydain (gw. Y Bywgraffiadur). Y mae merch iddynt wedi priodi disgynnydd i'r enwog Ddr Livingstone.
Fel yn hanes y bardd, cyhoeddwyd dwy gyfrol o ddetholion o waith D.J. Morgan, sef Pant a Bryn yn 1953 a Gemau o Pant a Bryn yn 1954. Diau y cytunai llawer o ddarllenwyr â barn T.Ll. Stephens mai gwyddonydd o ran galwedigaeth a bardd o ran anian oedd yr awdur. Yn wir, maentumiodd Gwenallt y gallasai fod yn 'fardd peryglus'.
Er bod ei ryddiaith yn aml yn adlewyrchu ei feddylfryd barddonol, anaml y dewisodd ei fynegi ei hun ar fesur ac odl. Ceir ganddo ambell limrig, fel hwn, yn ceisio argyhoeddi rhyw ffermwr mai gwneud sŵn heb bigo y mae robin y gyrrwr:
- 'Pam goblyn yr wyt ti mor gyndyn
Yn taeru fod colyn gan Robyn?
Os gyrrir dy dda
Ar nawnddydd o ha',
Nid procio ond pyncio wna'r pryfyn.'
***
GOFIDIAI am na fedrai lunio englyn wrth ei fodd. Ond un tro mewn llith, fe ddigwyddodd lunio brawddeg gynganeddol a ysbrydolodd yr englyn hwn gan Isfoel:
- 'Wedi'r par'toi, y troi a'r trip (llinell DMJ) – ar y drum
Tynnu'r drain a'r eithin,
Arhoed Iôr hael, creawdr hin,
Yn agos gyda'r egin.'
Mewn ymateb i hyn, ymhelaethodd DJ ar helbulon tymor hau, gan nodi'r difrod a wneir gan y wire worm. Mynnai mai'r creaduriaid hyn oedd y 'bwystfilod rheibus' y soniodd Pantycelyn amdanynt a chanmolai'r emynydd am fanylder ei sylwgarwch ac am ychwanegu: 'Tyred a'r cawodydd hyfryd...' gan y gwyddom heddiw mai glaw a sulphate of ammonia sy'n eu trechu.
Dyna un enghraifft fach ymhlith ugeiniau o'r ffordd y byddai DJ'n britho ei ysgrifau wythnosol yn y Welsh Gazette (dechreuodd ddefnyddio'r pennawd 'Pant a Bryn' yn 1933) â phytiau o'i wybodaeth helaeth am feysydd y tu allan i wyddoniaeth, hanes, llenyddiaeth, yr Ysgrythurau, a materion rhyngwladol, a.y.b.
Ei ddiwylliant eang a'i gwnaeth yn ysgrifwr mor boblogaidd gan eraill, yn ogystal â ffermwyr. Yr oedd Wil Ifan yn edmygydd mawr ohono, y ddau ohonynt wrth gwrs yn feibion y mans.
Enghraifft ddiddorol o ddylanwad y cefndir hwn arno yw ei gyfeiriad at brinder 'twlc mochyn' ymhlith miloedd mân dyddynnod Yr Alban - am fod Calfiniaeth, meddai, yn glynu wrth yr hen syniad Iddewig mai peth aflan yw mochyn. Yn Iwerddon Gatholig, ar y llaw arall, y mochyn yw'r gentleman that pays the rent.
***
0 DAN oruchwyliaeth DJ daeth Ceredigion yn flaenllaw ymhlith siroedd amaethyddol Lloegr a Chymru. Ond ni chyfyngodd ei ddiddordebau i'w swydd. Yr oedd ef a'r enwog Idwal Jones yn ffrindiau mawr (yr oedd elfen gref iawn o ddigrifwch yn DJ yntau).
Mae hanes am Idwal yn cynnal eisteddfod yn Felin-fach, o aelodau ei holl ddosbarthiadau allanol, a DJ'n beirniadu popeth, gan gynnwys y canu, un o'i brif ddiddordebau.
Wedi bod drwy holl rifynnau'r Welsh Gazette o 1933 i 1949, penderfynais ddyfynnu'n weddol helaeth o'i ysgrifau yn fy narlith, 'Y Wlad Sydd Well', i'w thraddodi a'i chyhoeddi yn y Brifwyl eleni.
Fel ysgrifwr mae DJ'n amlygu'r cyfuniad hwnnw o hunan-ddadleniad a diddordeb dwys a goddefgar mewn pobl eraill sy'n nodweddu gwaith y goreuon yn y maes. Gan iddo fyw'r rhan helaethaf o'i oes yn Llanbedr Pont Steffan, lle'r oedd ei Swyddfa, mae'n biti na chafwyd trydydd detholiad o'i ysgrifau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yno eleni. Pur anaml y daw dyn ar draws copïau ail-law o'r ddwy gyfrol arall. Mae hynny'n arwyddocaol.