CYFROL HEB GYMAR ~ William Linnard
Y MAE rhai enwau yn mynd gyda'i gilydd mewn parau naturiol; cariadon lle mae'n amhosibl i feddwl am yr un heb y llall, e.e. Culhwch ac Olwen, Trystan ac Esyllt, a Romeo a Juliet.
Daw llyfrau yn aml iawn hefyd mewn parau annatod, megis y Testament Hen a Newydd, y Llyfrau Gleision, a'r ddwy gyfrol yn yr argraffiad diweddaraf o'r OED (y Compact Edition).
A cheir rhai llyfrau a fwriadwyd yn wreiddiol fel dwy gyfrol ond, am ryw reswm, ar ôl i'r gyfrol gyntaf ymddangos, methodd yr ail â gweld golau dydd. Y mae hanes cyhoeddi yng Nghymru yn frith o deitlau ar eu hanner, ysywaeth.
***
YR enghraifft amlycaf, o bosibl, yw Iolo Morganwg: Y Gyfrol Gyntaf (GPC, 1956) gan G.J. Williams. I'n colled dragwyddol, bu farw yr awdur cyn cwblhau ei gampwaith, a welwn ni byth ail gyfrol y llyfr godidog hwn, rwy'n ofni.
A sôn am yr hen feistr Iolo – yn y cyswllt hwn mae ei enw yn dod â gofid arbennig i mi yn bersonol. I'r casglwr pybyr, gofid calon yw cael cyfrol heb ei chymar briodol, ac eto gwybod yn iawn bod y cymar ar gael yn rhywle. Gadewch i mi esbonio. Y mae gennyf hanner trysor, sef copi gIân o'r gyfrol gyntaf yn unig o Poems Lyric and Pastoral gan Edward Williams (Iolo Morganwg), a gyhoeddwyd fel set o ddwy gyfrol yn Llundain, 1794.
Rwyf wedi bod yn holi ac yn chwilio am yr ail gyfrol ers blynyddoedd bellach, ond yn ofer, wrth gwrs. Dywedodd perchennog siop lyfrau ail-law wrthyf – mewn cysur, efallai – fod cyfrolau unigol o'r llyfr hwn yn dod ar y farchnad ar wahân weithiau, sef cyfrol I heb gyfrol II, a vice versa.
Gallwch ddychmygu fy nghyffro a gobaith pan glywais fod cyfaill agos yn yr un sefyllfa â minnau, sef gydag un gyfrol yn unig o'r set o ddwy – ond och, y siom chwerw wedyn, wrth sylweddoli taw y gyfrol gyntaf oedd ganddo ef hefyd!
***
Argraffwyd nifer cymharol fawr o gopïau o'r Poems Lyric and Pastoral – teyrnged i boblogrwydd a diwydrwydd yr hen Iolo. Yn ôl y rhestr hir o enwau tanysgrifwyr yn y gyfrol gyntaf, aeth dros wyth gant o setiau i danysgrifwyr yn unig, heb gyfrif y copïau ychwanegol eraill a argraffwyd i fod ar werth i'r cyhoedd yn gyffredinol am ddeg swllt y set.
George, Tywysog Cymru, oedd y prif danysgrifiwr, gyda llaw, a daeth y rhan fwyaf o'r tanysgrifiwyr eraill o Dde Lloegr a Morgannwg.
Y mae'n amlwg, felly, fod nifer o gopïau o'r gyfrol gyntaf a'r ail gyfrol wedi cael eu hymwahanu dros y blynyddoedd, a nawr maent ar wasgar hwnt ac yma – yn barau a ysgarwyd, yn setiau ar chwâl. Y maent yn aros ar eu silffoedd fel calonnau unig, yn amyneddgar yn eu hunigedd – yn aros yn drist ac yn ffyddlon am ddyfodiad eu cymar coll!
Wrth gwrs, bydd y ddwy gyfrol gyda'i gilydd, clawr wrth glawr, yn hapusach o lawer na'r ddwy ar wahân – byddant yn gyflawn! Tybed, felly, a all rhywun helpu - i ddiddymu'r ysgariad anffodus hwn, a gwneud pâr priod ohonynt unwaith eto?