CWCH ENLLI - AI UN FEL HYN? gan Ioan Mai Evans

 

"MA' DEL y ci yn b'yta gwellt", medda fi wrth fynd at garej Tomos, y tad a'r mecanic sydd yn y darlun.

"Ydi, … wedi ngweld i yn barbio mae o ysdi", medda fynta dan sgriwio'i ffordd i gladdu ei hun ym mherfeddion lori wartheg fawr.

Ateb digon tebyg gawsoch chitha hefyd ynte, Mister Golygydd, am i chi holi pam fod cymaint o olwg ar gar y gweinidog hwnnw o Bwllheli gynt pan oedd Tomos yn ei drin.

"Wedi bod yn gyrru ar y mwyaf mewn c'nhebrynga mae o", dyna'r ateb gawsoch chi ynte? Ydi mae' Tomos yn un sgit i daro caead ar ych piser chi a finna.

A newydd ddod i ddeall mai gwreiddyn Enlli sydd wrtho rydw innau. Cofio wedyn am sgwrs a gefais unwaith hefo un o hen ffermwyr Ynys Enlli, a hwnnw yn dweud mor wahanol oedd ŷd a haidd Enlli i’r hyn ydoedd ar y tir mawr, yn well o lawer ac yn drymach, medda fo. Mae hyn yn wir am y bobol hefyd erbyn gweld.

Mae Tomos Gruffydd, Modurdy'r Sychnant, Pentreuchaf, yntau hefyd yn ymwybodol o'r gwreiddyn - mor ymwybodol fel y galwodd ei ferch ieuengaf yn Enlli Angharad, ac un o blant Enlli oedd ei hen nain yntau sydd yn y llun. Yr hen daid Hugh Hughes, y mae ei lun yn nwylo Hafwen a Sian Teleri, yn gryn jero yr olwg.

Ond beth am weddill yr hiliogaeth? Cyfrifiad 1851 yn dangos ei fod yn fab Dynno Goch, ac yn un o chwech o'r teulu oedd yn byw yno. Brawd arall hyn William Hughes, yn sgotwr fel y tad Evan Hughes, oedd hefyd yn ffarmio deunaw acer ac yn dod yn wreiddiol o Langwnnadl, ond Ellen ei wraig yn wreiddiol o Enlli, ac wedi ei geni yno ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

Mae'n syndod erbyn hyn y defnyddiau sydd wrth law ar hanes Enlli, o'r cyfnodau cynnar hyd at y brenin olaf Love Pritchard a gafodd ei groesawu ar lwyfan Eisteddfod Pwllheli yn 1925 fel un o'r ‘Cymry Tramor' gan Lloyd George, i guro dwylo byddarol y dorf.

***

ETO i gyd rwyf wedi methu â chael fawr o grap gan neb am gwch Enlli, ei hyd a'i led, a'i rinweddau neu ffaeleddau. Ond fel yr ŷd, yr haidd, a'r bobol eu hunain - cwch arbennig ac unigryw mae'n siŵr i chi. Ai cwch fel un y darlun sy'n gorwedd yn ddioglyd ar draeth Enlli ydoedd?

Cwch dau flaen fel un taid Tom Nefyn yw hwn - cwch ag iddo rinweddau amlwg yn eigionfor Swnt Enlli:

canodd J.T. Williams, tad Tom Nefyn ac un arall oedd â'i wreiddiau ar Enlli,

Gwyddom mai SALMON oedd enw cwch yr hen daid, a thybed a ydoedd yn nodweddiadol o gychod eraill Enlli?