CRONICLWYR Y RHYFELOEDD ~
Gwyn Llewelyn a'r adar drycin

YCHYDIG a wyddom ni am y rhyfel hir sy'n cael ei ymladd gan Rwsia yn erbyn Afghanistan. Dyw'r Hindu Kush mo'r lle hawdda yn y byd i fynd iddo. Mwy anhygyrch fyth yw'r ffin rhwng China a Gogledd Vietnam ac mae 'na, meddan nhw, frwydro ffyrnig yno.

Dydan ni ddim yn siŵr beth sy'n digwydd oherwydd nad oes yna, hyd y gwn i, na Hilton na Sheraton ym mhen y Khyber Pass nag hyd y llinell annelwig sy'n gwahanu gwlad fwya' poblog y byd ag un o'i chymdogion tua'r de.

Fe ddarfu dyddiau anfon negesydd ar draws gwlad yn cario adroddiadau'r gohebwyr mewn cleft-sticks. (Os yn wir y bu'r fath genhadon y tu allan i ddychymyg Evelyn Waugh!) Erbyn hyn gwestai moethus sy'n gwneud rhoi sylw i ryfeloedd yn bosib. Y nhw sy'n medru cynnig y dolennau cyswllt hollbwysig rhwng gohebwyr a'u swyddfeydd ledled y byd. Maen nhw hefyd wrth gwrs yn rhoi cysur ar derfyn diwrnod caled o waith.

Yn y Commodore yn Beirut, yn y Camino Royale yn San Salvador, roedd rhew i oeri'r gwirod a phyllau nofio i oeri'r gwaed ar derfyn dydd. Eto hawdd iawn, wedi anfon yr adroddiadau yn ôl, boed i Good Morning, America neu i Newyddion Saith yw i ohebwyr anghofio am y bechgyn (cyfeillgar iawn at ei gilydd) y treuliwyd y dydd yn eu cwmni: y milwyr, yn wahanol i ni, oedd heb fod â'r dewis i gefnu ar faes y gad.

Profiad gwerthfawr fu cael bod yn llygad dyst, ddwywaith yn ddiweddar, i'r ffordd yr ymleddir rhyfeloedd modern. Y naill, yn Beirut, yn rhyfel confensiynol (fwy neu lai!) gyda byddinoedd yn wynebu ei gilydd o fewn tafliad carreg bron.

Y llall, yn El Salvador, yn wrthdaro rhwng gwrthryfelwyr a llywodraeth. Hwnnw'n rhyfel, fel yng Ngogledd Iwerddon er enghraifft (lle bûm hefyd yn ddiweddar) lle mai dichell ac ystryw yn hytrach na gwrthdaro agored sydd ar waith.

***

OND YR un mor ddylanwadol â'r Kalashnikov a'r Armalite ymhob ymrafael bellach yw'r Sony a'r Ikegami, a'r dechneg a fwydir ganddynt a elwir yn E.N.G. Saif y llythrennau am 'Electronic News Gathering': y cwmnïau a nodais sy'n cynhyrchu'r cyfarpar a fu'n gyfrwng, o ynysoedd Falkland a Sgwâr St. James, Beirut ac El Salvador, i ddangos i'r byd yr hynt a'r helynt i gyd.

Yn ddiamau ni fu erioed dechneg berffeithiach i drosglwyddo newyddion, a thestun tristwch yw fod pengaledi undebau llafur o fewn rhai o'r cwmnïau teledu annibynnol ym Mhrydain yn gwahardd defnyddio ENG. Dal i gael eu gwthio eto ymhellach y mae terfynau'r dechnoleg newydd a does wybod, erbyn troad y ganrif, pa mor fychan ac ysgafn fydd yr offer y bydd ei angen i anfon adroddiadau yn uniongyrchol o bob cwr o'r byd.

Y canlyniad yw na fu sylw Marshall McLuhan erioed mor wir. 0 ddydd i ddydd y mae'r cyfrwng fwyfwy yn ymdebygu i’r neges. Yn wir mor hyblyg yw'r cyfrwng bellach nes cynnig y demtasiwn i roi pwyslais afresymol weithiau ar y cymharol ddibwys.

Fore'r etholiad yn El Salvador gyrru gyda thoriad gwawr i bentref unig i weld bwrw pleidleisiau cynta'r dydd. Heibio tro yng nghesail bryn dod at res o 'fomiau' wedi eu gosod ar draws y ffordd gyda gwifren faglu yn eu cysylltu, a phosteri amrwd yn datgan mai ar imperialaeth America yr oedd y bai am holl drafferthion y wlad.

Dau griw teledu a gohebydd radio o America oedd y rhai nesaf i gyrraedd y fan. Mewn dim o dro cyfri deunaw o bobl i gyd. Yr un ohonom ag unrhyw gysylltiad ag El Salvador! Cyn hir daeth y fyddin. Saethwyd at y 'bomiau' i weld a ellid eu tanio. Nid oeddynt ond tuniau paent llawn pridd. Eto cyn nos fe'u gwelwyd ar setiau teledu pob gwlad trwy'r byd bron ac eithrio El Salvador ei hun.

Ar gynfas digwyddiadau'r wlad helbulus honno yr oedd y weithred prun bynnag yn llai na dibwys. Efallai'n wir mai dyna oedd pwynt y brotest ac mai ar ein cyfer ni y cafodd ei threfnu ar y ffordd unig honno tua'r bryniau!

Os felly, fe lwyddodd. Drwy gyfrwng y cyfrwng fe ddangoswyd geiriau slogan wrth-Americanaidd y posteri ymhell tu draw i derfynau America Ganol.

***

YN NYDDIAU rhyfel Vietnam y cychwynnwyd ymladd brwydrau yng ngŵydd y byd; ac y daethom i gynefino â phob math o erchyllterau o glydwch ein cartrefi.

Gydag arswyd y bwriadwyd inni edrych ar luniau felly. Dyna'n sicr fy mhrofiad i wrth baratoi'n grynedig i fynd i Beirut ac anterth yr ymrafael yn dynesu. Darllen yn y trên ar y ffordd i Lundain fod gohebydd teledu o Canada wedi cael ei saethu ym mryniau'r Chouf. 0 fewn dyddiau roeddwn i yno fy hun.

Darllen yn yr awyren ar y ffordd i El Salvador fod tynnwr lluniau i'r cylchgrawn Americanaidd Newsweek wedi ei saethu'n farw ar gyrion pentref y bûm innau ynddo.

Wedi'r cwbwl, yn wahanol i'r milwr, does dim rheidrwydd ar ohebydd rhyfel i fentro'i fywyd (er fod llawer yn gwneud), a buan y dysg newyddian yn y drin fod canllawiau i'w dilyn; dull o ymddwyn hyd yn oed ar faes y gad.

Y wers gyntaf i ddygymod â hi yw nad gŵr i'w ofni, o anghenraid, yw gŵr yn cario gwn er i mi, fwy nag unwaith yn Beirut, deimlo baril dryll ar fy ngwegil!

***

WEDI gadael Beirut i gyfeiriad y bryniau tua'r de gwelem o dro i dro fflach yr ergydion; yna sŵn y magnelau yn ein cyrraedd o hirbell. Gorfod symud o'r ffordd bob hyn a hyn i wneud lle i gerbydau ambiwlans y fyddin. Cyn cyrraedd Souk al Gharb cael ein hatal droeon gan filwyr byddin Libanus. Ond y gair gwyrthiol 'Sahafi' (Y Wasg) yn gweithio bob tro fel allwedd i'r holl ddorau ar y ffordd i ryfel.

Cerbydau'r Wasg fe ymddengys yw rhai o'r ychydig a fedr groesi'r ffiniau fel hyn a chael rhwydd hynt i grwydro'n gymharol ddirwystr drwy dir neb.

Cyrraedd pentref Souk al Gharb yn y diwedd, a hwnnw'n yfflon. Cerdded ffordd dywodlyd a chasáu bwledi yn garped disglair dan draed. Trwst y gynnau mawr yn nes. Clywed, am y tro cyntaf, sŵn bwledi yn siffrwd trwy ddail y coed.

Dyrnaid o ohebwyr o'n blaenau yn cael lifft mewn cerbyd cario milwyr a elwir yn APC (Armoured personnel carrier). Fy nghyd-weithiwr Keith Graves yn gweld y syniad yn un da ac yn awgrymu y dylem ninnau ofyn cludiant gan y nesaf i basio.

"Dim ar unrhyw gyfri" meddai'r gŵr camera, Bill Nicoll, a fu mewn sefyllfaoedd tebyg sawl tro, "Mae un o'r rheina yn darged mwy a gwell na ni. Fe gerddwn."

Dringo'r ffordd dyllog o Souk al Gharb i Kaifoum yng nghwmni gohebydd Americanaidd mewn crys blodeuog, llachar.

"Mae'n siŵr eich bod chi'n meddwl 'mod i'n ffŵl yn gwisgo fel hyn", meddai, "ond chymrwn i mo'r byd â dod i le fel hyn wedi 'ngwisgo fel 'na."

Cyfeiriai at fy nghrys saffari buddiol, lliw mwd, yn bocedi i gyd. Aeth ati i esbonio.

"Rydan ni'r munud yma yng ngolwg milwyr yr ochor acw."

(A chan mai yng nghwmni lluoedd Libanus yr oeddem, y 'gelyn' y munud hwnnw oedd y Druze Militia.)

"Pe bai nhw'n dewis saethu atom ni", meddai fy nghyfaill, "y chi ac nid y fi fyddai'r targed. Peidiwch byth â mynd i ryfel wedi'ch gwisgo fel milwr!"

***

YN ÔL i Beirut a gan herio gwylnos orfodol (ond llac) oriau'r nos, croesi'r ddinas i fwyta mewn gwesty gwahanol, am newid. A ninnau ar fin gadael dyma ffrwydrad yn siglo'r adeilad. Pawb yn rhuthro i stryd llawn mwg a gwydr yn deilchion dan draed.

Pob greddf yn ein denu i gysgod yr adeiladau tal ond y dyn camera (ie, yr un oedd â'i gyngor yn Souk al Gharb) yn ein hannog i oleuo'n lampau llaw ac i gerdded yn dalog dan siarad yn uchel ynghanol y stryd. Rhai'n dadlau, yntau'n gweiddi.

"Gwnewch fel rydw i'n dweud. Fe esboniaf eto."

Yn ôl wrth far yr 'Ambassador' eglurodd y byddai gofyn 'sniper' llwfr iawn i saethu at bobl uchel eu cloch ynghanol y stryd ond fod pobl yn sleifio'n llechwraidd yn y cysgodion yn 'fair-game'.

Oes, mae i bob gêm ei rheolau, dim ond fod y pris am golli ambell un yn uwch.

Heddiw go brin y byddai'n anodd cael ystafell yng ngwesty drudfawr yr Ambassador. Gyda gwrthgiliad y Marines Americanaidd o Beirut (yr holl ffordd erbyn hyn i North Carolina!) fe aeth camerâu'r byd adre hefyd gan ein gadael i dybio bod pethau'n dawel o'r diwedd yn Libanus.

Felly hefyd yn El Salvador. Ar gyfer rownd gyntaf yr etholiad ddiwedd Mawrth roedd yno fil o sylwebyddion cofrestredig o bob cwr o'r byd. Ar gyfer yr ail rownd (bwysicach) yn fwy diweddar nid oedd yno ond dyrnaid.

***

OND YN El Salvador, fel y Beirut, fel yn y dwsinau o lecynnau terfysg ledled y byd, fe bery'r lladd. Dim ond am nad oes ynddynt i gyd gamerâu i gofnodi'r hanes y'n cyflyrir ni i gredu bod pethau'n well nag yr oedan nhw.

Yn wir, a ellir meiddio awgrymu fod pethau'n well? A yw dangos lluniau o frwydro yn cyfrannu at barhad y frwydr? A yw sôn cyson am ryfel yn dod â phosibilrwydd y rhyfel hwnnw yn nes?