COFIWCH yw cais Y Golygydd
SYLWCH ar yr hysbyseb ar yr ail dudalen. Bu Y Casglwr yn ceisio cael y Gymdeithas Lyfryddol i atgyfodi, gan y medr ddelio'n helaethach a mwy academaidd na'r Casglwr gyda phynciau'n ymwneud â chyhoeddiadau Cymru. Medrwch sicrhau ôl-rifynnau'r Gymdeithas yn ogystal â sicrhau ei rhifyn newydd a dod yn aelod ohoni – sy'n Gymdeithas annibynnol dan nawdd y Llyfrgell Genedlaethol ac yn hollol ar wahân i Gymdeithas Bob Owen.
Yn y Brifwyl medrwch alw ym mhabell Gwasg Gwynedd ar y maes i dalu dyledion, sicrhau ôl-rifynnau o'r Casglwr a dod ag aelodau newydd sbon efo chi, gobeithio, i gwblhau'r daith fer tua mil o aelodau.
Hefyd, nid yn unig fe draddodir darlith flynyddol Gymdeithas Bob Owen yn y Babell Len am unarddeg fore Gwener ond am chwarter i unarddeg yn y Babell Len o flaen y ddarlith fe gynhelir cwrdd blynyddol aelodau Cymdeithas Bob Owen - a gwahoddiad cynnes yno i bob un ohonoch. Testun y ddarlith - Griffith John Williams (1892-1963) a'r darlithydd - Aneirin Lewis o Adran y Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Caerdydd.
Gwahoddir cyfraniadau i’r Casglwr oddi wrth unrhyw un o'r aelodau – a beth am anfon ychwaneg o lythyrau? Cofiwch hefyd y medr pob aelod hysbysu am lyfrau ar werth neu yn eisiau am ddim – hysbysiadau gweddol fyr wrth gwrs. A mawr ddiolch i'r hysbysebwyr sy'n talu am eu lle.