CAMPWAITH Y "DERWYDD" ~
Tomos Roberts ar Henry Rowlands

TREULIODD Henry Rowlands (1655-1723) ei oes yn berson plwyf ar lannau Menai. Ychydig addysg ffurfiol a gafodd, ac yn ôl rhai ni theithiodd erioed ymhellach na Chonwy. Ni chyhoeddwyd yr un o'i weithiau yn ystod ei fywyd, ond eto cafodd ei syniadau hanesyddol, ac yn enwedig ei ddamcaniaethau am y Derwyddon a'u cysylltiadau â Môn, ddylanwad mawr ar Gymry a Saeson y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ganed Henry Rowlands yn 1655. Yr oedd yn fab i William Rowlands o Blasgwyn, Llanedwen, Môn. Ni chofnodir iddo dderbyn addysg ffurfiol mewn ysgol na choleg. Dywed Thomas Pennant 'na fwynhaodd unrhyw fanteision llenyddol ond a gafodd yn ei ynys enedigol'. Mewn rhaglith i gyfrol lawysgrif a gafodd y teitl 'Yswlediad byr o'r holl gelfyddydau a gwybodaethau enwogcaf y byd', ac a gyhoeddwyd yn Cymru XII tt.261-4, dywed Lewis Morris hyn:

Ysgrifennodd Lewis Morris y geiriau hyn yn 1729 tua chwe blynedd ar ôl marwolaeth Henry Rowlands.

Ordeiniwyd Rowlands yn ddiacon ac yn offeiriad yn 1682. Cafodd fywoliaeth Llanfair Pwllgwyngyll a Llandysilio yn yr un flwyddyn a Llanidan ynghyd â Llanedwen, Llanddanielfab a Llanfair y Cwmwd yn 1696. Yma yn y plwyfi hyn ar lan y Fenai yng nghysgod rhai o gromlechi, claddfeydd meini hirion a rhai o henebion hynotaf Môn y bu'n byw ac yn gweinidogaethu hyd ei farwolaeth yn 1723.

Diau iddo dreulio llawer o flynyddoedd yn dyfalu pwy a gododd y cromlechi o'i gwmpas a pha bwrpas oedd iddynt. Ar yr un pryd yr oedd yn darllen gweithiau ysgrifenwyr Rhufeinig megis Tacitus, ac yn llythyru ag ysgolheigion ei ddydd megis Edward Lhuyd. Mae'n amlwg hefyd iddo weld llawer o hen ddogfennau.

Ond, yn rhyfedd, i fyd amaeth y troes yn gyntaf. Tua 1704 lluniodd draethawd ar amaethyddiaeth yn gyntaf. Tua 1704 lluniodd draethawd ar amaethyddiaeth yn dwyn y teitl 'Ideae Agriculturae'. Ni chyhoeddwyd y traethawd hwn hyd 1764.

Tua chwe blynedd yn ddiweddarach lluniodd draethawd Lladin yn dwyn y teitl 'Antiquates Parochiales'. Yn y traethawd hwn ceisiodd olrhain disgyniad tiroedd rhai o drefgorddau a phlastai cwmwd Menai o'r canol oesoedd ymlaen.

Cyhoeddwyd rhan o'r traethawd hwn yn rhannau yn Archaeologia Cambrensis tua chanol y ganrif ddiwethaf. Dyma gymwynas bennaf Henry Rowlands i haneswyr y ganrif hon gan iddo gynnwys yn ei draethawd gopïau o weithredoedd a siarteri o'r oesoedd canol sydd bellach wedi diflannu.

***

PRIF ffrwyth ei lafur, fodd bynnag, yw'r gyfrol Mona Antiqua Restaurata a gyhoeddwyd gyntaf yn Nulyn yn union ar ôl marwolaeth Rowlands yn 1723. Ailargraffwyd y gyfrol dan olygiaeth Dr Henry Owen yn 1766.

Ymgais oedd y gyfrol i adfer ac atgyfodi hanes Môn o gyfnod y dilyw, ac i wneud hynny trwy gyfuno tystiolaeth cofnodion a dogfennau â thystiolaeth henebion ac enwau lleoedd. Esbonnir y dull hwn yn y rhagair:

Ar ôl trafod y cefndir daearyddol mae'n symud yn gyflym at ei brif bwrpas, sef profi mai ym Môn, ac yn arbennig yn Llanidan, yr oedd prif ganolfan Derwyddon Prydain. Honnai mai temlau ac allorau'r Derwyddon oedd rhai o'r henebion ym mhlwyfi Llanidan a Llanedwen.

Aeth ati i ddisgrifio defodau ac athrawiaeth y Derwyddon, a haerai fod yna dair gradd yn eu plith, sef Drudau, Offwyr a Beirdd. Yna ceisiodd brofi fod yna gysylltiad rhwng y Derwyddon a rhai o enwau lleoedd Llanidan.

Ond, er mwyn gwneud hyn, bu'n rhaid iddo lurgunio ac ystumio'r enwau. Mynnodd mai yn Nhre'r-dryw yr oedd cartref y Prif Dderwydd, ond mai Trerdrew oedd ffurf gywir yr enw. Dan ei law aeth Bodrida yn Bodrudau (cartref y Drudau) a Bodwyr yn Bodoffwyr (cartref yr Offwyr).

Dywedodd hefyd mai trefgordd Tre'r-beirdd yn Llanidan oedd cartref y drydedd radd o Dderwyddon – y Beirdd, ac mai cylch pridd Bryngwyn (Breingwyn yn ôl Rowlands) oedd safle llys barn y Derwyddon. Afraid dweud fod yr holl ddamcaniaethau hyn ynghylch enwau lleoedd yn gwbl gyfeiliornus a diwerth.

***

AR ÔL traethu yn hirfaith am y Derwyddon mae Rowlands yn symud ymlaen at gyfnod y Saint a'r Tywysogion. Mewn atodiadau ceir rhagor o'i ddamcaniaethau ieithyddol ynghyd â rhestrau o bersoniaid plwyf, aelodau seneddol a siryfion. Ychwanegwyd enwau a nodiadau mewn llawysgrifen mewn amryw o gopïau.

Ceir cryn hanner dwsin o gopïau o gyfrol Rowlands yn cynnwys ychwanegiadau yn Llyfrgell Coleg y Gogledd ym Mangor, ac y maent bellach yn ddogfennau pwysig a defnyddiol. Cedwir copi llawysgrif o'r gyfrol yn llaw Rowlands ei hun yn y Llyfrgell hefyd. Mae amryw o fan amrywiadau yn y testun i'w gweld yn y gyfrol ac ar y diwedd ceir cywydd marwnad i Henry Rowlands gan Richard Edwards.

***

MAE'R Morrisiaid yn cyfeirio at waith Rowlands yn eu llythyrau droeon. Maent yn bur feirniadol o'i gopïau o arysgrifau ond nid ydynt, hyd y gwelaf yn beirniadu ei syniadau am y Derwyddon.

Mae Joseph Craddock, fodd bynnag yn y gyfrol Letters from Snowdon a gyhoeddwyd yn 1770 yn hynod feirniadol o syniadau Rowlands am y Gymraeg:

Ar ôl cyfnod Craddock derbyniwyd gwaith a syniadau Rowlands fwyfwy gan deithwyr a thopograffyddwyr. Teithiodd degau ohonynt – gwŷr megis Bingley, Hucks a Skinner – o gwmpas Môn rhwng 1775 a 1820 gan aros yn Llanidan a chwilio'n ddyfal am olion Derwyddol.

Dylanwadodd syniadau Rowlands yn drwm ar y Monwysion hefyd. Ar ôl 1770 daeth yr enwau Mona a Druid yn hynod o boblogaidd ym mysg yr ynyswyr. Yr oedd gan Ardalydd cyntaf Môn ddwy long bleser, sef y 'Mona' a'r 'Druid'. Cafodd ei bwll copr ar Fynydd Parys yr enw Mona Mine. Ceid llun pen Derwydd ar arian bath y cwmni copr.

Yr oedd gan yr Ardalydd hefyd ddau stiwart i warchod ei fuddiannau ym Môn. Trigai un yn Mona Lodge yn Amlwch a'r llall yn Druid Lodge yn Llanedwen. Codwyd dwy dafarn ar ffordd Telford i Gaergybi ym mhlwyfi Heneglwys a Threwalchmai, sef y Mona Inn a'r Druid Inn. Aeth Mona bellach yn enw ar yr ardal o amgylch maes awyr Mona.

Yn ystod y Rhyfel Mawr sefydlwyd ysbyty filwrol ar dir y Druid Inn. Ar ôl y rhyfel symudwyd yr ysbyty i Langefni ond cadwyd yr enw Ysbyty'r Druid.

Yn 1772 sefydlwyd math o gymdeithas gyfeillgar gan foneddigion Môn a chafodd yr enw 'The Anglesey Druidical Society'. Gelwid llywydd y gymdeithas yn Archdderwydd a bu'n llewyrchus iawn hyd dridegau'r ganrif ddiwethaf.

***

DYLANWADODD syniadau Rowlands ar ddyfeisiwr Gorsedd y Beirdd a'i gefnogwyr hefyd. Yn wir, wrth ymosod ar y sefydliad clodwiw hwnnw eilwaith yn Y Beirniad yn 1911 dywed Syr John Morris-Jones:

Yr oedd gan Rowlands ei ddilynwyr ym Môn hyd ddiwedd y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon. Ym mysg y mwyaf pybyr ohonynt yr oedd yr hynafieithydd R.T. Williams (Trebor Môn). Cyhoeddodd ef y gyfrol Derwyddiaeth ... yn Ynys Môn yn ôl Traddodiad a Dysg yn 1890. Ceir ailbobiad o lawer o syniadau Rowlands ynddi.

Yna yn 1805 cyhoeddodd y gyfrol Enwau Lleoedd yn Môn a'u Tarddiad ... Defnyddiodd Trebor Môn ddulliau Rowlands gan ystumio enwau lleoedd i geisio profi fod cysylltiadau rhyngddynt a'r Derwyddon. Dyma berl o'i gyfrol:

Bodfilog: Cyrchle ar amserau nodedig y billhook (yr eurgyllell), a dorrai’r uchelwydd (mistletoe) - trysor goreu'r Derwydd, a rhodd bennaf y nefoedd ei hun iddynt meddynt.

Erbyn hyn chwalwyd damcaniaethau Henry Rowlands bron yn llwyr. Dangosodd archeolegwyr yr ugeinfed ganrif fod y claddfeydd ym mhlwyfi Llanidan, Llanedwen a Llanddanielfab a chlawdd pridd Bryngwyn yn llawer hŷn nag Oes yr Haearn.