Y PORTREADAU YNG NGHYMRU gan Paul Joyner

MAE peintiadau a wneir o bobl yn bethau pur bersonol yn eu hanfod – portreadau o frenhinoedd, byddigions, llenorion, gwŷr busnes, colofnau'r Eglwys wedi eu llunio'n bennaf ar gyfer aelodau o'u dosbarth cymdeithasol eu hunain.

Ar y llaw arall mae portreadau printiedig ar gyfer y cyhoedd, yn cael eu cynhyrchu wrth eu cannoedd ac ar gael i gynulleidfa fawr. Fel rheol argraffiadau llai yw'r rhain, megis y ddau lun a gyhoeddir yma, o bortread printiedig gwreiddiol.

Christmas Evans

Syr Hugh Myddleton

Yr oedd yna bortreadau printiedig yng Nghymru yn yr ail ganrif ar bymtheg, ond dim ond yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y daethant yn gyffredin a phoblogaidd. Oes aur y portread printiedig oedd 1750-1850 a dyma'r cyfnod pan ysgythrwyd y mwyafrif o'r lluniau Cymreig.

Paratowyd y catalog cyntaf o bortreadau printiedig gan Joseph Ames - A Catalogue of English Heads, London 1748, ond er waetha'r teitl mae lluniau'r Cymry wedi eu cynnwys - mae Syr Hugh Myddleton (1560-1631) yn esiampl nodedig. Yr oedd y cymwysterau ar gyfer cael eu cynnwys gyda'r ysgythriadau cynnar ganddo i gyd - cyfoethog, teitl ganddo, a'i enw'n adnabyddus trwy'r wlad.

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif daeth newid. Yr oedd yna fwy o arlunwyr a llawer mwy o bobl yn cael eu lluniau ar gynfas ac wedi eu hysgythru. Ac atebwyd yr alwad am luniau o bregethwyr mawr Cymru, megis Christmas Evans (1766-1838) gan arlunwyr o Loegr ac o Gymru.

Ac yr oedd Hugh Hughes o Ddyffryn Conwy (1790-1863) yn medru peintio'r portread ac ysgythru'r portreadau - medr anarferol. Cynhyrchai lluniau fuasai'n gwerthu'n weddol dda, a'r mwya' poblogaidd oedd y pregethwr mwya'n y byd o luniau a werthid.

Ar ôl 1850 fe aeth y grefft ar y goriwaered. Yr oedd y camera wedi cyrraedd ac ychydig iawn o bortreadau Cymreig a brintiwyd wedi'r dyddiad yna. Yr oedd Oes Aur y print Cymreig ar ben.