Y GAROL NADOLIG GYMRAEG ~
Meredydd Evans a'r cefndir
PRYNAIS y gyfrol sy gennyf o Hen Gwndidau ('Hopcyn' a `Cadrawd', Bangor, 1910) ar faes Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon; hynny ym mhabell Eirug Wyn. Bûm yn pori ynddi o dro i dro, ymhell cyn imi ei phrynu, ond diddordeb cyffredinol yn y canu rhydd, wedi imi ddarllen Canu Rhydd Cynnar (T.H. Parry-Williams) yn y chwedegau, a barodd imi wneud hynny. Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae fy niddordeb ynddi wedi bod yn fwy penodol. Bellach, carwn wybod llawer mwy am ddatblygiad y garol Nadolig Gymraeg, a chan mai canu crefyddol yr unfed ganrif ar bymtheg, gan mwyaf, a geir yn Hen Gwndidau daeth yn ofynnol imi ddarllen y gyfrol yn ofalus.
Bu'n brofiad dymunol a gellid sgrifennu am sawl agwedd ar y cwndidau a gynhwysir ynddi: mae'n gloddfa werthfawr, er enghraifft, i haneswyr cymdeithasol a geirgwn o wahanol fath. Ond rhaid imi adael materion trymaf y gyfraith i eraill, gan obeithio y bydd o ddiddordeb i rai o ddarllenwyr Y Casglwr ystyried ambell sylw cyffredinol ar y carolau Nadolig sydd yn y gyfrol.
Honnir yn y Rhagymadrodd (t. xvii) mai cerddi mwyaf poblogaidd y casgliad yw'r carolau a genid yn yr eglwysi ar ddydd Nadolig a chystal cyfaddef ar unwaith y gallai hyn fod yn wir, ond sylwer bod tanlinellu y ferf fel yna yn bwrw goleuni yn y fan a'r lle ar natur y garol Nadolig Gymraeg. Y gwir yw fod llawer o'r cwndidau yn debyg o ran cynnwys i'r hyn a ddisgrifir yn y llawysgrifau a'r llyfrau argraffedig fel `carolau plygain'.
***
NI ellir manylu ar hyn yma ond gellir datgan yn ddiogel mai nodwedd amlycaf y carolau Nadolig Cymraeg yw eu swyddogaeth addysgol, bropagandyddol, a phrin iawn yn aml yw unrhyw gyfeiriadau ynddynt at amgylchiadau geni Iesu Grist. Arwyddocâd y Crist fel gwaredwr dynolryw yw'r mater pwysicaf yng ngolwg y cardotwyr ac nid oes ond cymharol ychydig o ymhyfrydu yn nrama'r geni.
Y swyddogaeth addysgol, athrawiaethol, hon sydd amlycaf hefyd yn y cwndidau ac nid oedd awdur y cwndid coffa i Sion Thomas o Blwyf Lidnerth yn gwneud dim amgen na disgrifio'r cwndidwyr yn gyffredinol wrth gyfeirio at y gŵr hwnnw fel un a 'wnâi'n ddi-feth gerdd o bregeth'.
Pregethwyr ar gân oeddynt a diamau eu bod yn gweld yr angen am hynny oherwydd bod y ddarpariaeth ar gyfer pregethu ym mhlwyfydd Cymru'r cyfnod mor druenus o ddiffygiol. Cyfle da iddynt oedd gwyliau mawr yr Eglwys, y Nadolig yn arbennig.
0 ddarllen y cerddi'n fanwl, serch hynny, daw'n amlwg nad oes ond rhyw bump ohonynt (allan o gryn 111) y gellir teimlo'n weddol sicr eu bod yn gerddi Nadolig, fel y cyfryw: `Carol yn dangos eisiau cariad perffaith' (77-80); 'Y dydd y ganed Iesu' (119-20); 'Cwndid Gŵyl Nadolig' (126-28); 'Fe brynodd y byd' (136-39);'Karol Nydolig' (153-54).
Efallai, yn wir, y dylid cyfrif cerdd Thomas Jones (187-92) yn diolch am Feibl William Morgan, yn 1588, fel un a fwriadwyd i'w chyflwyno yn yr eglwys o gylch Gŵyl y Nadolig, ond ni thrafodir honno yrŵan.
Ystyriwn hwynt gan ddechrau gyda'r hynaf ohonynt. Carol Babyddol yw 'Cwndid Gŵyl Nadolig' a dyddiad ei chyfansoddi a bair inni fod yn siŵr o hynny:
Oedran Crist pan ganwyd hynn
Ar destyn detholedig,
Mil ac unarddeg a naw
A phumcant traw'n nodedig.
Fe'i priodolir i Syr Huw Dafydd o Gelli Gaer; y 'Syr', wrth gwrs, yn deitl anrhydeddus ar offeiriaid yr oes honno. Mesur awdl-gywydd sydd iddi a chenir y gerdd o bedwar pennill ar hugain ar un brifodl.
Galwad i foliannu'r Nadolig a glywir yn yr wyth pennill cyntaf a'i nodwedd amlycaf yw symledd ei chynnwys: prin iawn yw'r nodyn athrawiaethol ynddi, gyda chyfeiriadau byr at ddioddefaint, atgyfodiad a dyrchafael Crist ynghyd a'i ddyfodiad, Ddydd Brawd, i farnu'r byd. Nid oes ond cyfeiriad cyffredinol iawn ynddi at eni'r Mab '0 Forwyn ddetholedig'.
Tua'r diwedd anogir credinwyr i roi elusen i’r tlodion ac i gyffesu eu beiau yn edifeiriol gerbron Duw.
Ar wahân i un cwpled sy'n traddodi'r 'rhai drwg ... I uffern dân llosgedig' mae i’r garol dinc ysgafn, heulog sy'n rhoi iddi naws wahanol i relyw y carolau Cymraeg. Wrth ei darllen ni all dyn beidio â dwyn i gof yr hen gerdd fach arall honno, o tua'r un ganrif mae'n debyg, lle clodforir Clamai.
YR UN nodyn ysgafn a geir yn `Y dydd y ganed Iesu' sydd hefyd ar fesur awdl-gywydd, gyda'r un brifodl drwyddi. Gallai hon hithau fod yn Babyddol er nad oes unrhyw dystiolaeth fewnol bendant i hynny. Gwir y dywedir fod y Nadolig yn ddydd sy'n 'ywchel drwy holl gred' ond diamau y byddai Protestant o'r unfed ganrif ar bymtheg mor dueddol i ddefnyddio'r ymadrodd hwn ag unrhyw gyfoeswr o Babydd.
Un gwahaniaeth rhyngddi a'r gerdd flaenorol yw ei bod yn cynnwys cyfeiriad penodol at un o elfennau hanes y geni, sef ymweliad y doethion:
ar golaini hynn drwy ffydd, a wnaeth yn brudd dravaely
y tri brenin gorau ynghred, ai tyrnged i hanregy
yno i gwybyr tad or ne, i wyllys e am dany
ag fe archwys dewch yn gall, ffordd arall i wladychy
a thebyg mai ystyr 'yn brudd dravaely ' yma yw teithio yn ddoeth neu yn gywir, union: y ddau efallai.
Ffurf awdl-gywydd, gydag un brifodl, sydd i 'Fe brynodd y byd' hithau, ond ei bod yn feithach cwndid na'r rhai blaenorol. Yn wir, mae iddi gymaint ag un a deugain o benillion a champ nid bychan oedd cael digon o odlau benywaidd ar gyfer y fath gyfres hir o benillion.
Perthyn nifer o nodweddion diddorol i'r garol hon eithr nid oes ofod i gyfeirio at ragor na rhyw ddwy ohonynt: y penillion am y geni a'r elfen apocryffaidd a geir mewn un pennill. Mae cymaint â naw pennill yn canoli ar amgylchiadau'r geni gyda'r prif bwyslais yn cael ei roi ar y gwrthgyferbyniad rhwng tlodi'r teulu ym Methlehem a gwychder mawrion byd.
Nid 'mewn parlwr klyd paintedig' y ganwyd Crist ac nid oedd o'i amgylch 'na golau kwyr na than' na 'lliain kamrig' nac 'ystavell sywr glosedig/i lannllainau roglau per, na llennau lawer dyblig'.
Sylwer yma, gyda llaw, bod y nodwedd hon ar y garol Nadolig yn aml yn ffurf ar brotest gymdeithasol ond ni fyddai'n ddiogel awgrymu, hwyrach, bod iddi'r union swyddogaeth honno yn y cyswllt arbennig hwn. Fe allai fod yn fater o gonfensiwn llenyddol yma neu, a hyn sy debycaf efallai, yn bwyslais ar un o'r rhinweddau Cristnogol sylfaenol, sef gostyngeiddrwydd.
Y nodwedd arall yw'r cyfeiriad at un o'r digwyddiadau a groniclwyd yn yr efengylau apocryffaidd - Efengyl Nicodemus, os cofiaf yn iawn:
- ag yno lonsis oi ffon, a vrathai i vronn vraenedig
y bymed archoll ve wŷs, maer dall yn esgysedig
Ac ergyd yr hanesyn, na chynhwysir mohoni yma, yw i beth o waed Crist gwympo ar lygaid y dall hwn a'i iacháu. Tybir yn gyffredinol nad oes dim o'r elfennau apocryffaidd hyn i'w cael yn y carolau Nadolig Gymraeg ond nid yw hyn yn wir.
Ceir cryn dipyn o olion chwedlau rhyfedd o'r fath yn ein carolau, yn arbennig felly yn rhai o'r Halsingod a berthyn i'r ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed ganrif; corff o gerddi yn perthyn i dde-orllewin Cymru ac yn ymestyn, hyd y gwelaf, draddodiad y canu cwndidau, o ran mydrau a chynnwys.
***
NID oes unrhyw amheuaeth nad ar gyfer dydd Nadolig y bwriadwyd y cwndid 'Karol Nadolig', a ddyddir 1621, ac a briodolir i 'Risiart dafydd kiper newydd'. Dyna'r disgrifiad a geir yn llinell glo'r gerdd ac awgrymir gan 'Hopcyn' bod y `Risiart dafydd' hwn: 'probably a gamekeeper of Margam'. Tra diddorol yw sylwi ar y cwpled agoriadol:
Duw gorychaf y kyfarchaf
pylgam diddig duw nydolig
Dichon y gellid casglu ar sail hyn fod hon yn gerdd a fwriadwyd i'w darllen neu i'w chanu mewn gwasanaeth plygain yn un o eglwysi Morgannwg (ceir y ffurfiau 'pylgen' a , 'pylgain' mewn dau gwndid arall ond ni ellir gwarantu bod cyfeiriad yno at wasanaeth eglwysig.
Eithr os cywir y dyb bod hon yn gerdd i'w chyflwyno mewn eglwys ar fore dydd Nadolig, dyma dystiolaeth bur gynnar - y gynharaf y gwn i amdani - o ddwyn y garol a'r gwasanaeth plygain at ei gilydd.
Fel y saif y gerdd mae'n ymrannu'n ddwy, gyda'r cwndidwr yn y rhan flaenaf yn llefaru yn y person cyntaf ac yn cyfarch Duw mewn gweddi. Mae pwyslais yr ail ran ar arwyddocâd gweddi, gan ei chymharu i ysgol sy'n cysylltu daear a nef; a'r cyfarch yma, bron yn llwyr, yn y trydydd person. Wele ddau gwpled tua'r diwedd:
- duw ro ynni bob daioni
boed gwir Amen wile llawen
0'r pum carol dan sylw dyma'r unig un sydd ar fesur deuair fyrion, er bod defnydd helaeth arno yng nghorff y casgliad: fel yr awdl-gywydd yr oedd yntau yn un o hoff fesurau'r 'glêr'.
***
UN nodwedd amlwg ar y gerdd flaenorol yw nad oes ynddi'r cyfeiriad lleiaf at eni'r Iesu ym Methlehem nac unrhyw ymdroi ynghylch yr athrawiaethau sylfaenol.
Daw hyn fi ni at yr olaf o'r pum cwndid, sef 'Carol yn dangos eisiau cariad perffaith', a ddyddir 1595, ac a luniwyd gan un o uchelwyr Morgannwg, Tomas Llywelyn o Rigos, gŵr o linach Rhys Brydydd yn ôl G.J. Williams.
Nid oes yn hon chwaith y mymryn lleiaf o sôn am y geni nac yn wir am unrhyw wedd ar hanes bywyd Iesu ar y ddaear.
Cerdd foesol ydyw, ar batrwm hen fesur y gyhydedd hir, yn ymosod yn chwyrn ar falchder, llid, 'cnawdolder brwnt anllad', a beiau eraill, ond go brin, yn wyneb y pennill olaf, y gellir amau ei chysylltiad â'r Nadolig ac y mae'n amlwg ei bod wedi ei chyfeirio at gynulleidfa o ryw fath; nid cyffes bersonol mohoni:
- Mil pumcant yn gyfan, naw deg y chwanegan
A phumlwydd oedd odran ein Ceidwad
Pan wnaed hynn yn ystig yn garol Nadolig
I gwyno mawr ddiffig gwir gariad
A dyna ddod â ni, ar y diwedd, yn ôl at bwynt a wnaed ar y dechrau. Oni sylweddolwn fod gwreiddiau y garol Nadolig Gymraeg yn nwfn yng nghenhadaeth yr Eglwys at bobl gyffredin, i'w goleuo ynglŷn â'r athrawiaethau canolog a'r dull o ymddwyn a ddisgwylid oddi wrthynt fel aelodau ohoni, ni allwn obeithio dechrau ei gwerthfawrogi a deall ei harwyddocâd.