Y DYFAL YSGRIFWR O LŶN gan Emyr Wyn Jones

MAE darllenwyr Y Casglwr mewn dyled arbennig i'r Dr Bruce Griffiths am ei ysgrif dra diddorol yn dwyn y teitl, Hanesydd Lleol o Hen Wlad Llŷn a ymddangosodd yn rhifyn Nadolig 1983. Agorodd ei ysgrif fflodiat y cof i minnau mewn dull neilltuol o hyfryd, oblegid mae fy ngwreiddiau - neu eu hanner beth bynnag - yng nghyrion eithaf Pen Llŷn, a'r hanner arall yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Dyma f'esgus. Dywed Dr Griffiths : 'Methais â darganfod fawr ddim ynghylch Mr Kenrick heblaw yr hyn a ddywed amdano'i hun yn ei bamffledyn I Came to Lleyn (1940)'. Mae copi o'r pamffledyn hwn yn fy meddiant ers dros ddeugain mlynedd, a nifer sylweddol o rai cyffelyb, a'r cwbl yn delio â Llŷn.

Nodir ymhellach gan yr awdur: 'Ni ddywed ddim am ei orffennol . . .,' ac ar ddiwedd yr ysgrif cyfyd cwestiwn arall: 'A welodd rhywun bamffledi eraill o eiddo Eddie Kenrick? ' - yr ymholiad i gynnwys, mae'n debyg, unrhyw weithgaredd ysgrifol.

Teimlaf felly mai priodol yw ychwanegu nifer o ffeithiau bywgraffyddol am Mr Kenrick, gŵr a osododd wreiddiau yn Llŷn drigain mlynedd yn ôl, oblegid rwyf yn ei adnabod ac wedi treulio cryn amser yn ei gartref yn gwrando arno'n trafod ei atgofion gyda hwyl a huodledd.

Er yn tynnu ymlaen erbyn hyn at ei ddeg a phedwar ugain mlwydd oed erys ei gorff yn heini, ei feddwl yn chwim a'i atgofion yn glir a manwl. Yn awr, ar ôl oes faith o ysgrifennu di-baid, mae wedi cyrraedd cyfnod o saib a gorffwys oddi wrth ei weithgarwch newyddiadurol a'i deipiadur.

***

GŴR byr o gorff ydyw a deil yn hynod o sionc, a'i brif hoffter – gorhoffedd yn wir – yw cerdded o'i gartref i'r traeth yn Edern, a hynny ar bob tywydd, i chwilio am froc môr. Credaf y gellir yn deg briodoli ei hirhoedledd a chyflwr presennol ei iechyd yn uniongyrchol i'w orchestion corfforol yn ei ddyddiau cynnar, ac i'w bersonoliaeth heulog a diddan.

Syndod i mi oedd amgyffred helaethrwydd ei weithgarwch. Sylwodd B.G. ar nodyn E.K. (maddeuer llythrennau'n unig o hyn ymlaen) ar wynebddalen y bamffled Kenrick's Lleyn Peninsula Guide (1947) –'Guide circulation from 1935-1946 equals 12,547 copies'. Fel y digwydd y dyddiad ar fy nghopi i o'r Guide yw 1948, a ffigurau arno wedi codi i 14,647.

Ni welais rifau o gwbl am werthiant y pamffledi eraill sydd yn fy llaw – deuddeg ohonynt – ond y mae'n anodd credu iddynt oll gael y fath gylchrediad, yn enwedig am nad oeddynt ar werth yn ôl tystiolaeth yr awdur ei hun ond yn siopau Llŷn, a hynny 'ar gomisiwn o 25 y cant'.

Ganwyd E.K. ym mis Hydref 1896 yn Southport, sir Gaerhirfryn, lle cadwai ei dad siop gwerthu papurau. Saesnes oedd ei fam, ond tybia mai brodor o'r Wyddgrug oedd ei daid, yntau hefyd yn siopwr.

Dywed fod ei dad yn gryn ysgolhaig, ac wedi ymgyfarwyddo â Groeg a Lladin gyda'r bwriad o fod yn offeiriad yn Eglwys Rufain. Cafodd y mab ei addysg yn Ysgol Ramadeg Accrington, ac ar ôl cyfnod yng Ngholeg Hyfforddi Williamson dechreuodd ar ei waith fel clerc mewn swyddfa.

YN fuan wedi marw ei fam ar ddechrau Rhyfel Mawr 1914, symudodd ei dad ac yntau i gadw'r dafarn The Cock Bridge Inn yn Whalley, ond ymunodd E.K. â'r fyddin yn 1916. Nid oes angen ailadrodd yma stori gyffrous ei symudiadau yn Ffrainc, ond fe'i clwyfwyd yn ddifrifol yn ei freichiau a'i gorff ym mrwydr y Somme, ac fe'i rhyddhawyd o'r fyddin yn Y Barri mewn cyflwr 'cwbl ddrylliedig'. Ar ôl cyfnod o flwyddyn i atgyfnerthu ymaflodd eilwaith yn ei swydd fel clerc.

Yn ystod y misoedd dilynol gwnaeth ymdrech arbennig i adennill ei gryfder trwy ymarfer corff, a thrwy redeg yn bennaf.

Erbyn hyn roedd iechyd y tad yn dechrau edwino oherwydd effeithiau gwenwynig chrome yn y gwaith, ac yn sydyn, fe ymddengys, penderfynodd y ddau werthu'r cartref a'i gynnwys, a throi am Gymru gyda'u holl eiddo mewn dau bac ar eu cefnau ac un gist. Dyna sut y daethant i Gaernarfon ar y trên ym mis Awst 1924, heb fod ganddynt unrhyw syniad pendant ble i droi.

Ar ôl wythnos 'yn troedio'r mynyddoedd o gwmpas Bethesda, Llanberis a'r Waunfawr ' teimlai fod yr arfordir yn galw'n ddiymwad, ac ymlaen â nhw a cherdded trwy Glynnog, Llanaelhaearn a Nefyn i Dudweiliog. Ar hap clywodd E.K. am fyngalo pren ar werth yn Llangwnnadl, ac fe'i prynodd - a'r dodrefn - am gan punt.

Hwnnw fu eu cartref nes y priododd E.K. Mary Jones, Rhosporthychen, Tudweiliog ym mis Mai 1932, ac ymsefydlu yn Hillside, Edern. Yno y ganwyd eu hunig ferch, Sioned.

***

CYN priodi roedd E.K. wedi dechrau o ddifrif ar ei yrfa newyddiadurol yng Nghymru trwy gyfrannu newyddion lleol i'r Cambrian News a'r Caernarvon and Denbigh Herald, ac ar yr un pryd drafod materion Cymreig ym mhapurau Lloegr. Daeth yn gerddwr dihafal nid yn unig ar lechweddau esmwyth Llŷn ond ar gopaon creigiog mynyddoedd Eryri, ac oddi yno y tarddodd ei bamffled Pen-y-gwryd and Snowdonia.

Yn ei bamffled I Came to Lleyn mae E.K. yn sôn gyda brwdfrydedd am ei brofiadau wrth ddysgu darllen a siarad Cymraeg. Meddai: 'The whole world of Welsh literature opened out to me ... I was no longer a stranger in a foreign land ... a new world of friends ... a privileged member of a village society ... then there's the language, something unique, something that is worth learning.'

I mi, ei bamffledi sy'n cynnwys yr agweddau mwyaf diddorol o'i waith, a dengys amrywiaeth y teitlau fel y'u gwelir yn ysgrif B.G. mor helaeth oedd ei ymdrech i gwmpasu a thrysori amryfal atgofion hynafgwyr Llŷn.

Mae'n traethu'n ddifyr am ddyddiau Coits fawr Tocia a Choits Tir Gwenith, yr hen arferion a chrefftau a'r hen gludwyr (cariwrs), Ynys Enlli, hanes aml longddrylliad ar greigiau Pen Llŷn rhwng Nefyn a Thrwyn Cilan, a golwg fuddiol – heb fod yn or-dechnegol – ar hen Eglwysi Llŷn. Llwyddodd i gyffwrdd mewn modd deniadol, heb ymdrech at geinder arddull, â phob agwedd ar fywyd y fro yn y gorffennol.

***

WRTH gwrs, nid astudiaeth gymdeithasegol ac economaidd a geir ganddo, ond tusw o atgofion sy'n parhau'n hynod o bersawrus i mi, ac yn ddiau i eraill nad ydynt o angenrheidrwydd yn rhan o'r un traddodiad. Oblegid un o'm hatgofion cyntaf oll yw taith yng Nghoits fawr Tocia o Bwllheli i Aberdaron, ac oni chefais y cyfle i adnabod rhai o'r cludwyr megis Dic Fantol a Griffith Ellis, Glandon, Aberdaron, un o gyfeillion mynwesol fy nhad?

Beth am grynswth cynnyrch E.K. am gyfnod o drigain mlynedd? Mae'n hyfrydwch gallu dweud bod y cwbl a ysgrifennodd, hyd y gwelaf, ar gadw yn awr yn Llyfrgell Gyhoeddus Caernarfon, oherwydd fe brynodd y Llyfrgell ei bapurau yn eu cyfanrwydd ar 16 Medi 1980.

Gwelais y gyfres bamffledol a gweddus yw nodi bod nifer o'r rhifynnau yn cynnwys lluniau llinellol syml o waith E.K. ei hunan. Yr unig eitem 'newydd' a ddaeth i'r golwg mewn perthynas â Llŷn oedd The Call: A Story of Lleyn during the Great War.

Mae'n amlwg fod yna dipyn o ailadrodd yma ac acw, a thebygol yw mai anochel yw hynny gyda chyhoeddiadau o'r natur yma. Mae The Lleyn Peninsula (1975) yn cynnwys 85 o dudalennau teipiedig, ac o reidrwydd mae E.K. wedi dethol yn helaeth o'i bamffledi cynnar.

Yn ddi-os copi sengl yw hwn na fwriadwyd ar gyfer y wasg, ac nid yw yn rhan o'r gyfres, oblegid y mae'n amlwg o sylwi ar yr wynebddalen mai teyrnged yw 'In memory of my dear wife Mary'. Tybiais am funud imi ddod o hyd i destun newydd sbon pan welais Unsung Hero, ond yr un ydyw â The Call.

Ni welais yno dri llyfryn a argraffwyd gan Gwenlyn Evans yng Nghaernarfon, ac nid oes ddyddiad ar y copïau sydd yma. Dyma'r teitlau: The Lleyn Peninsula, pris 1/6; Historical Guide to Lleyn Peninsula, pris 1/-; Coaches and Coachmen of Lleyn, pris 1/-. Ai dyma'r cwbl a argraffwyd?

Ymddengys fod yr eitemau eraill o'i waith, fel yr eglurwyd gan B.G., mewn ffurf braidd yn ddiaddurn a simsan. Tybiaf i Gwenlyn ymgymryd â'r argraffu tua 1950-51.

***

AR wahân i'r pamffledi mae yn y Llyfrgell nifer fawr o ddogfennau wedi'u cyplysu'n syml ond heb eu rhwymo. Nid oedd yn ymarferol ceisio gwneud rhestr gyflawn a threfnus ohonynt. Maent yn cynnwys copïau o ysgrifau E.K. i'r wasg yng Nghymru a Lloegr ar destunau afrifed, am dymor o dros hanner canrif.

Mae yno hefyd lyfrau toriadau (scrapbooks) tra diddorol a darluniau lu yn costrelu digwyddiadau llon a thrist yng Ngogledd Cymru.

Trwy drugaredd cefais ymlaen llaw restr gan E.K. sy'n fraslun o'r hyn sydd yno. Rhestrodd 23 o eitemau yn ychwanegol at y pamffledi, ac yn ei amcangyfrif ef golygai hyn dros 1600 o dudalennau teipiedig. Trwy garedigrwydd y Llyfrgellydd, Mr J.E. Jones, yntau yn ŵr o Lŷn, cefais gopi o'r mynegai o ysgrifau E.K. sydd dan ei ofal.