Y CI A GLYWODD LAIS EI FEISTR gan Ioan Mai
MAE’R llun hwnnw o'r ci yn gwrando ar lais ei feistr yn eithaf cyfarwydd i bawb ohonoch. Sawl delwedd bynnag sydd yn eich arddangosfa ddychmygol, mi gredaf fod hwn ymysg y clasuron.
A beth yw'r stori? 'Nipper' oedd enw'r ci, a'r arlunydd oedd Francis Burraud, ffotograffydd proffesiynol, oedd yn byw yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe aeth ati i beintio ci bychan du a gwyn yn gwrando'n astud wrth geg corn hen ffonograff, ac fe'i hanfarwolwyd.
Credir mai ci anwes ei frawd oedd yr un a ddewisodd, ac yr oedd wedi tynnu llun ohono yn Lerpwl yn yr wythdegau o'r ganrif ddiwethaf.
Erbyn Chwefror 1899 cofrestrodd Barraud y llun o'r ci deallus a'r llygedyn penbleth yn ei lygad o flaen y corn a'i alw yn His Master's Voice. Ym Medi yr un flwyddyn cafodd Barraud gynnig can punt am y llun gan y cwmni. Cwblhawyd y cytundeb yn ddi-oed, ac ymhen dim ymddangosodd 'Nipper' ar y bocsus bach hynny o binnau gramffôn, a holl lenyddiaeth cwmni HMV gan ennill clod cydwladol.
Erbyn hyn roedd 'Nipper' wedi marw, ac wedi ei gladdu fe gredid mewn maes parcio y tu ôl i Fanc Lloyds wrth afon Tafwys lle'r oedd stiwdio Barraud. Meddyliwyd am ail gladdu'r corffyn ac enwogi'r gladdfa, ond methwyd â dod ar draws esgyrn ci yn y fan dybiedig; esgyrn dafad a gafwyd. Digwyddodd hyn tua deng mlynedd ar hugain yn ôl.
***
Y CAM nesaf oedd mynd ati i chwilio am gi tebyg i 'Nipper', ac fe gafwyd un. ' Toby ' - ci bach Jack Russell o Doncaster. Ci bach digon del a digon tebyg i 'Nipper' fel y gwelwch eich hunan. Ci a enillodd galon rhai fel Barbara Woodhouse, ac ymddangos am gan punt y tro, a llyfu trwynau hefo rhai fel Bill Wyman, Mari Wilson, a Boy George, mewn stynts hysbysebu HMV.
Ond dim digon o foi i gael ymddangos yn Crufts, . . . sêr pop neu beidio. Na, dim mynediad i Crufts, er i'r cwmni wario'n helaeth am stondin yn y sioe a galw'r flwyddyn hon yn 'Flwyddyn y Ci' i gofio 'Nipper' a fu farw, a 'Toby' sydd eto'n fyw, ond nid yn ddigon byw i gael dod i'r sioe i estyn ei bawen at neb.
Pam, medda chitha'n syth. Wel, y gwir ydi nad yw brîd y Jack Russell, yn cael ei gydnabod gan y clwb sy'n rhedeg y sioe, y 'Kennel Club', ar y funud beth bynnag. Efallai y daw ei ddydd gan fod i bob ci ei ddydd ys dywed y Sais.
Mae cefndir y Jack Russell yn eithaf diddorol. Myfyriwr pedwar ar bymtheg oed o'r enw Jack Russell, a brynodd y cyntaf o'r cŵn hyn gan y dyn llefrith yn Rhydychen. Paratoi i fod yn offeiriad oedd y myfyriwr yn 1814, ac ni wyddys fawr am nodweddion y ci bach du a gwyn a smotyn o faint ceiniog ar fôn ei gynffon. Galwyd y ci yn `Tramp'.
Fe ddiogelwyd copi o ddarlun olew ohono gan un E.W.L. Davies, pwy bynnag oedd hwnnw. Ai Cymro tybed? Fodd bynnag, gan y frenhines mae'r gwreiddiol.