HEN ARGRAFFYDD THOMAS CHARLES gan W.J.Edwards

ER bod sôn am argraffu yn Y Bala mor gynnar â 1760, ymhen deugain mlynedd wedyn y cychwynnwyd ar y gwaith o ddifri a hynny gyda dyfodiad Sais ifanc un ar hugain oed i'r dre. Fel hyn y mae John William Jones (1842-95) yn adrodd yr hanes yn Adgofion Andronicus: "Yn y flwyddyn 1801 daeth gŵr ieuanc o'r enw Robert Saunderson i’r Bala ar wahoddiad y Parchedig Thomas Charles. Tua'r un adeg y daeth Mr Gee (tad yr Hybarch Thomas Gee) i Ddinbych, a Mr Brown i Fangor. Gwnaeth y tri hyn wasanaeth ardderchog i wlad eu mabwysiad.

"Amcan Mr Charles yn dod â Mr Saunderson i'r Bala oedd hyn. Yr oedd yn bwriadu dod â'r Geiriadur allan, ac yr oedd arno eisiau cael dyn o ymddiried i gymryd gwaith mor bwysig mewn llaw. Tua'r un adeg hefyd y daeth yr argraffiad cyntaf o'r Hyfforddwr allan."

Y mae D.E. Jenkins yn ei gofiant tair cyfrol i Thomas Charles yn manylu ar ddyfodiad yr argraffydd ifanc. 0 1798 i 1802 yr oedd Thomas Charles wedi bod yn anfon ei waith i'w argraffu at W.C. Jones i Gaer ond gan fod hwnnw'n codi tâl uchel ac yn araf wrth y gwaith penderfynodd sefydlu ei wasg ei hun.

Yr oedd Robert Saunderson wedi'i brentisio gyda W.C. Jones ond yr oedd wedi symud i Lerpwl i weithio wedyn. Wrth ei wahodd i'r Bala dyma frawddeg o lythyr gan Thomas Charles: "I wish to call it the Lord's Press and to be subservient only to the great Redeemer's cause, there is no other cause worth supporting or troubling ourselves about."

***

AR ÔL cyrraedd Y Bala y mae Saunderson yn ysgrifennu at gyfaill o'r enw Walker yn Bersham ger Wrecsam ac ymhlith pethau eraill dywed: "As yet we have not commenced printing, the place fixed upon for the office not being quite finished, but expect we shall begin in about a fortnight. Our types arrived last week from the Foundry of Mr Caslon, London. There are both Greek and Hebrew ordered. I am at a great loss at present in not understanding the Welsh language, but Mr Charles is so kind as to give me use of his library."

Y mae'n rhaid dweud fod Robert Saunderson wedi setlo i lawr yn iawn yn Y Bala oherwydd erbyn 1806 yr oedd yn barod i briodi Rebecca Thomas, merch Elizabeth, hoff chwaer Thomas Charles. Ar Awst 19 yn Llanycil y bu'r briodas gyda'r Parch Lewis Anwyl yr offeiriad yn gwasanaethu, Thomas Rice Charles oedd y gwas priodas a Mary Stringer o Gaer oedd y forwyn.

Yr oedd Thomas Charles a'r hen gynghorwr Methodistaidd John Evans ymhlith y gwahoddedigion a cherddasant yn ôl i'r dre i'r wledd yng nghwmni'i gilydd.

Yn ei ysgrif ar Saunderson yn Y Bywgraffiadur fe ddywed R.T. Jenkins: "Ni wyddai fawr o Gymraeg pan ddaeth i'r Bala, ac ni bu erioed yn hollol gartrefol yn yr iaith; teimlai felly'n anghysurus yn Seiat Y Bala, ac ar awgrym Thomas Charles ymaelododd yn yr Eglwys Sefydledig – yn wir tyfodd yn Eglwyswr selog."

Gan mai Saunderson a argraffodd bron bopeth o waith Charles o 1803 hyd farw'r pregethwr mawr yn 1814, y mae'n werth dyfynnu eto o ysgrif Andronicus: "Mae yn debyg mai yr argraffwasg gyntaf gafodd Mr Saunderson oedd y 'Cambrian Press', hen beiriant wedi'i wneud o goed, a golwg ddigon anolygus a thrwsgwl arno. Gweithid ef gan ddau ddyn - un o roddi y ddalen o bapur ar y llythrennau a'r llall i weithio'r peiriant. Cymerai amser mawr i argraffu cant o ddalennau, un tu yn unig. Prin yr wyf yn meddwl y gellid argraffu cant mewn llai na dwy awr. Y mae hyn yn ymddangos bron yn anhygoel yn y dyddiau hyn o argraffu cyflym.

"Nid y Geiriadur a'r Hyfforddwr yn unig a argraffwyd gan yr hen 'Cambrian Press', ond miloedd lawer o bethau eraill. Llawer tro y bûm yn blentyn yn difyrru fy hunan yn swyddfa Mr Saunderson, yn edrych ar yr argraffwyr yn argraffu'r Geiriadur. Yr adeg yr ydwyf yn cofio, anaml iawn y defnyddid yr hen 'Cambrian' am fod peiriant newydd wedi cymeryd ei le, un yn gweddu yn well i'r ail ran o'r ganrif ac ynddo lawer o welliannau.

"Yr oedd yr hen 'Gambrian' wedi ei droi i'r borfa ac wedi cael `tynnu ei bedolau' fel hen geffyl ffyddlon ar ddiwedd ei yrfa. Ni ofynnid ddim gwaith ganddo, ond ambell odd job pan fyddai ei olynydd yn methu dod i ben." Yr oedd yr hen beiriant yn gorwedd yn segur yn Swyddfa'r Seren (papur wythnosol a sefydlwyd yn 1885) a chredai Andronicus y dylai gael ei gadw yn "Amgueddfa Genedlaethol cenedl y Cymry, pe bai y fath le a hynny yn bod, ac y mae yn gywilydd i ni nad oes".

***

PAN fu farw Thomas Charles daeth y wasg yn eiddo i Saunderson a daliodd ati hyd ei farw ar Ragfyr 13, 1863 yn 83 oed. "Ystyrir ei waith fel argraffydd yn dda dros ben", meddai R.T. Jenkins, "a medrai argraffu Hebraeg a Groeg".

Ar wahân i argraffu llyfrau bu Saunderson yn argraffu misolion a chwarterolion megis Y Gwyliedydd, Cyfaill y Cymro, Yr Ymwelydd a'r Ddraig Goch.

Un gyfrol fach boblogaidd a gyhoeddwyd ganddo yn 1838 oedd Addysg Mam, Neu Egwyddorion I Blant Bychain, o waith un R. Jones a oedd efallai yn rheithor Llanycil ar y pryd. Y mae ar ddull Rhodd Mam, John Parry, Caer, ond mai ar gyfer Eglwyswyr y lluniwyd y llyfryn. Ceir y Credo a chasgliad o weddïau yn y gyfrol a chyfres o benillion i'w hadrodd i blant aflonydd! Ni fedraf ddychmygu am neb yn adrodd un fel hwn heddiw: