HEL MERCHAID yng nghwmni Derec Llwyd Morgan
YN SGÎL ffeministiaeth, neu yn hytrach yn rhan o'r peth, fe gododd yn ddiweddar ddiddordeb mawr yng nghyfraniad merched i wareiddiad a'i hanes. Ceir llyfrau ac erthyglau ar ‘Ferched yn Homer,' 'Merched a'r Hen Fyd,' 'Merched a Mudiadau Chwyldroadol yr Ail Ganrif ar Bymtheg,' a llu o bynciau eraill. Mae chwiwiau fel hyn yn digwydd mewn ysgolheictod (a ffug ysgolheictod) yn awr ac yn y man.
Rhyw genhedlaeth yn ôl, ar `Gymdeithaseg Homer' a 'Chymdeithaseg Mudiadau Chwyldroadol yr Ail Ganrif ar Bymtheg' yr oedd bryd y colegau. Cyn bo hir eto, fe gyfyd agwedd ffasiynol arall, a cheir terfyn ar astudio sgertiau.
Ond er nad yw'r chwiwiau hyn mor sylfaenol bwysig ag y myn eu dilynwyr eu bod ar y pryd, y mae dilyn y chwiwiau yn ychwanegu at ein gwybodaeth gyffredinol o'r pynciau dan sylw, ac yn rhoi i ni, o'u cyfosod gydag agweddau eraill ar y pynciau hynny, ddarluniau cyflawnach o'r mudiadau a'r syniadau hynny yr adeiladwyd Gwareiddiad ohonynt a thrwyddynt.
Wrth ddarllen nifer o gofiannau i weinidogion y ganrif ddiwethaf yn ddiweddar, fe'm trawyd gan y ffaith seml seml hon, sef mai ychydig iawn a ddywedir ynddynt am wragedd y cyfryw genhadon. Ac nid yw'r hyn a ddywedir amdanynt odid fyth yn ddigon manwl inni dynnu darlun personol o'r un ohonynt.
Mae hynny'n drueni o'r mwyaf, oherwydd byddai portreadau cywir o'r gwragedd hyn yn ychwanegu'n ddirfawr at ein dealltwriaeth o nifer o agweddau ar dwf Ymneilltuaeth, – er enghraifft, datblygiad y weinidogaeth daledig, economics y mans, y newid a ddaeth mewn moesgarwch, statws cymdeithasol gweinidogion a'u teuluoedd, Seisnigiad yr enwadau, a nifer o bynciau eraill.
***
MAE ambell un o'r gwragedd hyn wedi tyfu'n chwedl yn ei bro a thu hwnt i'w bro. Dyna Fanny Jones Tal-y-sarn, y dywedodd Owen Thomas amdani yn ei Gofiant reiol i John Jones fod `Cymru drwyddi oll dan ddyled fawr i'r wraig hon ... am yr hyn a wnaeth er llonni meddwl 'a hyrwyddo llwybr, un o'r pregethwyr goreu a gafodd erioed'.
Gan mor llwyddiannus y rhedai Fanny ei masnach, ni bu raid i'w gŵr ofidio'r un iot am angenrheidiau'r byd hwn tra bu: câi rodio a myfyrio fel y mynnai.
Yn Eisteddfod Tal-y-sarn, Difiau Dyrchafael, 1906, cynigiwyd gwobr o £5 am Draethawd ar 'Fywyd, Cymeriad, a Dylanwad y Ddiweddar Mrs Fanny Jones,' a derbyniwyd pedwar o gyfansoddiadau, un gan Enillwr er colli, un arall gan Adgof uwch angof (43 tudalen), un arall eto gan ŵr a chanddo'r un ffugenw, Adgof uwch angof (ond bod ei draethawd ef yn 'hir'), a thraethawd Tacitus, y buddugol.
Ef oedd yr enwog O. Llew Owain; a chyhoeddwyd y gwaith ym Machynlleth (yn enw Mrs Jones, Cambrian House, un o ferched John a Fanny Jones, mi dybiaf) yn 1907. Ynghyd ag ef cyhoeddir 'Cywydd Coffadwriaethol' gan Berw (buddugol yn Eisteddfod Tal-y-sarn, 1878), a phedair cymeradwyaeth i'r Traethawd gan rai a gafodd y fraint o ddarllen y proflenni, yn eu plith Iolo Caernarfon ac Anthropos.
***
IOLO Caernarfon a ddyfyd am y gwaith ei fod `mor deilwng ohoni hi ag oedd Bywgraffiad penigamp a gafodd ei phriod ohono ef gan Dr. Owen Thomas.' Dweud mawr, a dweud amwys.
Gwaetha'r modd, ond yn ddealladwy ddigon o gofio agosed oedd yr awdur i berthnasau byw ei wrthrych ac o gofio'r confensiynau y gweithiai ynddynt, nid yw'r Cofiant yn bwrw llawer o oleuni ar nodweddion tybiedig y wreigdda hon a oedd mor siarp mewn busnes fel na bu raid i'w gŵr a'i thyaid mawr o blant weld eisiau dim.
Nid yw'n ceisio dadansoddi beth a barodd iddi, a hithau heb fod yn llawn deunaw ac yn ferch gyfforddus ei magwraeth, briodi gyda chwarelwr a fuasai gynt yn gweithio ar 'ffordd fawr Caergybi'. Pa uchelgais a weithredai ynddi? pa ddawn gynhenid i wthio'i gŵr ymlaen? pa feistrolaeth ar weision a morynion?
A geisiodd un o'r traethodyddion anfuddugol ateb y cwestiynau hyn, tybed? Y mae'n ddiau storïau amdani gan bobl yr ardal o hyd, ac er ei bod yn annhebyg fod neb wedi cadw'r llawysgrifau a luniodd Enillwr er colli a'r ddau Adgof, da iawn o beth fyddai rhoi ar glawr a chadw y straeon hyn am Fanny Jones a phob un debyg iddi. Eu cael oll i ryw Drysorfa Wreigïaidd!