GWERTHU PLÂT NANTGARW gan Dafydd Wyn Wiliam
Plat Nantgarw prin, wedi ei addurno yn Llundain, a beintiwyd yn y canol yn null llestri 'Macintosh'
gydag aderyn lliwgar gynffon hir yn sefyll ar greigiau mawr parcdir. Yr ymyl eithaf wedi ei oreuro'n
firain a gweddill yr ymyl gydag addurn troellog manel rhwng paneli o ffrwythau a sprigiau o flodau.
9½", NANTGARW/C.W. wedi ei sigo i'r porslen, tua 1812-22. Mymryn o ôl traul.
TUA phymtheng mlynedd yn ôl gofynnais i fy modryb a gawn edrych ar blât deniadol a grogai ar bared parlwr ei chartref. Cydsyniodd yn llawen â'm cais. Estynnais y plât, craffu ar ei gefn a darllen y llythrennau 'NANTGARW C.W.', llythrennau a sigwyd i'r porslen. Deuthum i wybod yn ddiweddarach mai 'Ceramic Works' oedd ystyr 'C. W.'
Yn ddamweiniol, felly, y'm cyflwynwyd i am y tro cyntaf erioed i borslen hynod Nantgarw, ac o'r dydd hwnnw fe gynyddodd fy niddordeb yng nghynnyrch y ffatri enwog ym mhlwyf Eglwysilan ym Morgannwg.
Darllenais bopeth am borslen Nantgarw, mynychu amgueddfeydd yng Nghymru a Lloegr lle ceid enghreifftiau o'r porslen a dilyn arwerthiannau yn Llundain lle gwerthid ambell ddarn o'r porslen.
Sylweddolais fod plât fy modryb yn bur werthfawr a mynegais hynny wrthi. Addawodd y cawn y plât ar ôl ei dyddiau hi a bu cystal â'i gair.
Pryderais gryn dipyn yn ystod y blynyddoedd oherwydd mai `tintack' a ddaliai'r plât ar bared cartref fy modryb eithr ni ddigwyddodd yr hyn a fawr ofnais!
***
PENDERFYNAIS werthu'r plât a mwynhau'r profiad o wneud hynny a chyda hynny mewn golwg anfonais lun lliw at yr arwerthwyr enwog Sotheby's yn Llundain. Cefais air oddi yno yn datgan fod y plât yn werth rhwng £1,000 a £1,500.
Ar 28 Tachwedd 1983 teithiais ar y trên cynnar o Gaergybi, cyrraedd Llundain am ddeg o'r gloch y bore, galw tacsi, traethu'r geiriau '34-35 New Bond Street' wrth y gyrrwr, teithio fel bonheddwr am ychydig funudau, cyrraedd Sotheby's, talu gŵr y tacsi ac ymlwybro, am y tro cyntaf erioed, trwy gynteddau yr arwerthwyr byd-enwog.
Mewn chwinciad yr oeddwn yn ystafell Peter Williams, un o'r arbenigwyr ar borslen, a chefais ymgom ddifyr a chroeso cynnes ganddo. Cytunais i dalu £30 i sicrhau llun du a gwyn o'r plât yng nghatalog yr arwerthiant porslen nesaf, catalog y byddid yn anfon copi rhad i mi yn y man.
Wedi cael derbynneb am y plât brysiais oddi yno gan frasgamu i lawr Heol Rhydychen i gyfeiriad yr Amgueddfa Brydeinig lle bum yn gweithio am weddill y dydd a'r diwrnod dilynol.
***
DAETH y catalog a addawyd i law a gwawriodd diwrnod yr arwerthiant, sef dydd Mawrth, 14 Chwefror 1984, ac yr oeddwn ymhlith y bobl ddethol a oedd yn bresennol. Mwynheais y profiad yn fawr a buan y daeth fy mhlât i, 'Lot 143' dan y morthwyl. Mewn ychydig eiliadau yr oedd y plât yn eiddo rhywun arall ac ystyriaf fod y person hwnnw yn dra ffodus gan ei fod yn berchen darn o gelfyddydwaith hynod.
Oherwydd anawsterau ariannol a thechnegol ni fuwyd yn cynhyrchu porslen yn Nantgarw am ragor na dwy new dair blynedd 1818-19. Hefyd fe ddifethid 90% o'r defnyddiau a roddid yn y ffyrnau.
Pan gaewyd y ffatri fe brynwyd llawer o'r platiau gan gwmnïau yn Llundain ac yno fe drefnwyd i arbenigwyr eu haddurno â llaw. Un o'r platiau hyn fu gynt yn eiddo i mi!