GWAS NEWYDD ~ gair gan Y Golygydd
CYFNEWIDIAD bychan yn y swyddogaeth. Wedi rhoi gwasanaeth gwerthfawr fel Ysgrifennydd Cymdeithas Bob Owen mae Raymond B. Davies, oherwydd pwysau galwadau eraill - gan gynnwys ymddiddori ym maban newydd y teulu - yn gorfod ymddeol. Nid yw swydd ysgrifennydd yn un ysgafn gan ei fod yn cynnwys, ymysg pethau eraill, cyfeirio mil o amlenni i bob copi o'r Casglwr ymhob un, a'u postio. Mae ein dyled yn fawr iawn iddo yntau - a chofier (yn enwedig y rhai sydd eto heb dalu eu tanysgrifiadau'n llawn) mai llafur cariad yw'r cyfan. Fe welwch ar yr ail dudalen mai John Dilwyn Williams yw ein hysgrifennydd ifanc newydd brwdfrydig. Cewch ei gyfeiriad ar y tudalen, ac ato ef y dylid anfon eich dwybunt flynyddol -neu at Richard H. Lewis, sy'n aros yn drysorydd a gofalwr am yr hysbysebion taledig.
Bu Richard yn rhy brysur, os rhywbeth, y tro yma, canys fe gewch fod cnwd trwm iawn o hysbysebion am lyfrau ail-law ar werth yn y rhifyn yma. Ond mae yna werth mawr yn yr hysbysebion yma, a diddordeb mawr gan yr aelodau. Ar ben hyn mae'n gyfle i brynwyr a gwerthwyr gael cymharu prisiau, a thrwy hynny gael rhyw fath o drefn a safon ar y rheini hefyd.
Hyderwn y byddwch yn rhoi cefnogaeth dda i'r hysbysebwyr yma. A chofiwch, os oes gan yr aelodau fân hysbysebion am gyfrolau y maent amdanynt neu am gael ymadael â hwy, fe gyhoeddir yr hysbysebion hynny am ddim.
Yr ydym bob amser yn chwilio am fwy a mwy o ddarllenwyr i'r Casglwr ac fe gaiff pob aelod newydd gopi am ddim o'r rhifyn Nadolig (hyd y pery'r copïau) yn ogystal â thri rhifyn y flwyddyn trwy'r post – y cyfan am ddwybunt.
Nid yn unig yr hysbysebwyr fu'n hael, ond y cyfranwyr hefyd. Ceisir cadw'r safon yn uchel ond yr apêl yn eang a rhoddir croeso mawr i bob cyfraniad a phob llythyr a ddaw i law y golygydd ar gyfer y rhifynnau sydd i ddod. Ac y mae ymateb rhai o bobol ddeallus prysuraf Cymru wedi bod yn un ryfeddol iawn.