CYNILO STALWM gan J.Hywel Thomas

YN nyddiau olaf siop enwog y brodyr Griffs yn Llundain bûm yn ffodus i ddod ar draws llyfryn bach yn dwyn y teitl 'Y Bangc Cynnilo. Ymddiddan rhwng Sionyn Garpiog a Dafydd Daclus'. Traethodyn yw, ar ddull ymddiddanol, o ddeuddeg tudalen 12-plyg, heb enw na dyddiad, ac yn cario'r neges: `Treffynnon, argraffwyd ac ar werth gan E. Carnes. Pris 1c. yr un neu 7s. y cant.'

Defnyddia'r awdur yr ymddiddan rhwng y ddau gymeriad i geisio argyhoeddi'r darllenydd o'r bendithion sy'n deillio o'r arfer o gadw arian mewn banc cynilo yn hytrach na'u gwario yn ofer yn Nhafarn y Llew Coch. Diddorol sylwi mai 1.6 y cant a gynigid yn llog gan y banc cynilo y cyfeirir ato yn y llyfryn!

Yn ôl Ifano Jones, roedd Edward Carnes (1772-1828) mewn busnes fel argraffydd a llyfrwerthwr yn Stryd Chwitffordd yn Nhreffynnon o 1796 tan ei farw o'r teiffws yn 1828. Ymhlith ei waith y mae argraffiad o 'Flodeugerdd Cymry', a gyhoeddwyd yn 1823.

Honna Charles Ashton mai oddeutu 1805 yr argraffodd y `Bangc Cynnilo'. Yn ôl Miss Eiluned Rees o'r Llyfrgell Genedlaethol, ymddangosodd sawl argraffiad o'r llyfryn hwn, and nid oes dyddiad ar un ohonynt. Argraffwyd ef gan weisg yn Llanfyllin, Llannerchymedd, y Bala ac Aberystwyth. Awgryma Miss Rees rhwng 1815 ac 1820 fel dyddiadau argraffu. Ond pwy oedd yr awdur?

***

AR fy nghopi i ceir dau nodyn mewn dwy wahanol lawysgrifen sy'n taflu goleuni ar awduriaeth y llyfryn. Ceir ar y clawr y geiriau ' Written by my brother Llewelyn. A.Ll.' ac ar y cefn ' The author of this was the eldest son of John Lloyd of Caerwys and became Vicar of Nannerch'.

Yr oedd John Lloyd o Gaerwys (1733-1793) yn adnabyddus yn ei ddydd fel hynafiaethydd ac ysgolhaig. Bu'n cynorthwyo yn y gwaith o gyhoeddi'r 'Myvyrian Archaiology', a 'History of Wales' gan Warrington. Bu hefyd yn gydymaith i Thomas Pennant ar ei deithiau enwog trwy Gymru.

Ymhlith ei amryw blant cofir yn arbennig am Angharad Llwyd (1779-1866), yr hynafiaethydd. Yr oedd Angharad Llwyd yn aelod o ail Gymdeithas Cymmrodorion Llundain ac yn enillydd llawer o fedalau aur ac arian mewn eisteddfodau am ei thraethodau ar bynciau hanesyddol.

Ei phrif weithiau cyhoeddedig oedd yr argraffiad a olygodd o 'History of the Gwydir Family (Syr John Wynn)' a'r gyfrol 'A History of the Island of Mona'. Treuliodd gyfran helaeth o'i hoes yn copïo o lawysgrifau mewn llyfrgelloedd preifat ac mae'r rhain ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Felly mae Miss Eiluned Rees yn ffyddiog mai llawysgrifen Angharad Llwyd (A.Ll.) sydd ar glawr fy nghopi i o'r 'Bangc Cynnilo'. Mae'n debyg felly mai awdur y llyfryn oedd ei brawd, Llewelyn Lloyd (1770-1841), a fu'n rheithor Nannerch – fel ei dad o'i flaen – o 1810 hyd 1841.

Hoffwn gydnabod yn ddiolchgar gyfraniad Miss Eiluned Rees tuag at ateb cwestiwn awduraeth y llyfryn.