CYFROL GYNTAF EDWARD LHUYD gan Brinley F.Roberts

YR OEDD Archaeologia Britannica Edward Lhuyd, a gyhoeddwyd yn Rhydychen yn 1707, yn garreg filltir yn hanes astudio'r ieithoedd Celtaidd. Y gyfrol hon, ffrwyth blynyddoedd o gasglu defnyddiau o bob gwlad Geltaidd ac o fyfyrio arnynt, a osododd yr ieithoedd Celtaidd yn fframwaith ieithoedd Ewrob ac a ddarparodd fethodoleg ar gyfer gwyddor ieitheg gymharol.

Arwydd o fywiogrwydd meddwl Lhuyd ac o'i allu i arloesi mewn meysydd amrywiol yw'r ffaith ei fod eisoes, yn 1699, wedi cyhoeddi llyfr arall y dywedwyd amdano ei fod wedi gosod sylfaeni gwyddor newydd.

Enw'r gyfrol honno yw Lithophylacii Britannici Ichnographia, neu, yn ôl yr isdeitl, Dosraniad yn ôl eu dosbarth o lun-gerrig (figured neu formed stones yw'r ymadrodd Saesneg cyfoes) a ffosilau Prydain. Un o bynciau llosg gwyddoniaeth naturiol ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg oedd sut i ddehongli ac i esbonio'r cerrig hynny a ddangosai arnynt ffurf cragen neu ddeilen neu esgyrn/dannedd anifeiliaid a physgod.

Deuent i'r golwg mewn chwareli, pyllau glo, pyllau graean neu ar wyneb y creigiau mewn rhai ardaloedd, a chesglid hwy'n awchus gan naturiaethwyr amatur a phroffesiynol y cyfnod.

I rai nid oedd y gwrthrychau hyn namyn enghreifftiau o ddawn natur i'w dynwared ei hun ac i beri difyrrwch a chwilfrydedd; lusus naturae ('sbort natur') oeddynt. Credai eraill fod ganddynt gyswllt gwirioneddol â chreaduriaid a phlanhigion byw; naill ai yr oeddynt yn rhai a drowyd yn gerrig (ac wrth reswm yr oedd i syniadau fel hyn oblygiadau diwinyddol pan osodid hwy yng nghyd-destun y Dilyw) neu'n rhai a genhedlwyd o had byw ac a dyfasai yn y creigiau.

I'r ddamcaniaeth olaf hon y tueddai Lhuyd, ond ymhell cyn trafod mater tarddiad y cerrig hynod hyn yr oedd wedi gweld, yn y maes hwn fel ymhob maes arall bu'n ymwneud ag ef, yr angen am gasgliad o ddata y gellid eu dosrannu a'u dosbarthu yn ddeunydd crai astudiaeth bellach.

***

PAN benodwyd ef yn Geidwad Amgueddfa Ashmole yn 1691 yr oedd eisoes yn gasglwr profiadol. Un o'i orchwylion cyntaf wedi'i benodi'n gynorthwywr i'r Ceidwad yn 1683 oedd llunio rhestr o'r cregyn a oedd yn yr Amgueddfa ac nid oes amheuaeth na fu hyn yn ddisgyblaeth fuddiol yn y method gwyddonol ac yn fodd iddo ddyfnhau'i wybodaeth o'r maes.

Dyma'r cyfnod y dechreuodd ohebu â dau o naturiaethwyr mawr Lloegr, sef John Ray a oedd wrthi'n llunio'i ddosbarthiad ar blanhigion Prydain (Synopsis Methodica Stirpium Britannicorum) a Martin Lister, yntau'n ysgrifennu'i gyfrol fawr ar gregyn (Historic sive Synopsis methodica Conchyliorum). Yr oedd Lhuyd wedi cyfrannu i'r ddwy gyfrol ac argraffwyd yn llyfr Lister luniau o rai o'r ffosilau yr oedd Lhuyd wedi'u casglu.

Trwy gydol yr 80au yr oedd wrthi'n crynhoi casgliad cynhwysfawr a niferus o ffosilau, a daliodd ati ar ôl ei benodi'n Geidwad yr Amgueddfa. Âi ar deithiau casglu'i hun, ond fel yr amlhâi'i ddyletswyddau câi lai o amser i deithio.

Un syniad a gafodd i gyfarfod â chostau penodi dirprwy iddo oedd sefydlu clwb lle y câi'r aelodau (tua dwsin ohonynt) ryw gant o enghreifftiau o wahanol fathau o ffosilau, 'some stones so rare as perhaps no men in Europe can shew them besides,' ond iddynt dalu £5.00 y pen, ac mae'n bur debyg iddo weithredu'r cynllun hwnnw, gan fod rhai o'r setiau hyn ar gael heddiw.

Cynllun arall oedd hyfforddi labrwyr a mwynwyr yn 'lithoscopists', a gasglai'r ffosilau wrth eu gwaith beunyddiol a'u trosglwyddo i Lhuyd am dal o saith swllt yr wythnos.

Bonws annisgwyl i Lhuyd fyddai cael ei gyflogi gan ambell grŵp o naturiaethwyr amatur i’w tywys i chwilio am ffosilau oblegid fel hyn câi gyfle i chwyddo'i gasgliad ei hun.

***

ERBYN 1691 yr oedd yn sôn am Lithologia Oxoniensis, a fyddai'n cynnwys 'a methodical enumeration and description' o ffosilau cylch Rhydychen, ond cyngor cyfeillion gwybodus megis Ray a Lister oedd mai yn nhermau Lithologia Britannica y dylai fod yn meddwl.

Derbyniodd Lhuyd yr awgrym yn frwd oblegid sail y dosbarthiad fyddai casgliad helaeth yr Amgueddfa'i hun a chynhwysai hwnnw enghreifftiau o ffosilau o bob rhan o Loegr ac o dde a gogledd Cymru oherwydd trylwyredd dulliau casglu Lhuyd a'i gysylltiadau eang â chasglwyr eraill.

Ddiwedd 1691 yr oedd yn glir ei feddwl ynglŷn â natur a diben y llyfr (Prodromus Lithologiae Britannicae). Byddai'n rhestr ac yn ddisgrifiad o ffosilau Prydain gyda nodyn yn dangos y man lle y'u ceid a'u lleoliad yng nghasgliad yr Amgueddfa, ond byddai'n ddigon hylaw ei faint i ddaearegwyr ei gario yn eu poced yn gyfeirlyfr pan fyddent ar eu teithiau.

Bu wrthi ar hyn tua 1695 yn llunio'r llyfr, y synopsis methodica o gerrig Prydain, awgrym o deitl a ddengys fel yr oedd gwaith Ray a Lister yn dylanwadu ar ei syniadaeth, ac yr oedd yn ffyddiog y byddai'n barod i'r wasg erbyn mis Mawrth 1696.

Ond ni wyddai Lhuyd beth oedd gorffwys ac ar frys y bu rhaid iddo gyflawni'i holl waith. Yr oedd dros ei ben a'i glustiau'n gwneud y paratoadau ar gyfer ei daith fawr trwy'r gwledydd Celtaidd ac ymhen y flwyddyn yr oedd yn addo o'r newydd y byddai'n barod erbyn Mawrth 1697.

Yna, Mawrth 16, 1697, yr oedd yn gallu dweud wrth Martin Lister, noddwr hael i'r Amgueddfa a chefnogydd mwyaf selog Lhuyd yn hyn o fenter, y byddai'n ei anfon iddo y dydd Llun canlynol fel y gallai ef, John Ray a Tancred Robinson fwrw golwg drosto.

Michael Burghers, ysgythriwr adnabyddus yn Rhydychen, a fyddai'n paratoi'r darluniau, ac er hod Lhuyd yn credu fod ei bris, 18 swllt y daflen, yn ddrud, nid oedd yn poeni gan ei fod yn disgwyl mai'r Brifysgol a fyddai'n cyhoeddi'r gyfrol ac yn talu'r costau.

***

DYMA ddechrau gofidiau Lhuyd oherwydd nid oedd hyd yn hyn wedi ymgysylltu â'r Wasg. Credai y byddai cymeradwyaeth Lister yn ddigon i beri iddynt ymgymryd â'r cyhoeddi a chyflwynodd ei gais i'r Is-ganghellor a rhai o `Delegates' y Wasg fis Ebrill 1697.

Er iddo gael ar ddeall fod anghydfod rhwng y Wasg a'r Stationer's Company (disgwylid iddynt hwy gymryd 500 o gopïau o bob llyfr a gyhoeddai'r Wasg ond gan gymaint y golled a achosid gan hyn ni fynnent gadw at y cytundeb) ni chredai y byddai fawr o broblem.

Ond nid felly y bu, a mis Ebrill 1698 yr oedd yn anfon cais ffurfiol at yr Is-ganghellor (o Ynys Bŷr) gan ofyn iddo ailystyried cyhoeddi'r Catalog `in regard it contains the ground of a new Science in Natural History'.

Cyfrol octavo 300 tudalen fyddai gydag 20 o daflenni o ddarluniau. Gan fod Lhuyd eisoes wedi talu amdanynt hwy dim ond cost yr ysgythru, tua £15, a oedd yn weddill, ac yr oedd yn barod i dderbyn pa nifer bynnag o gopïau awdur ag a arferid eu rhoi gan y Wasg.

Er mawr siom - a dicter - iddo, unig awgrym yr Is-ganghellor iddo oedd y dylai gyhoeddi'r gwaith trwy gyfrwng tanysgrifwyr. Ond yr oedd gan Lhuyd ddigon o waith casglu dyledion y rhai a oedd wedi addo tanysgrifio i'w gynorthwyo ar ei deithiau ac i gyhoeddi'r Archaeologia fel na allai feddwl am godi rhagor o danysgrifiadau.

Ofer hefyd fu'r ymgais i gael cyhoeddwyr Llundain i gymryd at y llyfr. Cyngor Lister oedd mentro cyhoeddi 100 o gopïau ond ni thalai hynny gostau'r argraffu a gwell oedd gan Lhuyd argraffu 200 neu 300 a'u gwerthu am 5/- neu 6/- yn yr Amgueddfa yn gatalog i'r casgliad.

0 ran hynny, meddai, gellid cynnig casgliad bychan o ffosilau gyda phob copi o'r llyfr a brynid.

***

GORFFENNAF 6, 1698, y traethodd Lhuyd y meddyliau hyn mewn llythyr at Lister, ac er ei fod wrthi'n ysgrifennu'r traethodau Lladin, ar ffurf llythyrau at gyfeilion, a oedd yn gosod allan ei syniadau am natur a tharddiad y ffosilau ac a oedd i'w cynnwys yn y gyfrol, hawdd dychmygu'i siom a'i ddigalondid, ac yntau ymhell o Rydychen yn teithio yn sir Benfro a Cheredigion.

Ond heb yn wybod iddo yr oedd dau o'i gyfeillion ar Orffennaf 4, 1698, wedi datrys problem y cyhoeddi drosto. Llwyddodd 'Mr Pepys' a Syr Hans Sloane i ddarbwyllo wyth arall i dalu am argraffu deg copi yr un o lyfr Lhuyd (ond gyda thoriadau) ac am argraffu 20 arall i Lhuyd ei hun.

Tachwedd 1, 1699 (yn Nhrefaldwyn) yw dyddiad Rhagair Lhuyd, a chyhoeddwyd yr Ichnographia yn Llundain, Ex. Officina M.C., yn 1699.

***

120 o gopiau (139 td. a 22 o blatiau) a argraffwyd a hynny, meddir ynddo, ar gost yr Arglwydd Sommers, Uchel Ganghellor Lloegr, Dug Dorset, yr Arglwydd Montague, Canghellor y Trysorlys, Isaac Newton, Martin Lister, Tancred Robinson, Hans Sloan, Francis Aston a Geoffrau o Paris. Mae'n debyg mai Pepys oedd y degfed.

Dosbarthwyd copïau ledled Lloegr a diau fod rhai wedi mynd i ysgolheigion ar y cyfandir. Gwelwyd ar unwaith ei fod yn llyfr tra phwysig i weithwyr mewn palaeontoleg.

Cynhwysai fanylion am 1766 o wahanol fathau o ffosilau mewn 13 o ddosbarthiadau, ac yr oedd ynddo 6 o draethodau neu lythyrau ar amrywiol bynciau, megis ffosilau'r Almaen (i'w gyfaill yr Almaenwr Rivinus), ffosilau'r gogledd (i William Nicholson), amrywiol ffosilau (i Richard Richardson, John Archer Robinson) a'i esboniad ei hun ar eu tarddiad (i John Ray).

Hwn oedd yr unig gyfeirlyfr cynhwysfawr i'r maes, llyfr a oedd yn sylfaen sicr o wybodaeth ar gyfer astudiaethau pellach. Gwyddai Lhuyd bwysigrwydd ei waith ei hun fel y dangosodd yn ei lythyr i'r Is-ganghellor yn 1698, a thebyg yw barn daearegwyr heddiw, 'an epoch-making work' sydd wedi dod yn batrwm i gatalogau cyffelyb hyd heddiw.

Aeth yn llyfr prin ar unwaith (er bod gan Lhuyd ei hun ychydig o gopiau ar ôl o'i ugain ef hyd yn oed yn 1701), ac nid rhyfedd i argraffiad 'pirate' ymddangos yn Leipzig yn 1699 o swyddfa 'John. Ludes. Gleditsch & Weidmann'. Ni wn sawl copi a argraffwyd yno.

Byddai'n ddiddorol olrhain y 120 o gopiau o'r Ichnographia a byddwn yn hynod ddiolchgar am unrhyw wybodaeth am leoliad copïau gan ddarllenwyr y Casglwr.

Mae'r copïau a roddodd Lhuyd i Robert Davies (Llannerch) a Richard Mostyn yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae copïau eraill yn Llyfrgell Salisbury Caerdydd, Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Abertawe.

Mae copïau eraill yn Lloegr, Scotland, Iwerddon, Ffrainc, America, ond yn anffodus nid yw'r catalogau printiedig yn gwahaniaethu bob amser rhwng yr argraffiad gwreiddiol ac argraffiad Leipzig. Ni wn pa mor gyffredin yw hwnnw: gwn am un copi yng Nghymru hyd yn hyn.

***

PUR anfoddhaol yw argraffiad Leipzig, ac anfodlon iawn oedd Lhuyd ei hun ar yr argraffiad swyddogol gan na fu'n bosibl iddo arolygu'r argraffu a chywiro'i broflenni ac yntau draw yng Nghymru.

Bwriadai baratoi ail argraffiad diwygiedig a dengys dau o'i gopïau personol ef sydd yn Llyfrgell Bodley Rhydychen fel yr aeth ati i restru cywiriadau ac ychwanegiadau. Ond bu farw cyn gallu gwneud llawer.

Ceisiwyd darbwyllo David Parry, olynydd Lhuyd yn Geidwad yr Amgueddfa, i fynd ati ond bu hwnnw farw'n feddwyn anobeithiol ac un arall o Geidwaid yr Amgueddfa, William Hyddesford, y gŵr a luniodd y Bywgraffiad cyntaf o Lhuyd yn y gyfrol British Remains (1777) gan Nicholas Owen, a ddug arall ail argraffiad o'r Ichnographia yn 1760.