CERBYDAU CARREG BOETH ~ Hoffterau Ifan Roberts

"TROWCH y car 'ma'n gwt ieir, bendith tad i chi" oedd cyngor William John, Tarw Potal i Dafydd Robaitsh, Heidden Sur, wedi iddo fethu ei brawf gyrru yn ei "fotolwynion".

Mae 'na, mi wn, nifer dda o hen sgerbydau rhydlyd wedi bod yn lloches i ieir, cŵn a chathod mewn sawl gadlas. Ond wrth lwc, mae 'na hefyd hen geir wedi eu trysori'n annwyl neu wedi eu hadfer ar ôl cyfnod o segurdod.

Pan ddaeth hi'n amser chwilio am gerbydau i grwydro 'cefnffyrdd Carreg Boeth' ar gyfer y gyfres deledu Hufen a Moch Bach, darganfûm fod yna gyfoeth o hen gerbydau wedi'u cadw'n ofalus iawn gan gasglwyr yn yr ardal yr oeddem yn ffilmio.

Er mai straeon cyfoes yw llawer o ddeunydd cyfrolau Harri Parri, roeddwn wedi penderfynu, yn gam neu'n gymwys, y byddai holl naws yr addasiad teledu yn gweddu'n well pe baem, heb wneud llawer o ffws ynglŷn â'r peth, yn eu gosod tua 1958 – chwarter canrif yn ôl.

Cyfnod pan oedd 'nyrs beic' yn dal i yrru neges efo'r fan fara, Lloyd Twrna'n gyrru nodyn efo'r dyn pysgod ond y disgwylid i Edwards y Felin Faen fod mewn car a thipyn o sglein arno fo, fel ei berchennog.

***

MAE hanes adfer y cerbyd hwnnw i fod yn deilwng o ffermwr Y Felin Faen, yn werth ei chrybwyll. Ar ei ochr mewn iard sgrap ger Caernarfon y gwelwyd y Vauxhall Velox 1953. Roedd wedi bod yn segur mewn garej am rai blynyddoedd cyn ei werthu fel sgrap.

Ôl llafur Graham Rowe, perchennog y Velox, sydd arno – gwaith oriau hamdden a llawer o amynedd! Mae o hefyd yn berchen fan Fordson 1935 – ac yn ôl ei gyd-aelodau o gymdeithas yr hen geir, Gogledd Cymru, does dim ond chwech o'r rhain ar ôl yn Ynys y Cedyrn!

Yn od iawn, fe wn i ychydig mwy am hanes Morris Minor (1954) y Parchedig Eilir Tomos. Yn ystod fy nyddiau ysgol roedd o wedi ei barcio yn ymyl tŷ ni yn Llanddona bob nos Sul am flynyddoedd lawer, wrth i'w berchennog yr adeg honno ymweld â'i chwaer. Gwn iddo'n ddiweddarach newid dwylo am ddegpunt! Erbyn hyn, mae'n cael ei adfer gan hyfforddwr gyrru o Lanrug.

O garej ym Mhenygroes y cafwyd yr hers – roedd hithau wedi bod yn segur, ond mewn cyflwr ardderchog. Yno, gyda llaw, y ces i fy nghyflwyno i'r Model T cynta i mi erioed ei weld! Mae'n wir ei fod angen dystar a lamp flaen, ond mi glywais sibrwd, os byth y caiff stori'r Hen Siandri ei ffilmio ar gyfer S4C mai hwn fydd y seren!

***

Rhai o'r cerbydau oedd ar werth ar gowt garej Wil Pwmp.
Yr Austin 16 ar y chwith oedd dewis Dafydd Robaitsh Heidden Sur.

Hers Henri Claddu Pawb - Austin wedi ei gofrestru yn 1957.

ROEDDWN i'n dipyn o destun sbort gan fy nheulu am rai misoedd cyn i ni orffen trefnu Hufen a Moch Bach. Os gwelwn i A30 neu Ford Popular wedi ei barcio, roedd rhaid gadael nodyn ar ei ffenest – "Ffoniwch Deledu'r Tir Glas".

Mi ddois adre un noson wedi dotio at gar Triumph Mayflower o fewn milltir i'r tŷ – ond neb o'r tai cyfagos yn gwybod dim amdano! Ymhen deuddydd, dyna alwad teliffon – o Coventry – wedi torri i lawr ar ei daith o Iwerddon i Ganolbarth Lloegr oedd y Triumph. Felly dyna un car na chafodd ei weld yn y gyfres.

Gweld cyfeiriad at Austin 16, 1947, ar werth mewn ocsiwn ym Môn oedd cychwyn un trywydd. Fedrwn i ddim mynd yno i weld pwy oedd y prynwr, ond fe ges i y wybodaeth ymhen wythnos neu ddwy. Roedd y car wedi ei brynu gan deulu o Fangor ac yn cael ei drin gan arbenigwr o Fethesda. Doedd gen i ddim amheuaeth yn fy meddwl nad hwn fyddai dewis Dafydd Robaitsh, Heidden Sur, wrth brynu `Motolwynion'.

Car solet, wedi bod unwaith yn gar heddlu, ac yna ar fferm yng ngogledd Môn ond heb unrhyw arwydd o rwd er ei fod yn 36 mlwydd oed! Gwir i'w olwyn flaen ddod yn rhydd - pan oedd ei berchennog yn ei droi un diwrnod, ond ôl brys rhywun fu'n tynhau'r nyts oedd hynny mae'n siŵr, nid arwydd o henaint!

Car pleser i deulu fydd yr Austin 16 hwnnw bellach, ond mae fan William John Tarw Potal wrth ei gwaith bob dydd. Nid yn crwydro ffermydd i ddiwallu anghenion y ‘fuwch ddu a'r heffar Ershyr' ond yn cludo ei pherchennog i Ferodo.

Felly hefyd ddau neu dri o'r hen geir A30 – yn dal i fynd yn bwyllog a dibynadwy, diolch i ofal eu gyrrwr, hwythau hefyd yr un mor bwyllog a dibynadwy â'u cerbydau!

Ymhen chwarter canrif arall, ysgwn i a fydd rhywun wedi llwyddo i gadw rhai o'r tuniau sardin gwachul sydd gennym ni yn ein cludo heddiw 'ar hyd cefnffyrdd Carreg Boeth'?