Y RHEDYN YNG NGHYMRU ~ Rhwng cloriau Huw Edwards

TUA chanol y ganrif ddiwethaf cyhoeddwyd rhai llyfrau ar flodau a phlanhigion a oedd yn cynnwys nid lluniau o'r planhigion hynny ond y planhigion eu hunain a'r rheini wedi'u gwasgu a'u mowntio'n y llyfr. Dim ond un llyfr o'r fath a gyhoeddwyd yng Nghymru (hyd y gwn i beth bynnag), sef The Ferns of Wales gan Edward Young.

Cyhoeddwyd y llyfr hwn gan Thomas Thomas yng Nghastell-nedd yn 1856. Mae'n cynnwys wynebddarlun lliw o Raeadr Melin-y-cwrt (yn seiliedig ar ffotograff gan Charles H. Waring, mab Elijah Waring, cofiannydd Iolo Morgannwg), ynghyd â disgrifiad o bob un o'r 34 math o redyn sy'n tyfu yng Nghymru.

Yr hyn sy'n rhoi i'r llyfr ei hynodrwydd yw'r ffaith fod enghraifft o bob un o'r rhedyn wedi'i mowntio'n ofalus gyferbyn â'r disgrifiad. Mae ambell un o'r rhedyn hyn, megis Rhedyn y Clogwyn (Asplenium septentrionale, Forked Spleenwort) a Briger Gwener (Adiantum capillus-veneris, Maidenhair fern), yn eithafol o brin. Yn wir clywais yr honiad fod Young wedi dwyn cymaint o ddail rhai o'r rhedyn prin hwn ar gyfer ei lyfr nes gadael bron ddim ohonynt ar ôl ar greigiau Cymru.

'Roedd gweithred o'r fath yn ddigon nodweddiadol o naturiaethwyr Oes Victoria – roedd mwyafrif adarwyr y cyfnod yn awyddus i saethu cymaint byth gallent o adar prin er mwyn mynd â hwy at y croenofydd (taxidermist).

***

CRYNWYR oedd yr Youngiaid ac 'roedd y teulu'n adnabyddus yng Nghwm Nedd erbyn canol y ganrif. Ganed William Weston Young, y cyntaf o'r teulu i fyw yng Nghwm Nedd, ym Mryste ar Ebrill 20fed, 1776. 'Roedd yn aelod o deulu o fasnachwyr porthiannus ond nid oedd yn hapus yn y fusnes deuluol.

Ceisiodd ymfudo i America ond cipiwyd y llong gan ffrigad Ffrengig. Llwyddodd i ddianc o ddwylo'r Ffrancwyr ac yna, ar ôl priodi, symudodd i Aberdulais, ger Castell-nedd, ym 1797.

Bu'n ffermwr ac yn felinydd yno am bum mlynedd cyn iddo fynd yn fethdalwr ar ôl prynu llwyth enfawr o ŷd o Loegr mewn blwyddyn pan oedd digonedd o ŷd rhad i'w gael yn y dyffryn. Cafodd waith wedyn, gan Grynwr arall, sef Lewis Weston Dilwyn, perchennog Crochendy'r Cambrian yn Abertawe.

Yn 1806 symudodd i'r Drenewydd yn Notais Ile sefydlodd fusnes fel codwr llongau a ddrylliwyd ar arfordir De Cymru, gan ddefnyddio offer a ddyfeisiwyd ganddo. Bu'n gweithio wedyn fel masnachwr a thirfesurydd.

Bu'r gŵr dyfeisgar ac amryddawn hwn, hefyd, am gyfnod yn grochenydd, yn bensaer, yn arlunydd, yn ddyfeisiwr, yn ddaearegwr ac yn naturiaethwr. Fel y dywed Elis Jenkins amdano, 'roedd weithiau'n llwyddo, ond ran amlaf yn methu mewn mentrau a oedd yn broffidiol i eraill. Ar ôl bywyd o ymdrech ddiflino bu farw ger Kidderminster ar Fawrth 5ed, 1847.

***

'RYDYM yn cofio amdano oherwydd iddo gyhoeddi ei Guide to the Scenery of Glyn Neath yn 1835. Mae argraffiad cyntaf y llyfr hwn yn eithafol o brin; mwy na thebyg na chyhoeddwyd mwy na chant o gopïau ar y mwyaf.

Mae'n cynnwys disgrifiad o'r dyffryn a'i drigolion ac mae hefyd yn sôn am eu harferion a'u llen gwerin. Mae Young hyd yn oed yn cynnwys trawsgrifiad o un o ganeuon y cwm, Y'r Aderin Du (sic), a gafodd, mae'n debyg, trwy law Maria Jane Williams, Aberpergwm, ynghyd â cherdd o deyrnged i Afon Nedd yn Saesneg o waith ei gyfaill William Williams, sgweier Aberpergwm.

Prif hyfrydwch y llyfr, yn ddiamau, yw'r ddwy-ar-bymtheg o ysgythriadau bach hyfryd a wnaed, ac a liwiwyd, gan Young ei hun. Maent yn cydweddu'n berffaith gyda'r testun ac yn esbonio'r ffaith fod enwogrwydd y llyfr wedi ymestyn ymhell to hwnt i ffiniau Cwm Nedd.

Mae'r ffaith fod y cyfan, y "Drawing, etching, colouring and writing", chwedl yr awdur, o'i waith ef ei hun yn ychwanegu at werth a diddordeb y llyfr. Cyhoeddwyd ffacsimilé o'r llyfr bach hwn yn 1974.

***

'ROEDD Joseph Young, brawd W.W. Young, yn byw yn Waun Ceirch, yn ardal Mynachlog Nedd, ac 'roedd yntau'n fasnachwr ŷd. Ŵyr i'r Joseph Young hwn oedd Edward, awdur The ferns of Wales. Ef oedd y trydydd mab o deulu o dri-ar-ddeg o blant ac fe'i ganwyd yn 1839.

Osciwnêr oedd Thomas Thomas ond agorodd swyddfa argraffu yn ymyl y farchnad wartheg yng Nghastell-nedd tua 1848 a bu'n argraffu yno tan 1867. Oddi eithr y Ferns of Wales nid wyf yn gwybod am unrhyw lyfr arall sy'n gynnyrch y wasg hon.

Yn ddiweddarach yn y ganrif newidiwyd enw'r argraffdy i'r Neath Printing Co. ac rwy'n deall fod y cwmni hwnnw yno o hyd yn yr un adeilad.