Y CREFFTWYR YN EU HENFRO gan Robin Gwyndaf
DYMA Iun o rai o grefftwyr pentref Ysbyty Ifan yn 1904. Bryd hynny yr oedd tri brawd yno'n ofaint, yn cynorthwyo'i gilydd ac yn gofalu hefyd am y felin. Fe'u gwelir yn y llun hwn: Gruffydd Hughes, ar y chwith, yn trwsio arad; Job Hughes, ar y dde, yn pedoli ceffyl Tai Hirion (gwas Tai Hirion yn ei ben); a John Henry Hughes, 'Johny'r Gof ', yn cylchu olwyn trol.
Yn y llun hefyd, a'i fwyell yn ei law, gwelir Gruffydd Owen, y saer (ac y mae Huw Selwyn, y mab, yn parhau'r grefft yn yr ardal heddiw, yn ogystal â chrefft y bardd.) 0 flaen gweithdy Gruffydd Owen (hen dŷ Pen Isa) y mae brêc Owen Roberts, yr Efail Newydd, Ysbyty Ifan, yn disgwyl am ei thwrn i'w thrwsio. Dyma'r cerbyd a fu'n brysur iawn am flynyddoedd yn cludo pobl y cylch i Lanrwst a'r cyffiniau.
Yng nghefn y llun gwelir yr hen elusendai, ac o flaen un ohonynt resiaid o hosanau wedi'u gwau gan Mari Hughes Yn barod i'r 'sneuwr ' eu casglu a'u cludo i Felin Wlân Penmachno.
Tynnwyd y llun uchod gan R. Meredith, Trawsfynydd. Fe'i benthycwyd i Amgueddfa Werin Cymru gan y diweddar John Thomas Hughes, Padog, (gynt o Ochr Cefn Ucha, Ysbyty Ifan).
A dyma gyfle yn awr i mi i ddiolch yn ddiffuant i’w deulu am y gymwynas hon, a diolch hefyd i’r Amgueddfa Werin am gael print o'r llun ar gyfer ei gyhoeddi, ac i Mrs Cassie Hughes, Penybont-ar-Ogwr (merch Gruffydd Owen, y Saer), am wybodaeth bellach.
Cyhoeddir y llun yn Y Casglwr i'n hatgoffa o'n dyled amhrisiadwy i dynwyr lluniau diwedd y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, megis y teulu Meredith o Drawsfynydd. Ac i'n hatgoffa hefyd o werth mawr diogelu lluniau o’r fath sy'n rhoi cipolwg mor fyw inni o swyddogaeth holl bwysig y crefftwyr bro yn y gymdeithas gynt.