LLEOL A CHENEDLAETHOL ~
Guto Roberts a'r Gweisg bach

MAE'R Casglwr yn saith oed erbyn hyn ac 'rwyf innau felly gymaint â hynny yn hyn na'r tro cyntaf hwnnw y cyfrennais ychydig at ei golofnau.

Cais y golygydd am imi groniclo'r wefr a'r ias a geir wrth gasglu llyfrau ail-law a sbardunodd yr ysgrif honno, a bu'r her i'w hysgrifennu a'r gamp o'i llunio yn demtasiwn i roi rhaff i'r dychymyg ar adegau. Rhaid i mi y tro hwn felly ochel pob temtasiwn debyg a glynu wrth ffeithiau a ffigurau moel.

'Rwyf am gychwyn gyda'r ffigur 55. Hynny oedd fy oed dair blynedd yn ôl, a geill y gosodiad yna fy arbed rhag ymosodiadau rhy lym gan rai a allasai deimlo fy mod yn rhy hen a dibrofiad i draethu ar y maes cyhoeddi; ond gallaf fodd bynnag eich sicrhau mai am y sydd yn myd cyhoeddi un cwmni yn unig y byddaf yn cyfeirio, a hynny ar gais y golygydd.

'Roeddwn wedi bod yn gweithio am dair blynedd ar ddeg mewn siopau groser er pan adewais yr ysgol yn 16 oed; ac am dair ar ddeg arall fel cynrychiolydd cyfanwerth i siopau. Pan dreuliais dair ar ddeg arall fel actor wrth ei swydd nes i gyfnod troi bodiau yr alwedigaeth honno fynd yn drech na' mi benderfynais chwilio am waith cyson - ac mi gefais un ym mis Hydref 1980. Gwaith cyson, cyson di-stop.

FY hobi gynt oedd casglu llyfrau ail-law a phrynu rhai newydd. Bellach daeth chwilio am awduron a chasglu teipysgrifau i’w cyhoeddi a gwerthu'r cyfrolau, yn fara menyn i mi.

***

'RYDYCH yn sicr o fod wedi clywed am Gyhoeddiadau Mei ym Mhenygroes Caernarfon ac at y cwmni hwnnw yr es innau i weithio.

***

PAN ymunais â'r cwmni – Dafydd Meirion o'r Groeslon yw'r perchennog – fy nhasg a'm cyfrifoldeb oedd dosbarthu'r misolion Pais a Sboncyn a'r cylchgrawn deufisol Siop Siarad. 'Roeddwn hefyd yn cario a gwerthu'r llyfrau a gyhoeddai Mei ac yn wir llyfrau gan gyhoeddwyr eraill yng Nghymru. 'Roedd y mwyafrif o'r rheini yn falch o gael manteisio ar y gwasanaeth oedd yn mynd â'r llyfrau at ddrws ac i olwg a gafael y llyfrwerthwyr.

Ni fanteisiodd pob cyhoeddwr ar y gwasanaeth a gwrthod yn bendant oedd hanes; rhai, ond daw hanes y cyfnod a'r gweisg hynny rywdro eto!

Fel y nodais eisoes un o'n cyfrifoldebau eraill oedd chwilio am deipysgrifau i'w cyhoeddi, a phan ddaeth Grug Hydref oedd yn gasgliad o farddoniaeth gan Lisi Jones, Y Fron, yn gyfrol brintiedig dwt ar fy nesg ym mis Hydref 1981 'roeddwn mor ffoled falch â phe bawn yn awdur y gyfrol fy hun.

'Roedd hon y drydedd gyfrol o weithiau Lisi Jones i gael ei chyhoeddi ( y rhai cynt gan weisg eraill ) a chan fod gwerthiant pob llyfr yn llawn cyn bwysiced â'i gyhoeddi penderfynwyd argraffu chwe chant o gopïau a 'does ond dwsin o gopïau erbyn heddiw ar ein silffoedd.

Cyfrol o englynion (yn bennaf) oedd y gyfrol nesaf hefyd ac argraffwyd mil o gopïau o Awen Penmorfa gan Robert Jones – o'r pentref hwnnw. Hwn oedd y casgliad cyntaf o waith yr englynwr llithrig hwn a gwerthwyd pob copi mewn ychydig iawn o amser.

Gan fod y ddau awdur a enwyd wedi canu cymaint o'u cerddi a'u henglynion i'w teuluoedd a'u cydnabod, rhaid yw dosbarthu'r llyfrau fel 'llyfrau bro'; a llyfr bro hefyd oedd y gyfrol nesaf y daethom o hyd iddi, sef 0 Ben Moel Derwin gan O. Roger Owen.

'Roeddwn wedi clywed am y deipysgrif hon ers tro. Yn wir 'roeddwn i'n bersonol wedi anfon `stori' i bapur bro Eifionydd yn cyhoeddi y gallesid disgwyl cyfrol Roger Owen gan wasg arall yn fuan. Ildio fu hanes y wasg honno fodd bynnag a daeth yr awdur a'r deipysgrif at Dafydd Meirion. Wedi aildrefnu'r cyflwyniad o atgofion Roger Owen cysodwyd ac argraffwyd mil o gopïau a chawsant eu gwerthu i gyd mewn ychydig wythnosau.

Mae'n galondid medru cofio hefyd i ni lwyddo i gyhoeddi cyfrol arall erbyn y Rhagfyr hwnnw yn 1981. Casgliad o atgofion am Pwllpeiran, Cwmystwyth a detholiad o ysgrifau Llewelyn Phillips, Aberystwyth ar bynciau'r tir oedd hwnnw, ac er y gallasai'r deunydd fod yn gyfyng ei apêl mae'n hyfrydwch cael cofnodi i ni anelu at werthu mil o gopïau ac i ni lwyddo i wneud hynny o fewn naw copi.

Anturiaethau John Hughes, Y Wern ym mis Mai 1982 oedd y gyfrol nesaf y llwyddwyd i'w chyhoeddi ac fel 'llyfr bro' yr ystyriem hwnnw hefyd. Ond gan i'r argraffiad cyntaf o fil o gopïau gael ei werthu yn ystod mis Mai 1982 ac iddo gael ei ailargraffu ym mis Gorffennaf ac yn wir ei argraffu am y trydydd tro ym mis Medi yr un flwyddyn mae'n deg gofyn beth yw 'llyfr bro' ac mai graen mynegiant a diddanwch llyfr yw sail ei apêl a'i werthiant.

Gwerthwyd eisoes ar war dwyfil o Anturiaethau John Hughes, Y Wern a deil yr archebion amdano i'n cyrraedd hyd heddiw.

***

DICHON fod dadl dros i ambell gyhoeddwr gadw i'w rych a chyfyngu ar feysydd a chynnwys ei gyhoeddiadau – arbenigo, a rhoi ei stamp ei hun ar y deunydd, ond prin y gall cyhoeddwr preifat 34 oed, sy'n cyflogi dwsin o weithwyr, fforddio i droi ei gefn ar unrhyw bosibiliadau am fusnes.

Rheswm digonol arall dros ehangu ei faes yw awydd pob cyhoeddwr i gael awduron adnabyddus i ymddiried yng ngraen ac effeithiolrwydd ei gynnyrch, a medr Mei ymhyfrydu iddo gael yr ymddiriedaeth honno.

Teimlem yn falch dros ben pan gaed cyfle i gyhoeddi Darganfod Harmoni gan R. Tudur Jones a gwelsom naw cant, o'r mil copïau a argraffwyd, yw cael eu cipio'n gyflym ym mis Rhagfyr 1982.

Detholiad o ysgrifau wythnosol yn Y Cymro yw'r gyfrol a chredaf i ni wneud cymwynas â darllenwyr ac â'r genedl wrth baratoi'r cyfraniadau hyn ar ffurf mwy parhaol.

'Roedd ymhél â'r papur bro yn Eifionydd, Y Ffynnon, wedi bod yn symbyliad i mi i ymarfer unrhyw reddf i 'chwilio am stori' allasai fod ynof a daeth hynny yn fuddiol iawn wrth chwilio am awduron, ac mae awgrymiadau gan gyfeillion fel Meredydd Evans wedi bod yn fuddiol iawn hefyd. Ef a'm hysiodd i fynd i chwilio am W.H. Reese.

Credem fod chwe chant o gopïau o farddoniaeth yn nifer tebygol iawn i gael eu gwerthu a chywir fu'r dyfalu, a 'does ond ugain copi bellach ym Mhenygroes.

***

YR UN rhuthro byrbwyll ddaeth ag atgofion Charles Williams rhwng cloriau llyfr. Mae'r manylion am sut a phryd y digwyddodd hynny wedi ei gofnodi eisoes yn Y Glorian, y papur bro a gyhoeddwyd yn ddyddiol dros Eisteddfod Llangefni eleni.

Bu gwerthiant y gyfrol yn rhyfeddol hyd yma ac aeth chwe mil o gopïau clawr meddal a dau gant o rai cloriau caled mewn deufis. Cafodd tair mil eu gwerthu mewn pedwar diwrnod ar faes yr Eisteddfod ac erbyn i'r cylchgrawn hwn ymddangos bydd dwyfil arall wedi eu hargraffu.

Y demtasiwn i gyhoeddwyr fu bodloni a byw ar y cymorth ariannol a ddeuai o goffrau'r Llywodraeth a gadael i filoedd o lyfrau orwedd mewn ystordai; ond 'roedd yr ysfa i arddangos a feithrinais gynt, yn dal yn fy mherfedd i, ac yn her i ailafael yn y dasg.

Mae cynhyrchwyr rhaglenni Radio'r B.B.C. yn rhoi cyfraniad difesur wrth gyfeirio at y llyfrau newydd a ddaw ar y farchnad.

Mae hyn yn waith dygn ac anodd ar adegau, a'r peth doethaf bob amser yw mynd i weld ac astudio lled, dyfnder a mains y ffenestr cyn bras-gynllunio ar ffurf a lliw y cyflwyniad. Mae'n rhaid arnom i barchu trefn a natur busnes y llyfrwerthwr a chydymffurfio â rhediad ei fusnes. Gwae'r dyn a geisio fynd at lyfrwerthwr a dibrisio hawl a lle cyfrolau gan weisg eraill – rhaid i chwi gadw yn eich rhych!

Nid gwaith deng munud yw cynllunio a `gosod' ffenestr. Mae o leiaf yn golygu diwrnod cyfan, ond o gofio'r gwaith paratoi ar gyfer y dasg, prin y gellir prisio'r amser ar lai na thridiau dyfal.

Byddai'n dasg anodd i neb geisio fy narbwyllo mai gwaith ofer yw'r arddangos hwn, a bu'r profiad wrth wneud hyn yn siop Llên Llŷn ym Mhwllheli yn brawf.

Pan glywent sôn am y gyfrol yn ddiweddarach ar radio a theledu, ail enynnid llun a lliw ar eu meddyliau. Straeon Rhes Ffrynt gan Gruffydd Parry oedd y gyfrol arbennig honno.

'Roedd poblogrwydd yr awdur yn genedlaethol a lleol yn sail dda i'r gwerthiant ond 'roedd rhoi lle a phwysigrwydd amlwg i un Ilyfr yn rhoi awch ar yr ymgyrch. Mae gwerthiant y gyfrol honno erbyn hyn wedi cyrraedd dwy fil o gopïau.

***

I GRYNHOI gweithgarwch Cyhoeddiadau Mei dros saith mlynedd gellir dweud bod oddeutu deg a thrigain o lyfrau – yn bosau, cartwnau, croeseiriau ac amrywiol fathau at ofynion plant ac oedolion wedi eu cyhoeddi. Mae gwahanol ddulliau at gyhoeddusrwydd hefyd wedi eu hymchwilio megis, nosweithiau lansio, posteri, matiau cwrw, cydau papur efo enw'r Ilyfr a chystadlaethau i blant ac oedolion.

Os deil fy nerth a'm defnyddioldeb i'm cyflogwr gobeithiaf gael cyfrannu rhywfaint at gyfrolau eraill sydd ar y gweill, megis detholiad o Tros fy Sbectol gan John Roberts Williams. Cyfrol am Hogia'r Wyddfa a chyfrol hunangofiannol gan Mr Owen Owen, y llawfeddyg o Gricieth sydd yn Ysbyty Bangor a chyfrol o Pethau Patagonia gan Fred Green o'r Wladfa, a chyfrol am Deulu'r Cilie gan Elin Williams.