"IACHAWDWRIAETH" YNG NGHYMRU
gan William David Parry

 

Y BLYNYDDOEDD diwethaf bûm yn casglu gwybodaeth a defnyddiau ynglŷn â Byddin yr lachawdwriaeth, gan ddod ar draws pethau go ddiddorol. Wyddoch chi eu bod wedi cyhoeddi cylchgrawn Cymraeg yng Nghaernarfon am dros bum mlynedd a hanner o Ebrill 1887 hyd at Dachwedd 1892 sef Y Gad Lef. Ond dim ond y rhifynnau o 1889 sydd wedi goroesi, gydag ambell i rifyn o 1888.

Am a wn i does yr un o'r rhai cynnar ar gael, onibai fod darllenwyr Y Casglwr wedi bod yn eu hel. Fe ddechreuodd y Fyddin eu cyhoeddi drachefn am rai blynyddoedd yn 1904 yng Nghaerdydd ond fel misolyn y tro yma.

Ambell i gopi sydd gan Lyfrgell y Brifddinas o hwn hefyd, ond ymhlith eu casgliad mae un copi o'r papur Y Plyg. Papur oedd hwn wedi ei gyhoeddi gan y Fyddin i ledaenu gwybodaeth ynglŷn â'r Diwygiad.

Er i mi wiwera'n ddyfal am ddogfennau a chofnodion mae'r rhein, yn rhyfeddol o brin. Ymddengys i'r cofnodion o'r Corps History Books yn nifer helaeth o gorffluoedd y Fyddin yng Nghymru ddiflannu o olwg pawb.

Llyfrau yw'r rhain mae'r swyddogion, neu ysgrifennydd y corfflu yn eu cadw i gofnodi ynddynt unrhyw ddigwyddiad o bwys am y milwyr a'r swyddogion adrannol neu leol. Mae ugeiniau o gorffluoedd y Fyddin wedi cau ar hyd a Iled Cymru ers troad y ganrif a'r cofnodion hyn heb ddod i ddwylo'r pencadlys, ac hyd y gwyddom, nid oes yr un ohonynt yn nwylo yr un archifdy na llyfrgell.

Enghraifft warthus o hyn yw'r sefyllfa yng Nghaernarfon. Sefydlwyd corfflu yma yn 1886, ac fe wn fod cofnodion wedi eu cadw dros y blynyddoedd, ond mae'r rheini wedi diflannu i rywle. Fe ellir dychmygu pa mor ddefnyddiol fyddai cofnodion tebyg i'r rhain fel ffynonellau hanesyddol.

***

TROSIADAU oedd rhai o'r emynau Cymraeg, ond hefyd fe gyfansoddwyd rhai cannoedd o emynau i donau bywiog y Fyddin ac i gerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr emynau Cymraeg. Cefnogodd enwogion ein gwlad y fenter o gyhoeddi misolyn cerddorol Byddin yr Iachawdwriaeth, Y Caniedydd Milwrol. Cyfrannodd pobl fel Llew Llwyfo, y bardd Owen Jones, Pencerdd Gwynedd, Dewi Gwallter, yn ogystal â nifer helaeth o feirdd cefn gwlad. Ymddengys fod pob milwr a swyddog yn fardd neu gerddor, o sylwi mor luosog oedd eu cynnyrch.

Mae'n ddiddorol sylwi mai un o'r trafferthion a gafwyd bryd hynny oedd y bu llawer iawn o gyfansoddi geiriau ar gyfer y dôn Bryn Calfaria, a gorfu i'r golygydd ofyn iddynt beidio i defnyddio'r dôn honno. Roedd y Fyddin yn chwarae'r dôn honno fel 'ranting jig', ac efallai mai hynny oedd y gwir reswm am wahardd ei defnyddio.

***

CYMERIAD hynod oedd Thomas Llewelyn Griffith o Bwllheli (1841-1919), roedd yn fardd a cherddor gwych. Gadawodd ei wraig a'i blant ym Manceinion ac aeth ar dramp o amgylch De Cymru yn 1883. Wedi cyrraedd y Rhondda clywodd seindorf Byddin yr Iachawdwriaeth yn cynnal oedfa awyr agored ar ffiniau ffair ac yntau mewn cyflwr truenus ar y pryd, a bodiau ei draed yn ymddangos trwy flaen ei esgidiau.

Fe aeth i wrando ar y Fyddin yn eu neuadd yn ddiweddarach, yn y fan honno sylweddolodd Thomas ei angen am Waredwr. Cyfansoddodd lawer o emynau a thonau mewn moliant i'w Waredwr ar hyd ei oes.

Hynod o hanes oedd i'r gŵr yma pan aeth i Ganada. Bu'n teithio o amgylch y wlad honno gyda'i seindorf fach ei hun yn cenhadu ac arloesi gwaith y Fyddin lle medrai, yn enwedig ym mhlith y Cymry a fudodd yno i weithio yn y chwareli a'r pyllau.

Enillodd Thomas Llewelyn wobr yn Eisteddfod Efrog Newydd am ei farddoniaeth Gymraeg. Daeth yr holl deulu hwn o Bwllheli yn enwog dros y blynyddoedd yng Nghanada fel swyddogion a cherddorion. Roedd un mab, Richard Griffith, yn ysgrifennydd preifat Cadfridog y Fyddin am rai blynyddoedd.

***

RWY'N sicr fod o leiaf un o ddarllenwyr Y Casglwr yn hel Almanaciau. Cyhoeddodd y Fyddin un Cymraeg ar gyfer 1890. Yn anffodus nid oes yr un wedi goroesi am wn i, ond mae gen i ddisgrifiad da ohono.

Argraffwyd yr almanac yma yn ddestlus mewn dau liw, du a coch gyda lluniau o rai o swyddogion y Fyddin, ac un o Mrs Booth yn y canol. Ac wrth ymyl pob dyddiad yn y flwyddyn, ceir adnod neu ran o adnod. Ei bris oedd ceiniog. Roedd gwerthwyr yr almanac yn cael dau swllt a dwy geiniog o elw, neu bedair ceiniog y cant os oeddynt am gael mis o goel.

Roedd y Fyddin wedi cyhoeddi almanac Saesneg yn weddol reolaidd ymhell cyn yr un Cymraeg.

Heblaw am y gyfrol o'm heiddo mae Gwasg Gwynedd am ei gyhoeddi cyn bo hir, ni wn am ddim ond un llyfr ar ran o'r testun o hanes y Fyddin yng Nghymru, 'The Salvation Navvy'.

Fe gyhoeddodd y Fyddin nifer o lyfrau yn Gymraeg. Fe gawn 'Athrawiaethau Byddin yr Iachawdwriaeth' a 'Bywyd Sanctaidd; neu ddysgeidiaeth Byddin yr Iachawdwriaeth am Sancteiddhad', cyfieithiadau o waith William Booth oedd y rhain ac y mae copïau o'r ddau yn y Llyfrgell Genedlaethol wedi eu rhwymo gyda'i gilydd.

Mae ambell i gopi o dractiau Cymraeg y Fyddin ar gael yma ac acw, ond mae'n rhaid cyfaddef mai trosiadau ydynt o waith Mrs a Mr Booth. Yn fwy pwysig 'roedd y llyfr 'Darkest England and the way out' wedi ei droi i'r Gymraeg er nad wyf wedi gweld copi o hwn yn unman.

Tybed a oes gwiwer wedi casglu yr holl bethau hyn? Os dewch ar draws unrhyw beth mi fydd yn dda cael clywed oddi wrthych.