HANESYDD LLEOL O HEN WLAD LLYN gan Bruce Griffiths

MAES toreithiog iawn i’r casglwr llyfrau yw hanes lleol. O'ch cyfyngu'ch hun i un ardal – ardal eich mebyd, er enghraifft – gellwch adeiladu casgliad cynhwysfawr ac unigryw yn gymharol rad, gan nad oes fel arfer lawer o gystadlu am y llyfrau a'r pamffledi sy'n dwyn perthynas ag ardal neilltuol; a hynny er bod llawer o bamffledi lleol eu cylchrediad o'r herwydd yn eithaf prin.

Y demtasiwn a'r perygl yw cael eich llygad-dynnu bron yn ddiarwybod i ehangu'r maes; mae gennyf, mi dybiaf, y casgliad helaethaf mewn bod o ddeunydd sy'n ymwneud â Blaenau Ffestiniog, ond rhywsut fe aeth i gynnwys pethau o Faentwrog, o Groesor, o Ddolwyddelan, o Borthmadog ac o Sir Feirionnydd yn gyffredinol.

Anodd maddau pan welaf rywbeth anarferol o gylch hollol wahanol, megis y casgliad o bamffledi, a fu'n eiddo i K.M. Jones, Bodawel, Ffestiniog, ac a brynais yn siop Mr Dafydd Hughes Llandudno. Â Phen Llŷn y mae a wnelont, ac fe'u cyhoeddwyd oll gan ŵr o'r enw Eddie Kenrick, Hillside, Edern, rhwng 1935 a 1950(?).

Golwg ddigon tlodaidd sydd arnynt, gan mai'r awdur ei hun a'u teipiai ac a'u dyblygai â stensil, a'u styffylu yn lle eu rhwymo, gan eu haddurno â lluniau pensel digon amrwd o'i waith ei hun. Pamffledi Saesneg ar gyfer ymwelwyr ydynt, yn cyflwyno hanes, hynafiaethau, cymeriadau a pheth o faledi Llŷn.

***

METHAIS â darganfod fawr ddim ynghylch Mr Kenrick heblaw yr hyn a ddywed amdano'i hun yn ei bamffledyn I Came to Lleyn (1940), lle dywed iddo, un mlynedd ar bymtheg ynghynt, benderfynu ymgartrefu yng Nghymru, ac yntau'n Sais, er cael sawl rhybudd na fyddai'n ymhoffi yno gan nad oedd y bobl yn siarad Saesneg!

Ar ôl dal trên i Gaernarfon, bu'n crwydro a'i becyn ar ei gefn, trwy Fethesda, Llanberis a'r Waunfawr, heb lwyddo i daro ar gartref wrth ei fodd, nes cael ei gyfeirio i Langwnadl lle cafodd fyngalo bach ger y môr.

Sonia am gwrdd ag Owen Griffiths, 'doctor' y ddafad wyllt, ac am fynd i'w angladd. Eglura sut yr aeth ati i ddysgu Cymraeg er mwyn dod i adnabod y gymdogaeth a'i chymeriadau a'i thraddodiadau yn well. Ni ddywed ddim am ei orffennol, heblaw cyfeirio at ei dad a oedd gydag ef yn yr angladd – ac ni ddywed sut y llwyddodd i'w gynnal ei hun: ai cyhoeddi'r pamffledi hyn oedd ei gynhaliaeth? Am bedair neu bum ceiniog yr un?

Yn ei Kenrick's Lleyn Peninsula Guide - 1947 fe honnir "Guide circulation from: 1935-1946 equals 12,547 copies". Mae'n cynnwys nifer o hysbysebion, yn bennaf ar ran gwestyau, ac ym mysg pigion o wybodaeth eraill sonnir fel y darganfuwyd glo, a suddo pwll i gloddio amdano, ym Mhlas Hebron, Llangwnadl. Glo ym Mhen Llŷn?

Sonir hefyd am 'Vortigern's Valley ', lle darganfuwyd ysgerbwd anferth Gwrtheyrn ei hun, a dywedir "Porth Nant (sic) is now becoming quite a popular place of stay for visitors, who love the sea and mountain".

Ei bamffledi mwyaf uchelgeisiol o bosibl yw'r gyfres Ancient Churches of Lleyn – cyfres o bedwar, heb ddyddiad, ond yr oeddent mewn print cyn 1940. A darllen rhwng y llinellau, gellir tybio i'r awdur ddibynnu'n helaeth ar weithiau hynafiaethwyr lleol megis Myrddin Fardd, ac mae'n amheus gennyf i yn bersonol pa faint o fynd oedd ar y pamffledi hyn ym mysg yr ymwelwyr.

***

MENTRODD Mr Kenrick fymryn y tu allan i'w gynefin gyda'i Pen-Y-Gwryd and Snowdonia (mewn dwy ran): Part One: Its history, together with secrets and records compiled from the visitor's books at Pen-y-gwryd Hotel.; Part Two: its secrets and records compiled from the visitor's book at Pen-y-gwryd. (Dim dyddiad).

Dechreuasid cadw'r llyfr hwn ar gyfer ymwelwyr gan Henry Owen, perchennog y gwesty, iddynt gofnodi ynddo eu sylwadau ar eu harhosiad.

Gorffennaf 2, 1854 yw dyddiad y sylw cynharaf. Ym mhlith yr ymwelwyr yr oedd enwogion megis Charles Kingsley.

Cofnodir nifer o ddamweiniau erchyll a ddigwyddodd i ddringwyr a sonnir am ffenomenon anghyffredin a welwyd o ben y Glyder Fawr – sef yr hyn a elwir 'Bwgan y Brocken' (Brocken Spectre) – nid bwgan o gwbl, ond cysgodion anferth y dringwyr yn cael eu taflu ar gwmwl o niwl gwyn gan yr haul y tu ôl iddynt.

Dro arall, yn 1921, gwelwyd ffenomenon arall, sef y 'geyser', ffrwd o ddŵr yn saethu allan yn annisgwyl o wyneb y graig, ac a welwyd gan ddringwyr yn dringo pentan gogleddol Tryfan.

Gwelir ei waith mwyaf gwreiddiol, mi debygwn i, yn y pamffledi hynny lle aeth ati i gasglu cofion gwlad, yn enwedig am longddrylliau ac am gludwyr (carriers) a choetsis mawr Llŷn.

Yn Lleyn Sketches (Medi, 1941) sonnir yn ddigon difyr am smyglwyr, sipsiwn, Dic Aberdaron, adar Llŷn ac Ynys Enlli; ymwelsai ag Ynys Enlli yn I Came To Lleyn, lle nodir 'the population 20 years ago was 58. Today it is only about half that number. There are 9 farmsteads, 2 private houses, a Chapel, School and Lighthouse. The Island has a President and an acreage of 444 acres' a sonnir yno am `Frenin' olaf yr ynys, Love Pritchard.

***

CEIR rhagor o bytiau hanesyddol difyr yn Lleyn in the Old Days (dim dyddiad), yn bennaf am longddrylliau. Casglodd lawer iawn o wybodaeth a fyddai fel arall yn ddiflanedig, yn ei Old Coaches of Lleyn (including many old carriers (dim dyddiad), gan gynnwys nifer o hen ganeuon a baledi yn dwyn cysylltiad â'r goetsh fawr.

Ar fy nghopi fy hun o'r pamffledyn hwn, nodais y dyddiad (1951) pan gefais i ef. Hyd y gwn i, dyma'r unig un o bamffledi Eddie Kenrick i'w ailargraffu a'i gyhoeddi mewn diwyg taclus fel Coaches and Coachmen of Lleyn Price 1/- (Gwenlyn, Caernarfon, d.d., rywbryd yn y chwedegau).

Er iddo werthu ar gyfartaledd fil o gopïau a mwy y flwyddyn o'r Guide yn unig, yn ôl ei honiad, fy nghopïau i yw'r unig gopïau a welais erioed o'r pamffledi hyn. Hawdd gweld paham. Gwerthid hwy, yn bamffledi papur digon bregus, i ymwelwyr a ddychwelai i Loegr a'u taflu yn amlach na pheidio. A welodd rhywun bamffledi eraill o eiddo Eddie Kenrick? Yn Llyfrgell Coleg y Gogledd gwelais eto: Blacksmiths of Lleyn Part 1 (d.d.); The Call: A Story of Lleyn during the Great War. (d.d.)