FFARWEL I INC LLANNERCH-Y-MEDD ~
Dafydd Wyn Wiliam yn cwblhau'r ymchwil

'GWERTHAIS y gwaith i fachgen oedd wedi bod yn brentis hefo mi ....' Brawddeg foel yw hon o hunangofiant Wiliam Aubrey (t. 112) sy'n cofnodi'r hyn a wnaeth â'i swyddfa a'i wasg argraffu yn Llannerchymedd yn 1864.

Enw'r bachgen o brentis oedd Lewis Jones (1841-77) mab Richard Jones (1809-77), saer maen ac Elisabeth (1807-80) o Ben-y-graig, Llannerch-y-medd. Edrydd Robert Hughes yn Enwogion Môn (1913) t.92 fod Lewis wedi bod 'yn swyddfa'r Herald Cymraeg yng Nghaernarfon yn ymberffeithio yn y gwaith...' cyn prynu gwasg ei feistr.

Nid yw enw Lewis Jones ar restr Cyfrifiad tref Caernarfon yn 1861 a golyga hyn o bosibl mai wedi'r flwyddyn honno yr ymsefydlodd yng Nghaernarfon am flwyddyn neu ddwy cyn dychwelyd i Lannerch-y-medd yn 1864. Yng Nghaernarfon cafodd gyfle ardderchog i gymdeithasu â lliaws o argraffwyr a chyhoeddwyr.

Diddorol yw sylwi fod Jacob Jones, rhwymwr llyfrau 43 oed a brodor o Lannerch-y-medd yn lletya yn 95 Greengate Street, Caernarfon yn 1861.

Tair ar hugain oed oedd Lewis Jones pan brynodd wasg ei feistr yn 1864 ac am ddeuddeng mlynedd wedi hynny bu'n brysur yn argraffu nifer o lyfrau a llyfrynnau diddorol – 13 o gyhoeddiadau crefyddol (6 chyhoeddiad diwinyddol, 4 cyfrol o bregethau, llyfr emynau, llyfryn ar ddirwest ac un arall ar ymddygiad da); 10 o gyhoeddiadau barddoniaeth; dau lyfryn gwyddonol; ffug hanes; cyfansoddiadau eisteddfod; cofiant a chyfrol ar amaethyddiaeth. At y rhain fe gyhoeddodd gylchgrawn misol a newyddiadur wythnosol.

Llyfrau barddoniaeth a chrefyddol oedd prif gynnyrch gwasg Lewis Jones a gwŷr Môn oedd mwyafrif llethol yr awduron – Llew Llwyfo (Lewis William Lewis), Glan Alaw (Richard Jones), Richard Griffith, ysgolfeistr Llannerch-y-medd (â'i weddw ef yr ail-briododd Wiliam Aubrey yr argraffydd), Edward Thomas Hughes o Fodedern, Y Parchg. Hugh Jones o Amlwch, Y Parchg. James Morris o Lanallgo, John Isaac Hughes o Lannerch-y-medd, John Parry (Ioan Dderwen o Fôn), J.R. Hughes (Mechellydd Môn), Richard Eames o Frynsiencyn, Morris Griffith (Trydanydd o Fôn) o Gaergybi, Lewis Jones yr argraffydd, y Parchg. E. Rowland o Bentraeth, R. Hughes o Garmel, D.M. Aubrey (Meilir Môn) o Lannerch-y-medd a Wiliam Aubrey yr argraffydd.

Adlewyrchir berw crefyddol a diwylliannol Môn yn ystod y blynyddoedd 1864-76 yng ngwaith yr awduron uchod.

***

FEL Enoch Jones a Wiliam Aubrey o'i flaen fe gyhoeddodd Lewis Jones gylchgrawn misol Aelwyd y Cymro yn Ionawr 1865 a cheir copi o'r rhifyn cyntaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Eithr fel Y Sylwedydd (1831) a'r Nofelydd (1861) ni bu'n llwyddiant.

Menter fwy uchelgeisiol oedd cyhoeddi papur newydd wythnosol Y Gwyliedydd yn Llannerch-y-medd ym Medi 1870, papur newydd a barhaodd am bedwar mis.

Nid oes wadu nad oedd Lewis Jones ifanc yn argraffydd anturus a blaengar ac oni bai am ei farw cynnar y mae'n hawdd credu y buasai gwasg Llannerch-y-medd wedi ennill bri mawr.

***

ARFERAI Lewis Jones hysbysebu'n gyson ar gynnyrch ei wasg ei fod yn llyfr-rwymydd ac yn llyfrwerthwr ac ambell waith byddai'n rhestru pa ryw lyfrau a werthid ganddo ar glawr papur rhai o'i gyhoeddiadau megis Llusern Y Cysegr .... (c.1869), rhif i, casgliad o bregethau a gyhoeddwyd gan Humphrey Roberts o Lannerch-y-medd.

Diddorol fyddai gwybod a fu Wiliam Jones (g. 1844) a enwir fel argraffydd yng Nghyfrifiad Llannerch-y-medd yn 1861 yng ngwasanaeth Lewis Jones. Preswyliai yn High Street. Gwyddys mai gyda Lewis Jones y bwriodd John Jones (g. 1857), brodor o Lannerch-y-medd, ei brentisiaeth yn argraffydd, gŵr a ddaeth gydag amser yn berchen gwasg argraffu'r dreflan.

Yr oedd Llannerch-y-medd wedi dechrau magu ei hargraffwyr ei hun!

Wedi tymor byr a byrlymus fel argraffydd bu farw Lewis Jones ar 24 Mawrth 1877 yn 36 oed. Nid oedd yn briod. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys blwyf Rhodogeidio ger Llannerch-y-medd. Gadawodd eiddo gwerth llai na £800 (gw. Llyfrgell Coleg Bangor, Papurau Llydiarth Esgob rhif 505) ac awgryma hyn iddo lwyddo i gael bywoliaeth fel argraffydd. Fel y caf ddangos daeth y wasg yn eiddo dwy chwaer iddo.

A ellwch chwi'r darllenwyr, ychwanegu at y rhestr?