DIRGELION LLESTRI BETHEL ~ Tomos Roberts yn datrys
YN EI hysgrif yn rhifyn yr Eisteddfod o'r Casglwr soniodd Helen Ramage am lestri te a'r arysgrif 'A present from Bethel Rock' arnynt. Gwelir nifer o gwpanau a phlatiau ag arysgrif debyg arnynt yn ardal Bethel, Bodorgan Môn hyd heddiw. Nid oes neb yn yr ardal bellach a ŵyr fawr amdanynt.
Pentref bychan, tawel ar y ffordd sy'n arwain o'r lôn bost yng Nghefncwmwd i Aberffraw yw Bethel. Un siop a modurdy sydd yn y pentref bellach. Ond nid felly y bu pethau. Tua chanrif yn ôl yr oedd Bethel yn ganolfan fach brysur dros ben.
Yn un pen i'r pentref safai cwt saer ac ysgol eglwysig ar gyfer 60 o blant. Tros y ffordd yr oedd siop ddillad a bwydydd. Ychydig islaw, ar y ffordd i Soar, yr oedd iard lo William Evans. Yng nghanol y pentref yr oedd rhes o dai a godwyd gan Edward Williams, ysgolfeistr o Fryngwran, yn 1839.
Yn un o'r tai yr oedd swyddfa'r post a gedwid gan Mrs Leech. Mewn un arall trigai Owen Hughes y teiliwr. Ychydig y tu hwnt i Restai Iorwerth yr oedd caban y crydd William Parry (Pelican Môn; 1849-1919), bardd poblogaidd iawn yn ei ddydd. Safai'r efail tua chanllath oddi wrth gaban y crydd, a thros y ffordd safai siop Thomas Lewis a'i gwmni.
Yn ddiweddarach bu'r siop hon yn eiddo i rieni y Parch W. Llywelyn Lloyd. Gerllaw'r siop safai capel y Methodistiaid Calfinaidd, gweithdy Owen Hughes y cyfrwywr a siop lestri Ellen Pritchard (1855-1942).
Rhwng yr efail a chaban y crydd yr oedd craig wen uchel - man chwarae plant y pentref. Ceir disgrifiad o'r graig mewn cywydd i Fethel gan Catherine Hughes, Penrhiwceiber (Catrin o Fôn). Dyma rannau o'r cywydd:
- Hidlo o 'modd odlau mêl
A wnaf weithian i Fethel.
Bethel wen cartre' enwyn
Bro hyfryd fy mebyd mwyn;
Y gyfoethog gu Fethel
Bro ddillyn 'menyn a mêl, A'r hen graig, oedd gadarn gre',
Y wengraig, hudol fangre
Cartre mwyniant plant y plwy'
Mor ddifyr, mor ddiofwy! Mewn hwyl bûm innau'n mwynhau
Ar ael ei chlaer orielau;
Wele'n awr yng nghalon hon
Raib hyll yn rhoi ebillion,
Ôl ei gwynion glogwyni
A moel fan mwy welaf fi.
***
FEL Y crybwyllir yn y cywydd, dechreuodd rhywrai gloddio'r graig wen tua diwedd y ganrif. Cofiai fy nain dri chwarelwr yn gweithio yno: Hugh Morris, Tyn-llain, Malltraeth; Owen Roberts, Cerrigiago, Llangadwaladr a Pyrs Williams, Lôn Caeddafydd, Malltraeth.
Eu gwaith hwy oedd saethu a darnio'r graig a naddu'r darnau yn dalpiau sgwâr. Llwythwyd y cerrig nadd ar drol a'u cario i orsaf Bodorgan. Cludwyd hwynt oddi yno i Stoke-on-Trent, a defnyddiwyd hwy i wneud llestri.
Deuai'r llestri yn ôl i siop Mrs Pritchard, a gwerthodd hithau lawer ohonynt i drigolion y pentref ac i eraill yn yr ardal. Cymerai Mrs Pritchard ddiddordeb yn y gloddfa a'r graig, ac yn y llestri, a threuliai hi a'i gŵr eu gwyliau yn Stoke-on-Trent. Deuai cyfarwyddwr un o'r cwmnïau a ddefnyddiai'r graig i aros ym Methel gyda Mrs Pritchard. Ond bellach nid oes neb yn gwybod ei enw.
***
ERBYN tua 1914 yr oedd y graig wen wedi ei chloddio ymaith gan adael twll enfawr yn y ddaear rhwng yr efail a chaban Pelican Môn. Tua 1916 daeth ewythr fy nain, Thomas Jones (Traethlanydd), Bangor, - gŵr a fu fel minnau yn was i Goleg y Gogledd - ar daith hiraethus i fro ei febyd.
Lluniodd ysgrif am y daith a chyhoeddodd hi yn Y Clorianydd. Dyma a ddywed am y pentref:
- O'r orsaf troais fy nghamrau i gyfeiriad Bethel, ac wedi cyrraedd
yno, yr hyn a dynnai'm sylw fwyaf ydoedd absenoldeb yr hen
graig wen: "it was conspicuous by its absence" fel y dywed y Sais.
Dyma gyfnewidiad eto.
- Bu yn gadarn ar ei gorsedd,
Fel brenhines creigiau'r plwy;
Amddiffynfa gref y pentref,
Yno nid yw hithau mwy.
- Saif gefail y gof gerllaw yn unig, fel cofadail i wynder cymeriad yr
hen graig. 0 fewn tafliad carreg iddi dyma weithdy Pelican Môn, a'r
bardd mor ddiwyd ag arfer, ond ei gân felus bron wedi tewi, oherwydd
efallai ei amddifadu o gysgod y graig.
Caewyd y gloddfa tua 1914 a chaewyd siop Mrs Pritchard tua deng mlynedd yn ddiweddarach. Bellach nid oes yna neb yn fyw ym mhentref Bethel sydd yn gwybod dim am y llestri na'u gwneuthurwyr. Cafodd yr hen gloddfa ei llenwi â rwbel, a sail unig siop y pentref yn awr ar y safle.
***
LLESTRI gwyn, cannaid yw'r mwyafrif o lestri'r garreg wen. Gwelais lestri te, platiau mawr ac esgidiau a chlocsiau ac arnynt y geiriau 'A present from Bethel, Anglesey' neu 'A present from Bethel Rock'. Gwelais un plât â llun pentref Bethel ei hun arno. Ni cheir unrhyw farc o gwbl ar y llestri hyn.
Ond y mae llestri eraill a wnaed â’r garreg wen ar gael o hyd. Llestri ydynt o liw hufen, a cheir arnynt yr arysgrif 'Bethel', neu 'A present from Bethel, Anglesey'.
Gwelais i lestri fel hyn ychydig ddyddiau yn ôl - cwpanau, mygiau a photeli ac arnynt bais arfau teulu Paget, Plasnewydd, Môn. Ceir y marc A. & S. Stoke, on Trent, Arcadian China ar y llestri hyn. Dyma farc Arkinstall and Sons Ltd., Trent Bridge Pottery, Stoke-on-Trent. Sefydlwyd y cwmni hwn yn 1904 a llyncwyd ef gan gwmni Robinson and Leadbetter yn 1908. Cynhyrchwyd llestri yn dwyn yr enw Arcadian China rhwng 1904 a 1924.
Mae enw un o'r cwmnïau a ddefnyddiai garreg wen Bethel, felly yn hysbys. Mae'n bosibl fod papurau'r cwmni hwn ar gael o hyd ac y ceir rhagor o fanylion am un o ddiwydiannau mwyaf anghyffredin Môn ynghadw yn Swydd Stafford.