DARLUN NEU DDAU HEB DDOD I'R FEI
Dyfed Evans ar drywydd y lluniau a'r medalau

PWY bynnag oedd yr arlunydd a beintiodd y llun o Eben Fardd n ddi-farf (Y Casglwr, Awst '83),'roedd ganddo lygad da am fanylion. Y mae'n ddigon hawdd adnabod y fedal a wisga'r bardd ar ei frest wrth gymharu'r llun a'r fedal ei hun.

Ie, y fedal a enillodd Eben am ei awdl "Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid" yn y Trallwng yn 1824 yw hon, clamp o fedal arian yn mesur tua 83 mm ar ei thraws. Ar un ochr iddi y mae llawryf cerfiedig o gylch yr ymyl, a cherflun cywrain ryfeddol o gadair yn bochio allan yn y canol. Ar yr ochr arall gwelir y geiriau:

Cymmrodorion Powys
I
Ebenezer Thomas
am ei awdl ar
ddinystr Jerusalem
Sepr 1824
Hwyraf a llwyraf dial yw
dial Duw

Gan Mrs Eunice Jones, Tegfan, Llanaelhaearn y mae'r fedal hon, ynghyd â phum medal arall a enillodd Eben Fardd mewn gwahanol eisteddfodau. Mae dwy o'r rheini hefyd i'w gweld ar y bwrdd yn y llun, ac yn ddigon hawdd i'w hadnabod oddi wrth ffurf y bwlch y rhoddir y rhuban trwyddo.

Y fedal a enillodd Eben am ei awdl ar "Cystuddiau, Amynedd ac Adferiad Job" yn Lerpwl yn 1840 yw'r fwyaf o'r ddwy hyn. Mesura tua 75 mm ar ei thraws. Ar un ochr, mewn cylch o lawryf, y mae cerflun o ŵr barfog moel ei gorun, gyda dillad llac, llaes at ei fferau, yn gwisgo sandalau, yn eistedd ar gadair ac yn ysgrifennu â chwilsyn ar bapur neu femrwn ar ei lin. Uwchben y llun ceir y geiriau "The Liverpool Eisteddfod", ac oddi tano, "June 1840". Yn ysgrifenedig ar yr ochr arall y mae:

For the best Ode
on
Job's Afflictions
Patience
and Restoration

Medal ar yr un patrwm yw'r lleiaf o'r ddwy y gwelir eu Iluniau ar y bwrdd hefyd, ac yn yr un eisteddfod yn Lerpwl yr enillwyd hon. Ei maint yw 62 mm ar ei thraws.

Cerflun o ŵr fel pe bai'n hedfan yn y cymylau sydd ar un ochr i'r fedal hon, a'i ddillad llaes wedi codi'n dorchau am ei gluniau. Uwchben y llun dywedir, "Eisteddfod Gadeiriol y Gordofigion" ac oddi tano "Llerpwll, Mehefin 1840". Ar yr ochr arall ceir:

I
(lle gwag heb enw neb)
am y chwech pennill goreu
Hir-a-Thoddaid
ar
"Esgyniad Elias
i'r Nef '
Cas gwr ni charo y wlad a'i maco.

Cafodd Eben ddwy o'r medalau eraill sydd ym meddiant Mrs Eunice Jones ym Miwmares yn 1832. Mae'r fwyaf o'r rhain (60 mm ar draws) yn llawer llai addurniedig na'r medalau a grybwyllwyd eisoes. Cerfiad o Bont Menai sydd ar un ochr iddi, a llong yn hwylio ar yr afon. Ar yr ochr arall dywedir:

Eisteddfod Beaumaris
I
Ebenezer Thomas
am ei englynion ar
Bont ar Fenai
1832.

Yn ôl Eben ei hun yn ei ddyddiadur (Detholion ... E.G. Millward) dwy bunt oedd gwerth y fedal hon yn 1832.

Arfbais ag arni goron a llew a rhyw fath o geffyl sydd ar un ochr i fedal arall Biwmares. Ar yr ochr arall gwelir y geiriau:

Beaumaris Eisteddfod
Presented
by their Royal Highnesses
The Duchess of Kent
and
Princess Victoria
to
Ebenezer Thomas
August 1832.

Am ei chwe englyn i Bont Menai y cafodd y fedal hon hefyd – dwy fedal am yr un gwaith, y naill yn cael ei chyflwyno ar 28 Awst a'r hall ar 29 Awst.

***

AR y chweched medal ym meddiant Mrs Jones nid oes ysgrifen o gwbl. Mae hon yn dewach a thrymach ei gwneuthuriad na'r gweddill a'r cyfan sydd arni yw cerfiad o filwr yn ei lifrai, yn dal cleddyf yn y llaw chwith, a baner y Ddraig Goch yn y llaw dde. Hon, yn ddiau, oedd y fedal a enillodd Eben yn Llangollen yn 1858 am ei awdl ar "Brwydr Maes Bosworth".

Daeth y medalau hyn yn eiddo i Mrs Jones trwy fod merch i Eben Fardd wedi priodi ag un o deulu Hendre Bach, Clynnog, ac yno yr oedd cartref ei hynafiaid hithau. Cafodd hi'r trysorau ar ôl ei thad.

Ar wahân i’r medalau etifeddodd hefyd lyfr mathemateg a ddefnyddiai Eben Fardd yn yr ysgol, ei lyfr cofnodion fel arolygwr y plwyf, mesurydd onglau, cwmpawd, nib, sbectol, pin ysgrifennu, crib mwstash a cheiniog fawr 1797. Ar y blwch a ddeil y mesurydd onglau y mae'n ysgrifenedig "From John Williams to Ebenezer Thomas".

***

BU’R llun gwreiddiol o'r Eben di-farf yn crogi ar y mur yn Nhegfan hefyd, ond teimlwyd ei fod yn rhy fawr ar gyfer y lle, ac ar awgrym Dr John Gwilym Jones, sydd yntau yn dal cysylltiad â theulu Hendre Bach, fe drosglwyddwyd y llun a chadair dderw ynghyd ag amryw o luniau o blant Eben i Goleg y Gogledd.

Pa ddarlun o Eben yw hwnnw y gwelwyd copi ohono yn Y Casglwr tybed? Ai'r un o waith Evan Williams ' y limner' a gyflwynwyd iddo gan Love Parry, Madryn yn Eisteddfod Madog yn 1851 - ynteu'r un a beintiwyd gan Tom Williams o Gaernarfon yn 1840. Yn ei ddyddiadur am 1840, dywed Eben:

October 17. Went to Caernarfon. Sat to my picture for about 3 hours at Tom William's. A very good likeness I think, but the process of sitting to it was sadly tedious. ...

11. Mrs Williams and the Caernarfon artist Tom came by in a car. Tom was very shy, his mother had my portrait. I gave her some English lines I had composed for Tom.

Yn 1851 buasai Eben yn hanner cant namyn un. Tybed nad oedd ganddo farf cyn hynny?

Ond pa un bynnag ai darlun o waith Evan Williams ynteu o waith Tom Williams yw'r un sydd ym Mangor ac a atgynhyrchwyd yn Y Casglwr, byddai'n ddiddorol gwybod beth yw hanes y llall.

NODYN. Fel y dangosodd y Ilythyrau ar dud. 2, engrafiad a gyhoeddwyd ym mis Awst o ddarlun o'r Eben ddi-farf a wnaed gan Evan Williams (Y Limner) - ac yn wir y mae'r gwreiddiol yn ddiogel yng Ngholeg y Gog­led. Felly - ble mae llun Tom Williams, a Robert Hughes ran hynny, o Eben Fardd? - Gol.