"COFION CYMRU" A'R CYFROLAU
ANRHEG CYMRAEG I'R LLUOEDD ~ Arolwg T.Gwyn Jones

TYBED a oes yna rywrai o aelodau Cymdeithas Bob Owen sy'n meddu ar gasgliad cyflawn o Cofion Cymru, y cylchgrawn bach misol a gyhoeddwyd ar gyfer "ei phlant ar wasgar" yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd? Go brin i'r bobl ifainc, yn fechgyn a merched, oedd yn derbyn y cylchgrawn bryd hynny fedru cadw eu copïau dan amgylchiadau rhyfel, a bywyd mor symudol ac ansicr iddynt.

Ymddangosodd rhifyn cyntaf Cofion Cymru yn Ebrill 1941. Argraffwyd gan Evan Thomas, Bangor a chyhoeddwyd dros y Gynhadledd er Diogelu Diwylliant Cymru gan D.R. Hughes, Y Bwthyn, Hen Golwyn ac mae'n werth nodi'r gair a ganlyn gan y golygyddion, "Gall pob Cymro a Chymraes a wasgarwyd o'u cartrefi i'r lluoedd arfog neu oherwydd gofynion arbennig gwaith rhyfel ar fôr neu ar dir, sicrhau Cofion Cymru yn rhad ac am ddim bob mis."

Parhaodd y Cofion hyd Fehefin 1946 a dod i ben gyda Rhif 62. Cyhoeddwyd ef yn gyson a di-fwlch bob mis, ar wahân i Rif 3 oedd ar gyfer deufis, Meh-Gorff. 1941. 'Roedd hyn yn gryn gamp pan ystyriwn yr anawsterau i gychwyn cyhoeddiad newydd amser rhyfel. Nid y lleiaf oedd sicrhau cyflenwad o bapur i’r fenter a bu'n rhaid brwydro'n galed.

Pedair tudalen oedd iddo ond llwyddwyd i ddyblu hynny ar gyfer Mawrth 1943, Mawrth 1945 a'r rhifyn olaf i gyd, Mehefin 1946. Ychwanegwyd 'Atodlen' ar bapur sgleiniog i'r Cofion unwaith yn cynnwys darluniau a hanes gosod tabled yn Gymraeg o Weddi'r Arglwydd ar fur Eglwys y 'Pater Noster' ar Fynydd yr Olewydd, a saif yn ymyl y ffordd i lawr i Gethsemane.

***

CYNAN a Thomas Parry oedd y golygyddion, a chyda hwy sicrhawyd gwasanaeth y Prifathro J. Morgan Jones, Dr R.T. Jenkins a D.R. Hughes i fod yn aelodau o'r pwyllgor. Bu Dr Thomas Parry yn gyd-olygydd hyd Fawrth 1944, ac yn aelod o'r pwyllgor ar ôl hynny. Dilynwyd ef gan W.A. Bebb, Bangor, a J.H. Williams, Llanberis. Parhaodd Cynan yn gyd-olygydd y Cofion hyd Ebrill 1945, a dyma ddywed wrth ffarwelio:

"Gyda'r rhifyn hwn y mae'r Cofion yn cyrraedd ei bedair blwydd oed. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf fel antur ffyddiog yn Ebrill 1941, a hynny heb geiniog mewn llaw. Yn ystod y pedair blynedd hyn cyfododd y cylchrediad o 4,000 i 28,000, ac erbyn heddiw nid rhaid pryderu am gefnogaeth – ariannol nac arall. Cefais y fraint fawr a'r profiad pleserus o fod yn un o'i olygyddion o'r cychwyn, ond gyda'r rhifyn hwn gofidiaf fod yn rhaid i mi oherwydd pwysau gwaith arall ymddeol o'r cyfrifoldeb golygu."

Mawr oedd cyfraniad y gwŷr da fu ynglŷn â'r gwaith o gyhoeddi'r Cofion, a derbyniwyd llawer o lythyrau diolch oddi wrth Gymry ifainc yn mynegi eu gwerthfawrogiad, o lawer rhan o'r byd. Cyhoeddwyd rhai o'r llythyrau yn Cofion o dro i dro. Hawdd deall y croeso oedd iddo.

'Roedd yn gylchgrawn rhyfeddol o gyfoethog ac yn cynnwys digon o amrywiaeth, - yn erthyglau a storïau byrion, englynion, limrigau, diarhebion, adolygiadau ar lyfrau Cymraeg newydd, a myfyrdodau gan rai o arweinwyr crefydd yng Nghymru. Ar y wynebddalen ceid dyfyniad o waith un o brif lenorion Cymru, - O.M. Edwards, Emrys ap Iwan, Morgan Llwyd, ac eraill. 'Roedd cyfle i’r bobl ieuainc eu hunain wneud cyfraniad drwy gystadlu ar linell goll neu ysgrif fer ar gerdyn post.

Yn y Cofion hefyd yr ymddangosodd ysgrifau Idris Thomas, gweinidog y Bedyddwyr o Blaen-gwawr yn Nyfed, am y tro cynta'. Fe'u cyhoeddwyd wedyn, yn 1945, yn Llyfrau'r Dryw. Mawr oedd yr hwyl a gafwyd wrth ddeall mai Dr R.T. Jenkins, ac aelod o bwyllgor Cofion, oedd y Parch Idris Thomas hwnnw.

***

RHAN arall o waith y Pwyllgor fu cyhoeddi'r gyfres o lyfrynnau'n dwyn y teitl 'Y Llyfrau Anrheg'. 'Roedd nifer o wŷr amlwg eraill wedi dod yn aelodau o'r Pwyllgor erbyn hynny, – Picton Davies, y newyddiadurwr, E. Morgan Humphreys, ac Alun Talfan Davies.

Antur ffydd oedd hon eto fu'n llwyddiannus a chael ei gwerthfawrogi'n fawr gan blant Cymru ar wasgar. Llyfrau o blyg bychan yw'r rhain, hawdd eu rhoi ym mhoced milwr neu awyrennwr.

Mae'r pum llyfr cyntaf yn y gyfres yn unffurf o ran maint ond yn gwahaniaethu yn y nifer tudalennau.

Llyfr Anrheg 1. Cyhoeddwyd erbyn Nadolig 1943. Mae'n cynnwys amrywiaeth o gerddi, trwm ac ysgafn, detholiadau o awdlau, englynion buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol, hen benillion, adnodau o'r Hen Destament a'r Newydd, dywediadau Iesu Grist, etc.

Ail Lyfr Anrheg. Cyhoeddwyd erbyn Gŵyl Ddewi, 1944. Detholiad o ryddiaith, hen a diweddar at chwaeth pawb, yn cynnwys y clasuron a gwaith y prif lenorion.

Trydydd Llyfr Nadolig – Emynau'n Gwlad. Cyhoeddwyd erbyn Awst 1944, casgliad o 54 o emynau poblogaidd. Ceir rhestr o'r Cymdeithasau Cymreig yn Lloegr ar glawr cefn y llyfr.

Pedwerydd Llyfr Anrheg - Calendr y Cymro. Danfonwyd i feibion a merched Cymru erbyn Gŵyl Ddewi, 1945. Heblaw'r calendr sy'n nodi dyddiau geni neu farw enwogion Cymru, ceir ysgrif fer a darlun gan Dewi Prys Thomas ar gyfer pob mis. Mae yma fap o Gymru a phob math o wybodaeth gyffredinol am Gymru, y sefydliadau addysgol, y cyrff crefyddol, cyfnodolion Cymraeg, Aelodau Seneddol etc.

Pumed Llyfr Anrheg. Chwech o storïau byrion gan ysgrifenwyr oedd yn awduron cyfarwydd. Dyma'r olaf o'r Llyfrau anrheg bychain, clawr meddal, ac wedi eu cyhoeddi gan Wasg y Brython, Lerpwl. Ymddangosodd yn haf 1945.

Y Ddolen – chweched llyfr anrheg 1946. Mae hon yn gyfrol o 108 tudalen wedi ei rhwymo mewn clawr caled. Cyfrol yn wir oedd yn werth ei chadw a'i thrysori. 'Roedd y cynnwys yn newydd ar y pryd, ac amryw o feirdd a llenorion gorau Cymru wedi cyfrannu i'r gyfrol. Hefyd ceir ynddi ddarluniau gwych o olygfeydd yng Nghymru o waith R. Cecil Hughes, Abertawe.

***

PRIF gymwynaswr ieuenctid Cymru yn y gwaith enfawr o gynllunio a pharatoi'r cyhoeddiadau hyn ar eu cyfer oedd D.R. Hughes. Dyma ddywed Dr. Thomas Parry amdano yn ei ragair i'r Ddolen: "0 bawb, yr un sy'n haeddu diolch gwresocaf y Pwyllgor a diolch pob Cymro a Chymraes a gafodd gysur o'r Cofion a'r gyfres llyfrau anrheg, yw D.R. Hughes, am ei weledigaeth, ei ddyfalbarhad a'i gydymdeimlad â phob Cymro oddi cartref ac am lafur enfawr na ŵyr neb ei faint."

Daethai i Hen Golwyn i ymddeol yn 65 mlwydd oed yn 1939 ar ôl blynyddoedd o wasanaeth yn Llundain. Pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd sylweddolodd fod y rhyfel yn bygwth seiliau ein diwylliant, ein hiaith a'n ffordd o fyw. Ymdaflodd i wasanaethu Cymru ym mhob ffordd posibl, heb gyfri'r gost iddo ef yn bersonol. Rhaid oedd wynebu'r anawsterau a'u goresgyn.

Bu'n ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod ac yn drysorydd Pwyllgor Diogelu Diwylliant Cymreig. Pan ffurfiwyd Undeb Cymru Fydd yn 1941, etholwyd ef yn drysorydd. Iddo ef 'roedd yn bwysig ennill cefnogaeth Cymru gyfan i'r mudiad a sefydlu adrannau drwy'r wlad.

Mae enwau Cymry adnabyddus ymhlith ysgrifenyddion yr Adrannau:

Gwynfor Evans (Gogledd-Ddwyrain Myrddin), Dr Gwent Jones (Abertawe), E.D. Jones (Gogledd Ceredigion), J. Roberts Williams (Arfon), D.O. Roberts, Aberdâr ac eraill. (Gweler Atodiad I Pamffled `Undeb Cymru Fydd' gan T.I. Ellis).

Anerchodd D.R. Hughes lawer o gyfarfodydd cyhoeddus dros yr Undeb a rhoddai gefnogaeth frwd i'r adrannau. Fel ysgrifennydd Adran Gorllewin Myrddin cofiaf yn dda amdano'n mynd o'i ffordd i wneud y daith i Landeilo er mwyn cael trafod, uwchben cwpanaid o de mewn gwesty, ryw fater oedd iddo'n bwysig ynglŷn â dyfodol y mudiad yn Sir Gaerfyrddin.

Y math hwn o ddyfalbarhad ac ymroddiad, yn ogystal â'i foneddigeiddrwydd naturiol, a enillodd iddo'r gefnogaeth i allu dosbarthu miloedd o gopïau o Cofion Cymru bob mis, yn rhad ac am ddim i feibion a merched Cymru wasgarwyd i bob rhan o'r byd.

O.N. Tybed a oes rhywun all gynorthwyo? — Yn eisiau, Rhif 33, 57-62 o Cofion Cymru ac Y Ddolen (Llyfr Anrheg Rhif 6). Mae gennyf gopïau sbâr o Rifau 1, 3, 12, 13, 23 Cofion Cymru a Llyfrau Anrheg 1-5.