COFIO EDWARD THOMAS ~ gyda Ioan Mai Evans

 

         

Mynydd tanllyd Vesuvius yn mud losgi yn y pellter.
Yr olygfa o Ynys Capri fel y'i gwelwyd gan Sologoub yn 1953.
Mrs Jane Thomas ac un arall o'r lluniau a wnaeth Sologaub o draethau'r Mor canoldir.

"MAE pen yr Eifl 'run fath yn union a phen y llosgfynydd Etna", meddai'r Golygydd John Roberts Williams, wrth iddo godi ei olygon tua'r mynydd pan alwodd heibio am lith i'r Casglwr, toc wedi iddo ddychwelyd o'i daith i Ynys Sisili eleni. Oedd o yn ddiarwybod ac ar 'ddistaw duth', wedi canu clock o ryw hen gynfyd pell? Yn wir, medd y daearegwyr, fel y ffrwtiai swigod yn y crochan berwi jiam cartra 'stalwm, felly hefyd y mân fryniau fel yr Eifl yn y dechreuad pan oedd y ddaear heb fod mor lluniaidd a llawn ag y mae hi heddiw yn y rhan yma o'r byd beth bynnag.

Hyn a barodd imi ail edrych ar y darlun a gefais yn anrheg gan fy mam yng nghyfraith Mrs Jane Thomas, genedigol o ardal Pontarddulais and yn byw yn awr yn Abererch. Llun o Vesuvius o Ynys Capri yn mud losgi'n y pellter. Prynodd y darlun yn yr Iseldiroedd yn 1953 ac ar ei gefn, . . . Capri Halia, L. Sologoub, IX.53.'. A chyn y gwelwch y tân â'r brwmstan sydd yn y llun, mae gofyn wrth y lliwiau i weled y mynydd yn erbyn glesni llwydaidd y cerrig calch sy'n codi o'r môr.

Ond darlun o gwr o'r Ynys ei hunan oedd ei ffefryn hi.

Yma yn rhywle y bu'r Ymherawdr Rhufeinig Augustus yn codi ei filas mewn pedair milltir sgwâr o baradwys debygwn i. Yma hefyd erbyn heddiw mae allor duwies y Dwristiaeth Fodern Gydwladol, medda nhw i mi, lle medrwch lenwi eich bol â gwin melys, orenau neu ffigys.

Am a wn, prin fod llawer o werth yn y lluniau fel lluniau, ond 'roedd yn rhaid imi wrando ar hanes 'Sologoub'. Ffoadur a fu'n byw mewn siac yn un o erddi'r Hague yn yr Iseldiroedd, a fo oedd un o benseiri y Tsar olaf yn Rwsia, yr anghyfrifol Nicolas yr Ail. Anodd iawn oedd sgwrsio efo fo, yr henwr tywyll barfog a bonheddig, gan mor fregus oedd ei dipyn Saesneg. Ei Ffrangeg yn rhugl, ac fe ymwelodd fy ngwraig ag ef yn ei siac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a hithau wedi bod yn nyrsio yn Nwyrain Llundain o dan y cawodydd bomiau, a gweld pobol yn taflu tomatos at Churchill ar ôl cyrchoedd bomio oedd yn fwy mileinig na'i gilydd.

A llun fflamgoch o Churchill oedd yn ei wynebu yn siac Sologoub, yr Iddew o Rwsia, a hefyd llun mawr o’r Crist heb ei orffen.

Mewn dau o luniau llai ar fur cell fy mam yng nghyfraith, y pensaer yn fwy na'r arlunydd oedd i'w weld, ond eto cynhesrwydd gwledydd y Môr Canoldir wrth bob drws a chysgod y grisiau cerrig.

***

I DDOD dipyn yn nes adref, wrth jwlffa'n ei Llyfr Lloffion, 'roedd ynddo amrywiol gyfeiriadau at y bardd Edward Thomas. Fy niweddar dad yng nghyfraith, Thomas Phillip Thomas, yn berthynas iddo, cefnder i'w dad. Gwelais yr ohebiaeth a ddaeth i Ty'n y Bonc, Pontarddulais, pan laddwyd y bardd ar faes brwydr Arras, ar fore Llun y Pasg, Ebrill 9, 1917.

Newydd i mi oedd gwybod na fedrai mam ei gŵr yr un gair o Saesneg, ac ati hi y deuai Edward Thomas, ar ei dro ac am y canwyllbrennau pres a'r fegin dân yn y cartre hwnnw y mae'n sôn yn un o'i ysgrifau. Eto 'roedd y ddau yn deall ei gilydd i'r dim pan ddeuai'n amser pwytho neu drip llysiau at bryd bwyd.

Fwy nag unwaith y clywais fy nhad yng nghyfraith yn dweud fel y cynghorai'r prifathro ef i golli'r ysgol pan ddeuai Edward Thomas, i'r Bont, gan y dysgai fwy yn crwydro'r wlad efo'r bardd.

Ac onid rhithmau'r tymhorau, sŵn, ac arogleuon y wlad ydoedd ei fyd? Bodiodd y ddau ganhwyllbren pres, a megin chwythu tân, Ty'n y Bonc, a dyfnhau ymwybyddiaeth y bardd yn y Gymru yn oedd am wybod mwy amdani. Ac yr oedd llais clir Gwili hefyd yn rhywle'n y llinach pan ganodd ef fel hyn i Edward Easterway:

Fe gytuna'r beirniaid fod Edward Thomas, yn un o feirdd mwyaf ei ganrif, ac mewn darlun o'r Llyfr Lloffion fe welir drwy'r ffenestr, fywyd y bardd a'i briod Helen.

Arwyddlun yw'r patrwm a fframiwyd gan ddwy goeden, y naill yn dwyn dail a'r llall yn noeth. Ymestyn dwylo'r haul ei fendith ar enwau'r ddau ar risgl y goeden ddeiliog. Gwregys a helm y milwr sydd yn hongian ar y llall, a noethder y gaeaf sydd wedi gafael ynddi. Yn y cefndir mae rhai golygfeydd o'r cynefin, a thu draw mae mynyddoedd pell gwlad ei dadau yng Nghymru.

Ar draws gosododd y cynllunydd linellau o weithiau a meddyliau y bardd ei hun, megis: