BEIBL Y CRYNWR ~ yn meddiant W.J.Edwards

UN O'R tasgau gorau gennyf yn yr ysgol gynt oedd llunio hunangofiant y peth yma a'r peth arall. A'r tu allan i'r ysgol yr oedd cyfansoddi hunangofiant ar restr testunau pob cyfarfod cystadleuol ac eisteddfod. Y wobr eisteddfodol gyntaf a enillais i oedd am ysgrifennu Hunangofiant Ci Defaid pan oeddwn yn grwt yn Nhre-Taliesin, Gogledd Ceredigion ac er mai gwaith digon elfennol ydyw y mae gennyf dipyn o feddwl o'r llith o hyd.

Wrth ystyried mai ceisio cyflwyno stori a wna hunangofiant byddai'n dda gennyf pe bai'r gyfrol fawr sydd yn y stydi yma yn gallu adrodd stori'i bywyd. Dyma'r gyfrol Gymraeg hynaf a feddaf ac y mae'n tynnu at ei thri chanfed pen-blwydd. Fe wn ran o'i stori ac fe'i rhannaf a chi ond fe garwn wybod mwy o lawer am ei hynt a'i helynt er pan aned hi yn 1690.>

Hen Feibl yw'r trysor sydd yn fy meddiant ac yn llyfr John Ballinger ar Y Beibl yng Nghymru, hwn yw'r deunawfed allan o'r 382 a restrir ganddo hyd 1900. Y mae'n cychwyn gyda'r gyfrol gyntaf honno, Yn y Lhyvyr Hwn, a ymddangosodd yn 1546 a da cofio mai dim ond dwy flynedd dros y cant oedd yna er cyhoeddi'r Beibl Cymraeg cyflawn cyntaf gan yr Esgob William Morgan.

***

CYN manylu ar yr hen gyfrol y mae'r ffordd y ffeindiodd ei lle yn fy nghell yn ddiddorol a dweud y lleiaf. Un o ddiaconiaid yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, Robert Eifion Jones a'i rhoes yn anrheg i mi a thu mewn i'r clawr ceir y geiriau yma: "Hen Feibl Teuluaidd perthynol i deulu Thomas Rowland (Crynwr), Tŷ Nant, Pantglas, Llanfor ger y Bala, gyda'r flwyddyn 1733 arno. Cafwyd hyd iddo mewn llofft yn yr hen ran o dŷ Tan-y-coed, Llanfor, gan R.E. Jones, Hydref 1921". Yr oedd disgynyddion Thomas Rowland yn ffermio ers tro byd yn Nhan-y-coed cyn cyfnod Robert Eifion yno a phan symudodd yr olaf ohonynt, W.T. Rowlands, i’r Bala y dechreuodd R.E. Jones amaethu yno. I'r anghyfarwydd gwell ychwanegu fod Tan-y-coed yng Nghwm Main y tu ôl i'r Sarnau a Chefnddwysarn.

Er chwilio a chwalu a holi hwn ac arall methais hyd yma â dod o hyd i unrhyw fanylion pellach am Thomas Rowland a byddai'n dda gennyf wybod mwy amdano. Faint oedd ei oed tybed yn 1733 pan dorrodd ei enw mewn mwy nag un lle yn y Beibl? A chan fod nythaid dda o Grynwyr yng Nghwm Main a Chwm Celyn beth oedd ei gysylltiad â'r rheiny? Y mae'n bosibl fod rhai o Grynwyr yr ardaloedd yma ym Mhenllyn a ymfudodd oherwydd erledigaeth i Pennsylvania wedi bod yn byseddu'r hen Feibl ac yn darllen ohono yn y cyfarfodydd yn Hafod Fadog a lleoedd eraill.

***

UN PETH diddorol ynglŷn â'r Beibl yw mai hwn oedd y Beibl Cymraeg cyntaf i'w argraffu y tu allan i Lundain ac yn Rhydychain (fel sydd ar y wyneb-ddalen) y ganed ef. Dim ond un mlynedd ar bymtheg cyn hynny yr argraffwyd y Beibl Saesneg cyntaf gan Wasg Prifysgol Rhydychen.

Adweinir Beibl 1690 fel Beibl yr Esgob Lloyd am mai ef oedd yn bennaf gyfrifol am ei gael trwy'r wasg. Hanai o deulu nodedig gyda nifer fawr o esgobion a chlerigwyr yn ei dablau achau ac ar ôl bod yn fyfyriwr yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, bu'n Archddiacon Meirionnydd, Deon Bangor, Esgob Llanelwy (lle'r oedd pan gyhoeddwyd y Beibl), Lichfield a Chaerwrangon lle bu farw yn 1717.

Cynorthwywyd ef yn y gwaith gan Pierce Lewis, Llanfihangel Tre'r Beirdd, Môn, a oedd yn dal yn fyfyriwr yn Rhydychen adeg argraffu'r Beibl. Ar ôl hynny bu'n gwasanaethu ym Môn ac Arfon a bu farw yn Rhuthun. Llysenwyd ef gan ei gyd-efrydwyr yn 'Rabbi Cymraeg' oherwydd ei ysgolheictod honedig ond amheuir ei allu erbyn heddiw.

***

NI WN pa bryd y dechreuwyd cynnwys yr Apocryffa mewn Beiblau Cymraeg ond y mae wedi'i gynnwys yn un 1690. Cynhwysir ynddo hefyd luniau o angylion rhwng yr Hen Destament a'r Apocryffa a rhwng yr Apocryffa a'r Testament Newydd. Mae'r hen gyfrol yn mesur naw modfedd ar draws wrth bymtheg o hyd a thair o ddyfnder ac y mae'n drom iawn i'w chario. Dylid cofio wrth gwrs mai ar gyfer eglwysi y cynhyrchwyd yr argraffiad cynnar hwn.

Wrth graffu ar Feibl Thomas Rowland y Crynwr o Gwm Main yng nghefn gwlad Meirionnydd byddaf yn ceisio dirnad ei hanes o ddydd ei eni draw yn Rhydychen yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg hyd y diwrnod hwnnw drigain namyn un o flynyddoedd yn ôl pan gafodd Robert Eifion Jones afael arno yn y llwch yn hen lofft Tan-y-coed.