YR INC YN LLANNERCH-Y-MEDD ~ gan Dafydd Wyn Wiliam
NI
BU argraffu yn Llannerch-y-medd am ugain mlynedd wedi ymadawiad Enoch Jones
(1776-1862) yn 1831. Yna tua 1852 fe ailgychwynnwyd traddodiad argraffu'r
dreflan gan gymeriad diddorol, Wiliam Aubrey (1815-87).
Yn
1882, bum mlynedd cyn iddo farw, fe gyhoeddwyd Hanes William Aubrey A'i Oes, Yn
Nghyda Rhai O'i Bregethau ... Hunangofiant ydyw. Ar ddechrau'r gyfrol fe edrydd
yr ysgrifennydd ei fwriad: 'Nid wyf yn meddwl ysgrifenu ond yn unig
amgylchiadau y gallai eu gwybod, o dan fendith Duw, fod yn foddion lles i
ereill.'
Nid
rhyfedd felly fod dyddiadau yn brin yn yr hunangofiant. Fodd bynnag, trwy
gyfuno'r ychydig ffeithiau pendant a geir yn y gyfrol a manylion a nithiwyd o
ffynonellau eraill fe ellir llunio braslun o'i yrfa.
Bedyddiwyd
Wiliam fab Wiliam Aubrey (crydd) ac Elisabeth yng Nghapel y Methodistiaid
Calfinaidd yn Llannerch-y-medd ar 15 Chwefror 1815 gan y Parchedig John Elias.
Bu farw ei dad tua 1828 gan adael pump o blant.
Mynychodd
Wiliam yr ysgol leol a Chapel y Methodistiaid lle'r oedd ei fam yn aelod selog.
Fel cynifer o'i gyfoedion fe ymroes Wiliam ifanc i ddysgu crefft crydd a phan
oedd tua phymtheg oed fe ddechreuodd ar ei fynych grwydriadau.
Aeth
i Borthaethwy i weithio ei grefft. Oddi yno aeth i Ddinbych, Porthaethwy,
Pentraeth, Aber, Amwythig, Treffynnon, Rhyl, Llannerch-y-medd (am flwyddyn),
Biwmares, America (1840), Betws (Abergele am tua 8 mlynedd) cyn dychwelyd i fro
ei febyd.
***
YMDDIEITHRIODD
Wiliam Aubrey oddi wrth y capel pan oedd tua thair ar ddeg oed ond ni bu'n hir
cyn dychwelyd at grefydd. Ymunodd gyda'r Wesleaid ym Mhentraeth a dechreuodd
bregethu gyda'r enwad hwn.
Pan
oedd yn Betws (Abergele) fe briododd wraig a oedd yn ddigon hen i fod yn fam
iddo. Wedi iddo ymsefydlu'n derfynol yn Llannerch-y-medd fe gladdodd ei wraig a
chyn bo hir fe gymerth wraig weddw, Margaret Griffith (1819-89) yn gymar. Bu
hi'n briod â Richard Griffith (1811-55), ysgolfeistr Llannerch-y-medd.
Un
o ffeithiau tristaf hunangofiant Wiliam Aubrey yw'r cofnod am y profiad a
gafodd ei ail wraig o gladdu ei phriod a deg o blant. Ganed un plentyn, Wiliam,
i Wiliam Aubrey a'i ail wraig.
Y
mae'n debygol fod a wnelo marwolaeth gwraig gyntaf Wiliam Aubrey â’i anturiaeth
i fyd argraffu. Ni wyddys yn hollol beth yw ystyr y frawddeg isod a geir yn ei
hunangofiant t.
111:
Wedi
dyfod i Lanerchymedd, yr alwedigaeth a gymerais oedd Printer
Cofir
fel y bu Wiliam Aubrey yn gweithio ym Miwmares tua 1838/9. Tybed a fu mewn
cyswllt â gwasg Enoch Jones yn ystod y tymor hwnnw?
***
CYFEIRIAI
at ei wasg fel `Anglesey Printing Office' a byddai yn rhwymo llyfrau. Ni welais
ragor na saith o'i gyhoeddiadau, sef dau lyfr addysgol, tri llyfr crefyddol, un
cylchgrawn byrhoedlog ac un llyfryn amrywiol, Llyfr Ffynon Elian.
Yn
fuan cyn iddo farw fe drosglwyddodd John Evans sypyn o bapurau ynglŷn â'r
ffynnon i Wiliam Aubrey. Dechreuodd Aubrey eu cyhoeddi yn Y Nofelydd eithr
penderfynodd gyhoeddi'r rhan fwyaf ohonynt yn llyfryn, llyfryn difyr sy'n
adrodd am yr ofergoeliaeth a gysylltid ag un o ffynhonnau enwocaf Gogledd
Cymru.
Ar
derfyn Y Mynegydd (1853) fe hysbysa Wiliam Aubrey ei fwriad i gyhoeddi llyfr ar
gyfer amaethwyr Môn ac apelir am dderbynwyr. Daeth rhan gyntaf y gwaith o'r
wasg yn 1867 ond ni chaed y gyfrol gyfan hyd 1870. Erbyn hynny yr oedd Wiliam
Aubrey wedi gwerthu ei wasg.
Bwriadodd
i'w fab Wiliam ei ddilyn yn y busnes eithr drylliwyd ei obeithion pan fu farw
hwnnw yn bump oed a'i gladdu yn Llannerch-y-medd 4 Tachwedd 1863. Yn fuan wedi
hynny fe werthodd Wiliam Aubrey ei wasg i Lewis Jones (1841-77) a fuasai yn
brentis iddo.
Rhestr o'r llyfrau/llyfrynnau a argraffwyd gan Wiliam Aubrey:
1.
Y Mynegydd, a'r Cyfrifydd Parod, Yn Cynnwys Niferoedd o Daflenni A Thablau
Buddiol I Farchnadwyr, Ac Eraill, Mewn Yd, Moch, Coed &c. By Roger Mostyn.
(Llanerchymedd: Printed By William Aubrey, Bookbinder And Stationer. 1853)
tt.1-211. Pris – 3s 6ch mewn lliain.