Y LLYFRAU CEINIOG gan Ifor Bowen Griffith

HEDDIW rhaid cael dros drigain punt i brynu sofren felen. 'Rwy'n ei chofio yn un bunt; ffaith ariannol a hanesyddol nad oedd yn golygu dim oll i blentyn yn ardal y chwareli oblegid ar y geiniog nid ar y bunt yr oedd plant Tregarth yn byw.

Nid ei bunt brin ond ei geiniog brin a roes y chwarelwr i godi coleg. Ac os cywir y cyfieithiad am gyflog y gweithwyr yn y winllan hanes y geiniog yw hanes gweithwyr yr holl ganrifoedd.

Y geiniog oedd y safon. Am geiniog yr anelodd Rowland Hill yn bris anfon llythyr yn 1840. Y Geiniogwerth oedd misolyn y Calfiniaid o 1847 i 1851.

Yr oedd yr un peth yn wir yn Lloegr lle ceid y Penny Dreadful a'r Penny for the Guy. Penny liners oedd y gwŷr a lenwai golofnau'r papurau a cheiniog oedd y tâl am fynd i le chwech.

Drwy gydol fy mhlentyndod ceiniog oedd owns o bethau da, grôt y chwarter; ceiniog chwyslyd a roddai plentyn yn y casgliad a cheiniog oedd pris mynediad i'r pictiwrs yng ngweithdy Hendri (chlywais i neb yn dweud Henry) Pritchard y peintiwr a'r postmon.

Ac ymysg y llu enwau Saesneg a ddefnyddiem yn ddiarwybod fel enwau Cymraeg - pethau fel y sgolarship, ecsam, cên, ffocs-an-howns a internashional yr oedd y peni ridin.

Y mae gan G.K. Chesterton yn ei hunangofiant gyfeiriad diddorol at y penny readings, y cyfarfodydd hynny lle talai y werin geiniog am fynediad a'r lle y darllenid, rhwng caneuon, dalpiau o lenyddiaeth foesol i ddysgu gonestrwydd, bodlonrwydd, cwrteisi a sobrwydd i'r gweithiwr.

Ystyr gwbl wahanol oedd i'r peni ridin y bum i ynddo ac yn wir fe ddiflannodd yn ystod fy mhlentyndod. Cyfarfod a ddigwyddai unwaith y mis yn y Band of Ôp ydoedd. Ni chodwyd tâl mynediad ond fe dalwyd dimai neu geiniog i'r cantorion a'r unawdwyr, ac i'r sawl a atebai ambell gwestiwn ysgrythurol.

***

AC YN awr y cyfaddefiad. Rhagair i guddio anwybodaeth fu'r holl fwydro hyn am y geiniog oherwydd am Lyfrau Ceiniog Humphreys Caernarfon yr oeddwn i ysgrifennu.

Y maent ar fy silff yn bedair cyfrol drwchus ddestlus. Dau gant namyn wyth o lyfrau ceiniog am bob pwnc dan haul. Cofiaf weld amryw ohonynt ar yr aelwyd. Cofiaf yr un am Garibaldi oherwydd yr enw lliwgar od a'r fisgeden boblogaidd lawn cyrens a chofiaf y darluniau dychrynllyd yn hanes Chwilys y Pabyddion.

Yn ei Atgofion am Gaernarfon dyfynna yr Athro Hudson Williams o Hanes yr Ysgol Sir ym Mrynrefail gan H. Parry-Jones: "Dyma y llyfrau mwyaf cyfareddol a ddaeth i ddwylaw bechgyn erioed – llyfrau ceiniog Humphreys Caernarfon. Dyma agoriadau i wlad hud a lledrith."

Ond i bwrpas Y Casglwr ysgrif ddi-fudd a di-werth yw hon gan na wn eto pwy a ysgrifennodd y llyfrau ceiniog nac ychwaith o ble daeth y defnyddiau. Ai nifer o wŷr `ceiniog y dudalen' fu wrth y gwaith? Ai o lyfrau tebyg yn Saesneg y daeth yr hanes?

Yr oedd gan Chambers Encyclopaedia ceiniog y rhifyn yn cael ei gyhoeddi oddeutu'r un adeg. Ond yn odiaf oll fe welwch yn y Bywgraffiadur i E. Morgan Humphreys gael peth o hanes Hugh Humphreys yn y Traethodydd 1901, ac yn Y Genhinen Gŵyl Dewi 1913.

Bu farw Hugh Humphreys yn 1896. Yr oedd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid a dywaid y Dr Hugh Jones amdano yn Hanes Wesleaeth Gymreig: "Pe wedi parhau i ddarllen ac efrydu buasai ymhlith pregethwyr disgleiriaf ei wlad."

Brawddeg od, ond yn odiach fyth ni chafodd Morgan Humphreys na minnau ei hanes mewn Eurgrawn na Gwyliedydd yn 1896. Cyfaddefaf mai chwilio blêr a sydyn fu f'un i.

Y mae Hugh Humphreys, cyn faer Caernarfon, a chyhoeddwr cannoedd o lyfrau Cymraeg yn dal i ddisgwyl am gofiant teilwng a minnau yn dal i holi am hanes y Llyfrau Ceiniog.