TYBED A OES GENNYCH FFORTIWN AR Y SILFF BEN TÂN
Tipyn o hanes gan J.Aelwyn Roberts

MI SYNNECH cyn gymaint o bobol sy yna, yn enwedig hen bobol, yn cwyno eu bod yn rhy dlawd i brynu bwyd na glo yn y gaeaf, ac eto heb sylweddoli y gallasai fod gwerth cannoedd o bunnau o lestri a theganau yn swatio ar eu silffoedd pen tân ac ar eu dreseli.

Y drwg yw fod y tincars heddiw wedi dod i'r byd hen bethau, ac, mae gen i ofn yn twyllo llawer o hen bobol. Rhoi punt am damaid o tsieni y gwyddant yn iawn sy'n werth ugain.

Hoffech chi wybod gwerth yr hen ddarnau yma? Yn fras maent yn perthyn i dri dosbarth -Teganau Dresden, Teganau Chelsea, a Theganau Swydd Stafford.

Teganau Dresden yn berffaith - pob bys yn ei le a'r botymau ar gôt mor gywrain fel y gallwch chi bron iawn weld yr edau yn y gwnïad. Teganau'r plas yw'r rhain, a'u pris yn codi o'r cannoedd i'r miloedd.

Teganau Chelsea – ddim mor gywrain efallai â Llestri Dresden ond eto yn hynod fanwl ac wedi eu lliwio yn gelfydd. Dyma i chi lestri'r dosbarth canol yn yr hen amser. Mi fuasai dau o'r rhain yn prynu Hoover Automatic newydd.

Ond Teganau Swydd Stafford yw'r rhai a welwn ni amlaf yn ein cartrefi. Iâr fach ar ei nyth; castell; bwthyn; buwch yn cael ei godro; neu ffigur o John Wesla neu Gladstone – toreth ohonynt wedi dod i lawr ar hyd yr oesoedd. A yw'r rhain yn werthfawr meddech chi?

Wel ydynt. Byddwch yn hynod ofalus ohonyn nhw. Mae yma ddegau o'r rhain yn cael eu torri neu eu cracio bob Spring Cleaning a phob tro mae un yn malu mae'r lleill yn dod yn fwy gwerthfawr.

Yn rhyfedd ddigon y rhai di-liw neu y rhai a dim ond ychydig o liw arnynt, yw'r rhai sydd â mwyaf o alw amdanynt am eu bod yn hŷn o dipyn na'r rhai â lliwiau llachar arnynt. Os oes gennych jwg gwyn neu degan gwyn edrychwch arno yn ofalus:

Ydi o'n wyn fel lliw hufen (off white)?

Oes 'na rhyw dyllau bach ynddo fel y cewch chi ar groen oren?

Ydi o'n ysgafn wrth i chi ei godi?

Os ydi o'r tri pheth yma, mae'n debyg iawn ei fod yn hen ddernyn sy'n mynd yn ôl dros dri chan mlynedd - yr hyn a elwir yn Salt Glaze China.

Ond hyd yn oed ym myd yr hen bethau 'dyw ei fod yn hen ddim yn golygu bob amser ei fod yn werth arian mawr.

***

MI WN i am wraig yr oedd ganddi gerflun tegan o Dick Turpin ar gefn Black Bess. Fe gynigiodd y dyn hel hen bethau hanner can punt iddi amdano. Dim haglo o gwbl - hanner can punt yn arian parod ar y bwrdd. 'Roedd gan y wraig drws nesa Dic Turpin hefyd a phan glywodd hi am fargen y drws nesa dyma hithau'n gwadd y dyn i'w weld.

"Deg punt" medde ynte heb flew ar ei dafod.

"Ond mi roethoch chi hanner can punt i Mary Lizzie drws nesa am un run fath â fo" medde hithe.

Roedd hi'n stori rhy hir i'r dyn geisio esbonio iddi ond 'doedd o ddim yn ceisio ei thwyllo.

Dyma'r esboniad i chi. Mewn bythynnod bach nid mewn ffatrïoedd mawr yr oedd y teganau yma yn cael eu gwneud. Yn byw yn y bwthyn ac yn fistar ar ei waith mi fyddai yna un hen grefftwr - dyn fel Thomas Toft. 'Roedd ganddo efallai ddau grefftwr profiadol yn gweithio iddo, ac efallai bedwar o brentisiaid bach rhwng deg a phedair ar ddeg oed. Mi fuasai Dic Turpin Thomas Toft yn werth ei weld - yr olwg feiddgar ar wyneb Dic a phob gewyn a chymal Black Bess fel pe'n ysu am garlam. Mi fuasai Dic Turpin y ddau grefftwr hefyd yn werth eu gweld - ond druan o ymdrechion y prentisiaid bach. Lwmp o glai yn drwyn i Dic, a dau dwll yn llygad, a Black Bess yn edrych fel hen fuwch hesb.

Canys mae rhagor rhwng Dic Turpin a Dic Turpin mewn gogoniant. Dic Turpin un o'r prentisiaid bach oedd gan y wraig dress nesa ond Dic Turpin Thomas Toft ei hun neu un o'i grefftwyr oedd gan Mary Lizzie a gafodd ei werthu am hanner can punt.

***

'DYW HI ddim yn rhaid i damaid o degan fod yn hynod o hen iddo ddod yn werthfawr. Mi rydw i yn cofio gweld castell bach a'r enw Norwich Castle dano mewn tŷ ym Mangor. 'Roedd hwn yn un o set o bump - a dyma'r pump ichi - Norwich Castle; Potash Farm; Stanfield Hall; James Rush ac Emily Sandford. Mae 'na stori tu ôl i'r rhain ac fe ŵyr pob casglwr fod stori dda yn gwneud pob casgliad yn fwy diddorol ac yn werth ei gasglu.

Rhyw gan mlynedd a hanner yn ôl roedd yna ddau gariad, James Rush ac Emily Sandford.

Ffermwr oedd James Rush yn byw mewn ffermdy bach o'r enw Potash Farm. 'Roedd y sgweiar a'r perchen tir yn byw yn Stanfield Hall. Doedd yna ddim llawer o gariad rhwng James a'r sgweiar – un yn bygwth troi y llall allan o'i fferm a James, yn enwedig yn ei ddiod, yn bwrw pob math o felltithion ar y sgweiar. 'Roedd llawer wedi ei glywed yn bygwth y byddai iddo rhyw ddydd dagu y bolgi tew.

Ddigwyddodd dim i'r sgweiar ond fe ddigwyddodd pethau rhyfedd iawn i nifer o deulu a ffrindiau y sgweiar a ddaeth i ymweld ag o. Fe ddiflannodd nifer o'r rhain a wyddai neb beth yn y byd oedd wedi digwydd iddynt. Pobol yn cael eu gweld ar eu taith i'r Hall neu ar eu taith adre ac yna yn diflannu heb friwsionyn o wybodaeth beth oedd wedi digwydd iddynt.

Am flynyddoedd cafodd y papurau newydd wledd yn gwyntyllu 'The Mystery of Stanfield Hall'. Pobol yn ysgrifennu i gynnig eglurhad o'r hyn oedd yn digwydd neu gynghorion i'r heddlu. Rhoddodd y ganrif ddiwetha fwy o sylw i ddigwyddiadau Stanfield Hall nag a roisom ni i'r Yorkshire Ripper.

Yna un diwrnod stori tudalen flaen pob papur STANFIELD HALL CONFESSION ac yn dilyn hanes Emily Sandford, cariad James Rush, yn mynd i Orsaf yr Heddlu a haeru i James gyfaddef wrthi mai y fo oedd wedi lladd yr ymwelwyr ac wedi claddu eu cyrff yn y ffos fawr oedd o amgylch yr Hall.

Cyn pen dyddiau 'roedd James yn y ddalfa ac yn disgwyl ei dreial yn Norwich. Mae'n debyg, o'r funud yr aeth Emily i achwyn ar James fod meistri pob gwaith tsieni yn y wlad wedi mynd ati i wneud llestri coffa yn ymwneud a'r llofruddiaeth.. 'Roedd cymaint o alw amdanynt' nes eu bod yn dod allan yn setiau, Stanfield Hall, Potash Farm, James Rush, Emily Sandford ac wrth gwrs Norwich Castle – lle crogwyd James yn y diwedd.

***

PAN gaed James yn euog a'i ddedfrydu i gael ei grogi ar y dydd a'r dydd 'roedd yna gannoedd yn gwneud trefniadau i fynd i Norwich ar ddydd y crogi. Dynion y ffeiriau o bob rhan o'r, wlad yn prysur logi safle ar y sgwâr i gael gwerthu eu nwyddau a'r rhan fwyaf yn awyddus i gael stondin mor agos i'r crocbren ag yn bosibl. Ac mae'n debyg fod yna filoedd ar filoedd o lestri coffa Y Darnau Rush, fel y daethpwyd i'w galw, ar werth y diwrnod yma. Mi fuasai pawb am brynu o leia un o'r darnau yma, a llawer o'r rhai mwyaf cyfoethog yn talu swllt a chwech (7½c) neu fwy am y set o bump.