'ORNAMENTS YR HEN YNYS ~ gan Helen Ramage
Chwi gewch dorri'r llestri gleision
....meddai Elin Morys yn Lleisiau'r Fynwent
W.J. Gruffydd. At blatiau pren helyg y cyfeirir, mae'n debyg; hwy fu'r mwyaf
poblogaidd, a hwyrach mae'r stori ramantus ar y plât a ddenodd y crochenydd a'r
cyhoedd.
Ond piwtar sydd yn gweddu orau ar ddresel
Gymreig, oherwydd llestri piwtar a ddefnyddid ar y bwrdd bwyd yn y cyfnod pan
dyfodd y dresel i'w llawn dwf; hynny yw, pan roddwyd silffoedd arni yn
nechrau'r ddeunawfed ganrif - cyn hynny bwrdd hir gyda thair neu bedair drôr
ydoedd.
I
leoli'r dreselydd, yn fras - i Ogledd Cymru y perthyn rhai â chypyrddau yn y
gwaelod, tra bod lle gwag yn y gwaelod i rai De Cymru a'r Canolbarth - a
hwnnw'n lle hwylus i arddangos tecell neu badell bres.
Barn
un arbenigwr yw mai ym Maldwyn y gwnaethpwyd y rhai mwyaf cywrain a chain eu
cynllun. Derw oedd y coedyn a ddefnyddid fwyaf yng Nghymru, a phîn yn ail, a cheir
hefyd ambell un o onnen a llwyfen.
Fe
hoffwn i gael llond dresel o blatiau piwtar, ond maent yn gostfawr erbyn hyn;
fe hoffwn yn fwy byth gael rhai a welais ar ddresel mewn parlwr ym Môn, ie mewn
lle o anrhydedd yn y tŷ mae'r dresel heddiw; symudodd o'i hen gynefin, y gegin,
a gellid dweud amdani:
Dy fonedd aeth i fyny
***
Y PLATIAU piwtar a welais oedd rhai
William Prichard, Clwchdernog, y gwron o Eifionydd a oedd yn arloeswr
Ymneilltuaeth ym Môn. Cefais wëir wrth eu gweld, a thorrais y Degfed Gorchymyn.
Y
llestri dresel mwyaf anghyffredin a welais erioed oedd pob math o anifeiliaid –
ogof Aladdin ohonynt ar ddresel ym Môn. Arni, yn lle'r cŵn arferol, 'roedd gan
wraig y tŷ hwnnw ddwy gath fawr - nid cathod rhesog o'r ddeunawfed ganrif na'r
cathod bach gwyn neu ddu yn eistedd yn ddel ar glustogau. (rhai Rockingham
ydynt yn aml) ond dwy gath werdd o oes Fictoria, bron droedfedd o uchder - y rhai
harddaf a welais erioed.
Ar
y dresel honno, 'roedd yno hefyd filgi du, a myharen, llew a chwningen, cŵn pwg
du a melyn, a holl drigolion y buarth, sef ceffyl a gwartheg, gafr a mochyn,
hwyaden, iâr â'i chywion ar ei chefn a iâr gini fawr ar ei nyth.
Daeth
cryn dipyn ohonynt oddi ar ddreselydd bythynnod y fro, oherwydd pan fethai
rhywun tlawd dalu bil i'w gŵr, neu pan fynnent ddiolch iddo, gofynnai'r wraig
honno am 'ornament' oddi ar y dresel yn dâl.
Pan fu hi farw, aeth ei chasgliad o Gymru,
ac erbyn heddiw mae ar chwâl.
***
'ROEDD
ganddi amryw o `fuchod llaeth' (cow creamers); fel jygiau llefrith y bwriadwyd
hwy ar y dechrau, a'r dro ar y gynffon yn gwneuthur clust hwylus, ond digon o
waith iddynt gael eu defnyddio lawer ar y bwrdd te; ar y dresel mae eu lle.
Mae
rhai ohonynt yn dlws iawn, fel y rhai gyda smotiau o lystr pinc; cysylltir
lystr pinc yn fwyaf arbennig gyda Sunderland ger Durham ond cofier hefyd y bu
cynhyrchu lystr pinc yng Nghrochenwaith Cambrian yn Abertawe am dros gan
mlynedd.
Llun
pafiliwn Caernarfon (a godwyd ar gyfer Eisteddfod 1877) sydd ar y jwg pinc ond
yn Eisteddfod 1886 y gwerthid hwn; o dan y llun ceir y geiriau
'Carnarvon
National Eisteddfod 1886'. A oes llestri ar gael i goffhau Eisteddfodau
Cenedlaethol mewn mannau eraill?
Yn
ôl y marc oddi tano, yn yr Almaen y gwnaethpwyd ef, ac o'r wlad honno ac
Awstria a Bohemia, y deuai dwy ran o dair o'r llestri a werthid fel 'A present from . . .' neu a rhyw ddarlun lleol
arnynt.
Hoffaf weld dresel â chymysgedd hyfryd
arni; o flaen y platiau pren helyg neu'r platiau ffesant Asiatig, gweld jygiau
lystr, a llestri a chanwyllbrenni gwydr o bob lliw, gwydrau yfed a'r dicanter -
a arhosodd ar y dresel ar waethaf y Mudiad Dirwestol, - fel y gwn o hanes fy
nheulu fy hun.
***
RAI
blynyddoedd yn ôl prynais mewn arwerthiant – ac arwerthiant yw fy Mingo i –
lestri te ag arnynt 'A Present from Bethel Rock'. Anfonid y garreg wen sydd yn
y darlun i rywle yn Swydd Stafford mae'n debyg.
Cofiai nain Mr Tomos Roberts, Trefdraeth,
weld y cerrig sgwâr gwyn yn cael eu cario i orsaf Bodorgan, a deuai'r llestri
porslen tenau hyfryd i Fethel i'w gwerthu yn siop lestri Mrs Prichard.