MANION ~ Brynley F.Roberts

CAFWYD llawer argraffiad o lyfrynnau John Owen o epig­ramau. Gweler llith Syr Thomas Parry yn Y Casglwr diwethaf. Ni wn pryd y cyhoeddwyd y casgliad cyflawn cyntaf ond ar wyneb-ddalen fy nghopi dywedir Edito Nova: cyhoeddwyd ef yn Leyden yn 1647. Plat-llyfr Joseph Phil­limore D.C.L. sydd ar y copi (1775-1855), athro'r gyfraith yn Rhydychen ac aelod seneddol; arno gw. DNB).

Prynais y llyfr yn hen siop Gal­loway yn Aberystwyth am swllt, ac, mae'n debyg gennyf mai o lyfrgell ei ŵyr Egerton Philli­more, y gŵr tra dysgedig hwnnw a breswyliai yng Nghorris, y daeth. Ceir cofnod amdano ef yn Y Bywgraffiadur a llith arno yn Y Faner, 1 Ionor 1941, ond mae'n haeddu sylw helaethach.

***

UN o'r llyfrau mwyaf difyr a gyhoeddwyd yn 1982 yw Y Llew a'i deulu gan Tegwyn Jones. Ynddo olrheinir hanes teulu Lewis Morris a'i ddisgynyddion mewn ffordd hynod ddiddorol, ond bonws imi yw ei fod wedi datrys problem perchnogaeth llyfr sydd gennyf.

Cyhoeddwyd Life of Merlin Sirnamed Ambrosias Thomas Heywood yn Llundain yn 1641. Ar ddalen-flaen fy nghopi ceir Rhis: Morys ai piau Llundain 1752 ac yna nodyn wedi'i arwyddo L. M. 1756.

Y mae'n ddigon amlwg pwy yw'r rhain, ond yma a thraw yn y llyfr ceir enwau eraill y bu llyfr Tegwyn Jones yn fodd i'w had­nabod. Rev. J.W. Morris 1828, James William Morris 1820, sef mab William, un o feibion Lewis Morris. Ganwyd ef yn 1800 a bu'n brifathro Ysgol Ystrad Meurig o 1826 hyd 1859.

Enw arall yw M.A. Morris 1821, sef Mary Ann Morris, merch (a anwyd 1791) i William, ac felly'n chwaer J.W. Morris. Chwaer arall oedd Lucy (ganwyd 1788), a dichon mai hi yw'r Lucy Williams a dorrodd ei henw ar y llyfr yn 1824.

Tebyg mai'i gŵr hi oedd y Revd. Mr. Williams Beaumaris (?) a roes ei enw ar y llyfr yn 1818. Ni wn ddim o hynt y llyfr ar ôl 1828.

Ym meddiant disgynyddion uniongyrchol Lewis Morris y bu'r llyfr, mae'n amlwg, ond a barnu wrth y dyddiadau, eiddo Rhisiart Morris ydoedd. Mae'n ddiddorol sylwi, felly, i Risiart ddod o Lundain i Benbryn flwyddyn ar ôl marw Lewis a mynd "a’r rhan helaethaf o lawysgrifau Lewis, a rhai llyfrau yn ôl i Lundain i'w ganlyn" (tud. 81 a'r nodyn tud. 136-7).

Nid dwyn llyfrau'i frawd a wnaeth efallai, ond ceisio achub peth o'i eiddo'i hun. Dyma un llyfr o leiaf na lwyddodd i'w ail-­feddiannu.