LLYSIEUWR YNYS MÔN ~ Ymchwil Raymond B.Davies

FEL y dywedodd Goronwy Owen, bu gan Ynys Môn lawer o wŷr mawr, ac un ohonynt a wnaeth waith arbenigol iawn oedd y Parchedig Hugh Davies (1739-1821), awdur Welsh Botanology. Wrth droi i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni, priodol yw cofio am y gŵr hwn y golygai prydferthwch natur Ynys Môn cyn gymaint iddo.

Brodor o Fôn oedd Hugh Davies - yn fab i Lewis Davies, Ficer Llandyfrydog a bu ef ei hun yn offeiriad ar yr ynys o 1763 i 1787, cyn mynd yn rheithor Aber, Sir Gaernarfon. Bu farw ym Miwmares.

Er mai offeiriad ydoedd, yn ddiamau byd natur a ddenai ei fryd bron o gychwyn ei yrfa. Erbyn 1773, anfonai gyrff pysgod o'r môr o gwmpas Môn i'r sŵolegydd mawr hwnnw o Gymro, Thomas Pennant i'w hastudio. Mae llawer o lythyrau Hugh Davies ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a llyfrgelloedd eraill.

Llysieueg a'i iechyd personol yw prif bynciau'r llythyrau, a hawdd yw ei ddychmygu'n astudio a rhestru planhigion gan anwybyddu digwyddiadau cyffrous ei ddydd megis Rhyfel Annibyniaeth America a Rhyfeloedd Napoleon.

Cyfrannodd i lyfrau naturiaethwyr eraill ac i gylchgronau ond fel llysieuwr, heb os nac oni bai, y gwelwyd prif ffrwyth ei lafur a'i ysgolheictod gyda chyhoeddi Welsh Botanology.

  Y 'silhouette' o Hugh Davies sydd wedi ei lynu ar un o reg-dudalennau copi Welsh Botanology y diweddar Mr Drank Grundy, Llangefni. Cyhoeddwyd y llun hwn gyntaf yn Y Casglwr (Rhif 4, Mawrth 1978). Erbyn hyn, mae'n weddol sicr mai hwn yw'r unig lun sydd ar gael o'r llysieuwr enwog. Gobeithio y caiff ei ddiogelu maes o law naill ai yng nghasgliad y Llyfrgell neu'r Amgueddfa Genedlaethol. 

***

ARGRAFFWYD Welsh Botanology yn Llundain yn 1813 gan W. Marchant ar ran yr awdur. Argraffwyd mil o gopïau yn unig a'u dosbarthu mewn byrddau. Erbyn heddiw fe hysbysebwyd copïau yn Y Casglwr am drigain punt a mwy. Mae'n debyg mai ei phrinder sy'n bennaf gyfrifol am ei phris ond hefyd mae'n gyfrol allweddol yn hanes llysieuaeth yng Nghymru.

Yn y llyfr hwn, Hugh Davies oedd y cyntaf i ddwyn at ei gilydd enwau gwyddonol planhigion gyda'u cyfystyron Cymraeg. 'Roedd hyn ei hun yn dasg bwysig oherwydd yr oedd y system o enwau gwyddonol a ddaeth i rym yn nydd Carl Linnaeus      (1707-78) yn ffordd gydwladol o enwi planhigion ac yn sicrhau adnabyddiaeth gywirach o wahanol rywogaethau.

Fflora o'r sir yw rhan gyntaf Welsh Botanology, sef A systematic catalogue of the native plants of Anglesey a dyma'r fflora gyntaf i'w chyhoeddi am unrhyw un o siroedd Cymru.

Llysieuaeth Gymreig, yr ail ran; sef enwau blagur o bob rhyw, y rhai a amlygir trwy eu cyfieithu i'r Lladin a'r Seisoneg yw is-deitl yr ail ran ac mae'n bwysig iawn o safbwynt yr iaith Gymraeg oherwydd ystyrir y rhestr hon, hyd yn oed heddiw, fel y rhestr gyflawnaf o enwau Cymraeg ar blanhigion.

***

CYMERODD Davies y mwyafrif o'r enwau Cymraeg a geir yn Welsh Botanology o ffynonellau llawysgrif a phrintiedig ac yn y ddau ragair (Cymraeg a Saesneg) mae'n cydnabod y ffynonellau a ddefnyddiodd.

Y prif rai oedd y Botanologium yn Dictionarium Duplex John Davies, Mallwyd (1632), Archaeologic Britannica Edward Lhuyd (1707), llawysgrifau yn cynnwys gwaith Meddygon Myddfai, a llawysgrif William Morris (1705-63), sef 'A collection of plants gathered in Anglesey'. Un o deulu enwog Morrisiaid Môn oedd William ac yr oedd ef hefyd yn llysieuwr disglair.