HON YW FY NGHYFROL I ~ E.D.Jones a'r Ex Libris
Llyfrgell Syr Owen M. Edwards yn y Neuadd-wen, Llanuwchllyn
Cynllun J. Kelt Edwards, 1920.
MAE'N
rhyfedd na fyddai'r Ex Libris wedi cael sylw cyn hyn yn Y Casglwr. Yn rhan
gyntaf y ganrif hon, yr oedd nifer o Gymry yn casglu'r labeli a osodir ar
gloriau mewnol llyfrau i ddynodi perchnogaeth.
Y mae nifer o'r casgliadau hyn yn y
Llyfrgell Genedlaethol; y rhai mwyaf cynhwysfawr yw'r rhai a adawodd Syr Evan
Davies Jones, Abergwaun, Arthur Schomberg a Herbert M. Vaugan, Aneurin
Williams, W.J. Hemp ac R.D. Roberts, rhai ohonynt yn arbenigo ar eitemau
Cymreig.
Yr
oedd yr arfer o'u casglu mor boblogaidd yn Lloegr ar ddiwedd y bedwaredd ganrif
ar bymtheg fel y sefydlwyd cymdeithas - yr
'Ex
Libris Society' - a fu'n gyfrifol am gyhoeddi cylchgrawn diddorol iawn o dan y
teitl Ex Libris o'i sefydliad yn 1891 hyd ei dirwyn i ben yn 1908.
Rhyw
ddeuddeng mlynedd yr ôl, ffurfiwyd y 'Bookplates Society' sy'n arwydd o
adfywiad yn y diddordeb. Ymddengys nad yw eto wedi gafael yng Nghymru.
***
NID
yw'r geiriaduron cyffredin Saesneg-Cymraeg yn cydnabod bodolaeth y 'bookplate' chwaethach
cynnig gair hwylus Cymraeg am y papuryn bychan hwn i ddynodi perchnogaeth llyfrau.
Defnyddia'r Ffrancod y Lladin 'Ex Libris. . .' am y papuryn, o eiriau cyntaf y
disgrifiad. Y mae rhai Cymry wedi trosi hyn i 'Un o lyfrau...'
Yn
y Termau Llyfryddol a baratowyd gan Goleg Llyfrgellwyr Cymru dewiswyd 'label
perchnogaeth' fel enw, ond o'r braidd y mae'n dderbyniol, gan mai disgrifiad yn
hytrach nag enw ydyw.
Y mae'r ffurfiau cyfansawdd
'llyfrgell',
'llyfrbryf' a'r cyffelyb wedi hen ennill eu plwy, a gellid creu enw ar y patrwm
hwn. Fe ddefnyddiwyd y gair plâd yn y term 'arfau plâd' (plate armour) gan y
Cywyddwyr, a byddai 'llyfrblad' yn derm hwylus am bookplate.
Rheswm arall dros wrthod
'label' yw bod hwnnw'n enw ar is-ddosbarth
ymhlith llyfrbladau, - dosbarth sy'n cynnwys enw'r perchen wedi ei brintio'n
syml neu gydag addurn o'i gylch.
Mae'r
rhywogaeth hon yn disgyn yn uniongyrchol o'r arfer hyn a mwy cyffredin o
ysgrifennu enw'r perchen y tu mewn i’r clawr neu ar y ddalen wen gyntaf. Gynt,
byddid weithiau'n ychwanegu rhigwm o rybudd i fenthycwyr anghofus.
***
FFURF fwy datblygedig yw'r llyfrblad. Yn y
ffurfiau cynharaf arfbeisiau'r perchnogion yw'r elfennau amlycaf, a pharhânt
felly hyd heddiw. Yn y ddeunawfed ganrif y daeth yr arfer i boblogrwydd yng
Nghymru.
Gan
fod y teuluoedd cefnog, a allai fforddio casglu llyfrgelloedd helaeth, yn meddu
ar arfbeisiau arferedig neu gofrestredig yr oedd yn gwbl naturiol iddynt ddefnyddio'r
arfbais ar lyfr fel y gwnaent ar eu cerbydau neu eu llestri arian.
Amrywiai'r
nodau perchnogaeth o darian seml i rai'n cynnwys nifer o chwarteri i ddynodi
priodasau ag aeresau, gyda, neu heb, enwau'r perchnogion. Y ffurf symlaf oedd defnyddio
crib yr arfbais yn unig, gyda, neu heb, yr enw. Fel y newidiai ffasiynau
newidiai ffurf y darian a'r addurniadau cylchynnol a gellid dyddio'r llyfrbladau
wrth ffasiwn cyfnod.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg
dechreuwyd cynhyrchu labeli mwy cymhleth a mwy darluniadol i gystadlu mewn
diddordeb gyda'r llyfrbladau herodrol, a bu nifer o arlunwyr enwog yn treio'u
dwylo ar y gwaith.
Datblygiad
o hyn yw'r arfer diweddaraf o wneud llyfrbladau cyffredinol gyda lle i'r
perchen ychwanegu ei enw arnynt. Nid yw'r rhain mor ddiddorol â'r rhai cwbl
bersonol.
Dewisais
ychydig esiamplau o lyfrbladau Cymreig o wahanol gyfnodau i roi rhyw syniad am
amrywiaeth y ffurfiau.
Am restr gweddol gyflawn o lyfrbladau Cymreig gweler dau lyfr.
Herbert M. Vaughan. The Welsh Book-plates in the collection of Sir Evan Davies Jones, Llundain, 1920 a Catalogue (with notes) of the Aneurin Williams Collection of Book Plates, Y Llyfrgell Genedlaethol, 1938. Ar y pwnc yn gyffredinol, y llyfr hawddaf ei gael yw British Bookplates, & pictorial history, gan Brian North Lee. Davies & Charles, 1979.