HEN GYFAILL Y DELYN ~ gan Mari Lewis

 


Llyfnwy a'i briod

NID YN aml y clywir am rywun yn cyfansoddi barddoniaeth i'w roi ar ei garreg fedd ei hun. Gwnaeth Ceiriog ac Eos Mai hyn. Wele englyn a gyfansoddwyd gan Llyfni Huws, Penygroes. Cael hyd i'r englyn ar ôl iddo farw wnaeth ei briod. Y mae'r englyn ar garreg ei fedd.

    Carodd Dduw, do carodd ddyn, - carodd lên,
        
    Carodd lunio englyn;
     
    Carodd wau â'r tannau tyn
     
    Iaith ei dylwyth a'i delyn.

Un o gewri Cerdd Dant oedd Llyfni Huws ac un o arloeswyr ei chymdeithas. Gwerinwr, llenor, telynor a bardd.

Trefnodd Mrs Mallt Huws ei briod 'Gyfrol Goffa Llyfni Huws'. Cyflwynodd y gyfrol i’w ddwy ferch Llinos Llyfni a Heulwen Mai. Y mae'r gyfrol werthfawr hon ar y bwrdd o fy mlaen yn awr. Cyhoeddwyd y gyfrol Mawrth 1968. 0'r gyfrol y caf yr hanes canlynol.

Yr oeddwn yn adnabod Llyfni Huws a'i briod yn dda iawn. Fel y dywed T.E. Nicholas yn ei gyflwyniad i'r Gyfrol Goffa: "Aelwyd y gân mewn gwirionedd oedd aelwyd Llyfni gan fod y teulu i gyd yn enillwyr cenedlaethol ac wedi darlledu ar y diwifr ... Tra bydd sŵn y delyn rhwng mynyddoedd Cymru nid anghofir Llyfni."

Yn ystod ei fywyd cyhoeddwyd pump o'i lyfrau:

    1930 Aelwyd y Delyn Rhan 1, sef gwerslyfr Sol-ffa ar ganu gyda'r delyn.
    1934 Llyfr penillion Telyn, wedi ei argraffu ei hun.
    1944 Aelwyd y Delyn Rhan II mewn hen nodiant.
    1951 Aelwyd y Delyn Rhan III mewn hen nodiant.
    1952 Aelwyd y Delyn Rhan IV mewn hen nodiant.

***

GANWYD Llyfni yn Llys y Delyn, Penygroes, Arfon ar yr ail o Fehefin, 1889, yn fab i William a Jane Huws. Ef oedd yr ieuengaf o chwech o blant. Un o Nefyn oedd ei fam ac 'roedd Dic Aberdaron yn berthynas iddi. Hanai ei dad o Fethesda, ac ewythr iddo oedd Eos Mai, y bardd a'r datganwr penillion enwog. Chwarelwr oedd William Huws. Cafodd fenthyg llyfr i ddysgu'r cynganeddion gan Mr Urias Stephens, gweithiwr yng ngorsaf y Rheilffordd Penygroes.

Yn 1906 daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Gaernarfon a dyma ddechrau ei gystadlu ar ganu penillion. Bu'n llwyddiannus dan ddeunaw oed. Ar ôl y gystadleuaeth daeth 0. M. Edwards i'w holi a oedd telyn ganddo neu a fuasai yn hoffi cael mynd am hyfforddiant, a rhoddodd gyfeiriad Gwenynen Gwent, Llanofer, iddo. Cafodd wahoddiad i Lanofer i ddysgu'r Delyn Deires a chael gwaith yno.

PRIODWYD Llyfni â Mallt ar y 23ain o Fawrth 1923 yng Nghapel Pendref, Llanfyllin. Gwnaeth Llyfni delyn ei hun yn anrheg i'w briod. Bu'r ddau yn darlledu droeon ac yn canu ar yr un llwyfannau â Leila Megane; David Evans, Llundain; Mair Jones; Megan Thomas, Llundain ac enwogion eraill. Buont hefyd yn gwasanaethu mewn cyngerdd i David Lloyd George.

Cafodd waeledd hir and daliodd i ymddiddori mewn cyfansoddi englynion. Bu farw Ebrill 4, 1962 yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym Mynwent Macpela, Penygroes.

    Er cof am Llyfni Huws

    Wylo mae tannau'r delyn - ar ei ôl,
         Ac wyla'r holl ddyffryn;
      'Roedd mil a mwy yn dilyn
      Ei ddawn o mewn bro a bryn.

            Morris D. Jones, Llanrug