HELA'CH HYNAFIAID ~ yng nghwmni Dafydd Lloyd Hughes
Y MAE'N debyg fod ym mhob un ohonom fodau dynol angen dwfn iawn, boed hwnnw'n ymwybodol ai peidio, i sefydlu cysylltiad â rhywun arall, a'r cysylltiad amlycaf yw ein perthynas trwy waed, a thrwy hynny ein diddordeb mewn rhan neu rannau arbennig o'r wlad.
Bu'r Cymry erioed yn ymfalchïo yn eu tras a bu ambell un, onid y genedl gyfan, yn destun sbort y tu draw i Glawdd Offa am honni y gallai olrhain ei achau yn drwyadl hyd y seithfed neu'r nawfed ach, ac ymhellach na hynny. Wrth brysuro i watwar, anwybyddwyd gofal y bendefigaeth Seisnig fod achau eu teuluoedd yn ddiogel ar gof a chadw.
I Ogleddwr fel fi y llyfr achau mwyaf adnabyddus yw The Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families gan J.E. Griffiths (Llundain, 1914), sydd erbyn hyn yn brin iawn ac yn gostus. Os gall unigolyn sefydlu cysylltiad ag un neu ragor o'r miloedd o deuluoedd y croniclir eu hachau yn y llyfr hwnnw bydd yn hynod o ffortunus. Mae'n waith moniwmentaidd ond eto, fel pob dim arall o gynnyrch dynol, nid yw heb ei feiau: ond, beiau neu beidio, mae'n wyrth o lyfr.
***
FE FÛM i yn ffodus iawn i etifeddu Gardd Achau fy hil ar ochr mam fy mam, un a baratowyd yn llafurus dros gyfnod o flynyddoedd gan berthynas i'r teulu oedd yn rheolwr banc yn Bridlington, Swydd Efrog, cyn y rhyfel byd diwethaf. Yn ôl honno cychwynnai'r teulu, ar ochr fy nain famol, gyda Richard Hughes, Beudy Newydd, Llanystumdwy, a'i wraig, Eliza, merch Pencoed, Llanarmon, tua diwedd y ddeunawfed ganrif, ac yn nhreigl y blynyddoedd symudodd yr hil trwy blwyfi Llanarmon, Boduan, Llanfihangel Bachellaeth a Llannor i Bwllheli lle ganed fy mam a minnau. Erbyn hyn bwriwyd had newydd yng Nghaerfyrddin.
Dangosai'r Ardd fod gan Richard Hughes, Beudy Newydd, frodyr a chwiorydd lu, fel Thomas Hughes, Rhosgyll Bach; Betty Hughes, Tyddyn Mawr, Llanystumdwy; y Parchg. William Hughes, Dinas Mawddwy; a Jannet Hughes, nain y bardd Nicander; ond ni wyddid pwy oedd y rhieni.
Gwendid mawr y copi o'r Ardd ddaeth i'm dwylo i yw diffyg dyddiadau ond, yng nghwrs amser, llwyddais i sefydlu mai Hugh Rowland a Mary Owen, Rhosgyll Bach, Llanystumdwy, oedd y tad a'r fam. Ar wahân i mi lwyddo, trwy hyn, i olrhain yr achau yn ôl i ddechrau'r ddeunawfed ganrif daeth y wybodaeth â chysylltiadau teuluol newydd i'r golwg; dangosodd hefyd un o'r problemau sy'n wynebu'r casglwr achau Cymreig, sef y dull o gyfenwi a barodd i Richard, mab Hugh Rowlands, gael ei alw'n Richard Hughes, a'i ferch ef, Catherine, gael ei hadnabod fel Catherine Prichard.
***
BÛM hefyd yn olrhain achau tad fy mam a chyrraedd Salmon Thomas, Deucoch, Llanengan yn nechrau'r ddeunawfed ganrif; a'r cam nesaf fydd mynd ar ôl teulu fy nhad yng Nghapel Garmon, Cwmpenanner, Glasfryn a Cherrig-y-drudion. Gwefr arbennig yn y cyswllt hwn oedd dod ar draws lluniau fy nhaid a'm hen daid ar dudalen 37 o Atgofion Bob Huws y Gof (1880-1968) (Blas Bro, cyfrol 1).
Profiad cymysg sydd gennyf, felly; ar y naill law bu gennyf y fantais amlwg trwy lwyddo i etifeddu Gardd Achau pur gynhwysfawr ac, ar y llaw arall, nid oedd gennyf ddewis ond dechrau o'r newydd. Â'r profiad o ddechrau o'r newydd fydd, yn ddiamau, o ddiddordeb i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr sy'n meddwl yr hoffent hel achau.
Eithr cyn troi at y cyngor ymarferol hoffwn nodi bod yr ymadrodd 'Gardd Achau' (yn hytrach na 'Choeden Deuluol' - cyfieithiad o'r 'Family Tree' Seisnig) yn arferedig gan fy mam, ac y mae gennyf lythyr oddi wrth Bob Owen, Croesor, sy'n defnyddio'r un enw. Er i mi chwilio'n ddyfal methais ganfod yr ymadrodd yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.
Wel, dechrau o'r dechrau amdani felly, ac i wneud hynny'n effeithiol rhaid bod yn hollol glir pa wybodaeth a geisir trwy osod braslun o'r Ardd Achau ar ddwy ddalen o bapur sylweddol eu maint, y naill ar gyfer teulu'ch tad a'r llall ar gyfer teulu'ch mam.
***
AR ÔL paratoi fframwaith y ddwy ran o'r Ardd y mae'r gwir waith yn dechrau. Ceir ar y farchnad lyfrau amrywiaeth o gynghorion sut i fynd o gwmpas pethau ond yng nghwmpas ysgrif fel hon cyfyngir yr awgrymiadau i’r rhai mwyaf sylfaenol a hwylus i’r sawl sydd â'u gwreiddiau yng Nghymru. Gweithio yn ôl o genhedlaeth i genhedlaeth yw'r dull gorau, a'r prif ffynonellau, megis o gam i gam, yw:
- 1. Holi cyn gymaint ag y gellir o berthnasau (neu rywun arall sydd â gwybodaeth am
y teulu) er mwyn llenwi hynny fedrir o'r bylchau. Nac anghofier y Beibl teuluaidd
sy'n cynnwys cofnodion geni, priodi a marw.
2. Sicrhau tystysgrifau geni, priodi a marw. Ceir llawer o'r cyfryw eisoes yn
nwylo'r teulu neu gellir cael copïau, am bris, o'r General Register Office, St
Catherine's House, Kingsway, Llundain, W.C.2, neu o swyddfa'r Cofrestrydd
Arolygyddol lleol. Er mwyn manteisio i’r graddau helaethaf ar y mynegeion
cynhwysfawr yn y swyddfeydd dylid darparu cymaint ag y gellir o fanylion
pwrpasol ynglŷn â'r unigolion y ceisir eu hanes. Yn 1837 y dechreuwyd y
cofrestrau swyddogol.
3. Cofnodion rhifo'r boblogaeth 1841, 1851, 1861, 1871 ac 1881. Cedwir y cofnodion
gwreiddiol yn y Public Record Office yn Llundain ond y mae gan bob cyngor sir
gopïau ar ffilm-meicro am y blynyddoedd 1841-1871 ac y mae'r Llyfrgell
Genedlaethol yn prynu set gyflawn o ganlyniadau Cymru am 1881. Cyn belled ag y
gwyddys ym mha le yr oedd rhywun yn byw ym mlynyddoedd y rhifo fe rydd y
cofnodion wybodaeth werthfawr am oed, perthynas, galwedigaeth ac, o 1851
ymlaen, am fan geni. Gellir olrhain hanes teuluoedd yn ôl cyn belled ag ail
hanner y ddeunawfed ganrif.
4. Cofrestrau plwyfi. Â rhai cyn belled yn ôl a'r unfed ganrif ar bymtheg ond, at
ei gilydd, y maent yn bur gyflawn o ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Yn wahanol
i'r cofrestrau swyddogol o 1837 ymlaen gwybodaeth am fedyddio, priodi a chladdu
gan yr eglwys wladol a geir yn y cofrestrau plwyfol ond maent yn ddogfennau
pwysig iawn, ac yn arbennig felly am y cyfnod cyn 1838. Amrywia lleoliad y
cofrestrau hyn: ceir rhai yn y Llyfrgell Genedlaethol, rhai yn Archifdai'r
Cynghorau Sir a rhai o hyd ym meddiant offeiriad y plwyf. Yn y Llyfrgell
Genedlaethol gellir olrhain yr hyn a elwir yn Drawsysgrifau'r Esgob, sef copïau
o'r cofrestrau plwyfol dros Gymru gyfan.
5. Cofrestrau amhlwyfol, sef cofrestrau
bedydd capeli Anghydffurfiol, Catholigion, Crynwyr, Iddewon &c. Gorchmynwyd
pob un i baratoi copi cyflawn o’u cofrestriadau cyn 1837 ac fe'u ceir yn y
Public Record Office, Llundain. Y mae copïau ohonynt i'w gweld mewn rhai
Archifdai Sirol.
6. Ewyllysiau. Hyd 1857 yr eglwys wladol oedd yn gyfrifol, fel arfer, am eu cadw
ar ôl iddynt gael eu profi, a hefyd y llythyrau cymun: y mae dogfennau Cymru i
gyd yn y Llyfrgell Genedlaethol. 0 1858 ymlaen holer y Principal Probate
Registry, Somerset House, Strand, Llundain, W.C.2. Cedwir mynegeion o'r
ewyllysiau a'r llythyrau cymun a gellir sicrhau copi am bris. Ar wahân i
wybodaeth am eiddo ceir enwau teuluol yn amlach na dim.
7. Cerrig Beddau. Y mae rhamant ynddo'i hun mewn olrhain y cerrig beddau a blasu'r
farddoniaeth wych a welir ar ambell un. I'r casglwr achau gall y fynwent fod yn
allweddol.
***
I'R RHAN fwyaf ohonom bydd olrhain y ffynonellau uchod yn sicr o ddarparu digon o waith a gwybodaeth i'n bodloni. Ceir cymorth parod ym mhob un o'r sefydliadau cyhoeddus, eithr awgrymaf yn garedig y gallai pawb fod yn ddirfawr ar ei ennill trwy ymuno â'r Cymdeithasau Hanes Teuluol sydd wedi blaguro fel grawn unnos yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Y mae cymdeithas ar gyfer pob sir yng Nghymru sy'n barod iawn i estyn cymorth i'r aelod am danysgrifiad blynyddol rhesymol dros ben. Holwch yn eich Llyfrgell gyhoeddus leol am gyfeiriad ysgrifennydd eich sir.
I gloi, nid oes angen i neb feddwl mai tasg anobeithiol ydyw olrhain achau. Wrth ddilyn y canllawiau a nodir uchod gellir symud ymlaen ar ôl cymryd y camau petrus cyntaf i droedio'r llwybrau'n hyderus tuag at y nod. Cofier, ar wahân i eithriadau prin iawn, nad ymgysylltu i rhyw ogoniant teuluol yn y canol oesoedd yw'r nod hwnnw ond y pleser a'r diddordeb a geir wrth olrhain y cysylltiadau cyn belled ag y bydd hynny'n bosib; ac os ddoir ar draws ambell i sgerbwd teuluol fe rydd hynny ychydig o sbeis ar yr arlwy.
Ond pwy a ŵyr mai'r canlyniad i rai ohonoch fydd eich gweld yn ymffrostio wrth arddangos pais arfau Cymreig hynafol sydd heb gael ei harddel ers canrifoedd. Pob lwc i chi.