HANES YR YNYS YN Y PAPURAU ~
Arolwg R.Maldwyn Thomas
TENAU
ydi hanes argraffu a chyhoeddi papurau newydd wythnosol ym Môn, rhyw ddibynnu
ar weddillion o fyrddau pobol eraill sydd wedi bod yma. Y Clorianydd, (un 'n' ar
y cychwyn beth bynnag, rhifyn cyntaf ar 13 Awst 1891), ydi papur enwoca'r ynys,
a phobol Môn, ac Amlwch, yn arbennig, oedd yn gyfrifol am hwn yn ystod y
misoedd cynnar.
Erbyn
1893 yr oedd perchenogion y North Wales Chronicle a'r Gwalia, dau bapur newydd
Torïaidd iawn a gyhoeddid ym Mangor, â'u gafael yn dyn am Y Clorianydd. Y cwmni
hwn hefyd a fu'n gyfrifol am sefydlu'r Holyhead Chronicle (rhifyn cyntaf ar 22
Rhagfyr 1905). Welais i rioed gopi o'r Llais y Wlad yr honnir i Lewis Jones
Patagonia ei gychwyn yng Nghaergybi yn 1860.
Misolyn
oedd Y Sylwedydd a ddaeth i Gaernarfon o Lannerch-y-Medd, am chwistrelliad hwyr
– rhy hwyr – o ynni yn 1831. Enoch Jones, Llannerch-y-Medd, oedd yr argraffydd
o Ionawr hyd Orffennaf y flwyddyn honno, o Awst hyd y rhifyn olaf ym mis
Rhagfyr.
Richard
Mattias Preece a'i gwmni brith – perchenogion cyntaf y Carnarvon Herald – a
fu'n argraffu'r cylchgrawn. Caledfryn oedd yn gyfrifol am Y Sylwebydd; ef oedd
y golygydd hefyd, a chollodd dipyn o arian yn y fenter hon.
***
OND
yr oedd traddodiad gweisg tref Caernarfon yn Ynys Môn bellach wedi ei sefydlu,
a gwelir y cyswllt yn cael ei gryfhau gan lafur enfawr James Rees, 1803-1880,
cyhoeddwr unigol amlycaf Caernarfon yn ystod yr hen ganrif.
James
Rees a ofalodd fod gwreiddiau eiddil y Carnarvon Herald yn tyfu'n gyson; ei
lwyddiant ef oedd y Carnarvon and Denbigh Herald, papur a werthai tua phymtheg
cant o gopïau bob wythnos ymhlith mân ysgweiriaid Môn a rhai o unigolion trefi
glannau Menai.
James
Rees hefyd a heuodd had Yr Herald Cymreig (rhifyn cyntaf 19 Mai 1855), gan
ofalu'n garuaidd am y papur, am bymtheng mlynedd.
'Roedd
cylchrediad yr wythnosolyn mawr pwysig, gwrywaidd hwn dros 14,000 o gopïau bob
wythnos erbyn 1869, a mynd da iawn arno ym Môn.
***
ERBYN
canol y ganrif yr oedd James Rees yn ddigon hyderus i lansio, nifer o bapurau
llai – argraffiadau lleol o'r C.D.H., – cyhoeddiadau oedd yn adlewyrchu gallu
hirben James Rees fel cyhoeddwr, a'r ffaith fod y diwydiant ymwelwyr bellach
wedi gwreiddio yn rhai o ardaloedd y glannau.
Dyddiau'r parasol, y crinolin a'r cwt
newid ar y traeth, - Pegwell Bay yng Nghaint, traeth Llandudno yn Arfon.
Fe
lansiodd James Rees The Llandudno Register ar 16 Mehefin 1857, argraffiad
pedair tudalen o'r C.D.H. a gyhoeddid yn wythnosol yn ystod 'y tymor' yn unig.
Rhestr o enwau pobol ddiarth ar eu gwyliau oedd y peth pwysicaf yn y papur.
Roedd
y lein a oedd yn cysylltu Llandudno â rheilffordd Gaergybi a Llundain yn cael
ei gosod yn haf cynnar 1857, a Llandudno'r dyfodol felly yn cael ei geni. Erbyn
diwedd y chwedegau roedd y Llandudno Register yn glamp o wythnosolyn wyth
tudalen yn cael ei gyhoeddi a'i argraffu yng Nghaernarfon.
Bu
Creuddynfab yn gweithio fel cynrychiolydd lleol y papur, a bu Tudno yn ei
olygu, neu'n ohebydd iddo am dalm hefyd, gan ddechrau yng ngwanwyn 1867.
***
CYMAR
y papur hwn oedd The Beaumaris Visitor. Papur newydd wythnosol pedair tudalen
ar gyfer ymwelwyr yr haf i glannau Menai oedd hwn. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf
ar 7 Gorffennaf 1857. Cyhoeddwyd ail gyfres yn haf 1858, a thrydedd, yn ôl y
dystiolaeth, yn haf 1863, gan ddod i ben ar 26 Medi.
Erbyn
y 'tymor' hwn fe beidiodd y B.V. â bod yn gyhoeddiad annibynnol. Bellach yr
oedd o'n cael ei gyhoeddi fel rhan fechan o'r C.D.H.
Ni
welais gopïau ohono ar ôl 26 Medi hyd rifyn 14 Mehefin 1879. Dwy geiniog (2d)
oedd ei bris.
Roedd
James Rees wedi arbrofi fel hyn o'r blaen – cyhoeddodd The Rhyl Record (24
Gorffennaf 1852-1855?) a'r Rhyl Visitor, (9 Mehefin 1857, 1858, 1862,
ymgorfforwyd yn y C.D.H. ar 19 Medi 1863). Mae'n amlwg mai ei fwriad oedd
cyflwyno tipyn o newyddion yn gymysg a'r rhestrau anocheladwy o enwau marsiandwyr
Manceinion, Leeds a Birmingham a'u teuluoedd a oedd wedi dod i anadlu'r awelon.
Staff
swyddfa'r Herald yng Nghaernarfon oedd yn gyfrifol am olygu'r papur, ac E.R.
Thomas, y groser mwyn o Stryd yr Eglwys, Biwmares, oedd yn gweithredu fel
asiant lleol.
***
FE ymddeolodd James Rees o'i lafur yn
1870; roedd
'henaint a pen llwydni wedi ei oddiwes', yn ôl
Yr Herald Cymraeg, a
chyflwynodd yr awenau i ddau o'i feibion a'u dau bartner hwy.
Erbyn
1875 nid oedd ond un o'r pedwarawd hwn ar ôl, sef John Evans, cyn athro ysgol o
Gaergybi a oedd wedi symud i Gaernarfon i ofalu am bencadlys y Rhyddfrydwyr yn
y frwydr rhwng T.D.L. Jones Parry, sgweiar cyntefig Madryn, a George S. Douglas
Pennant, aer mileinig Castell y Penrhyn yn etholiad 1868.
Mi
fu John Evans yn berchennog anturus a byrbwyll papurau'r Herald hyd Fehefin
1885, ac ef a gyhoeddodd The Menai Bridge And Beaumaris Visitor, sef y B.V. o
dan deitl crandiach.
Fe'i
cyhoeddwyd yn ystod
'tymor'
1879, ond wedyn mae bwlch yn y ffeiliau hyd haf 1888, pryd y cyhoeddwyd y papur
am y tymor, y tro hwn o dan y teitl The Beaumaris Visitor And Menai Bridge
Advertiser, yn parhau yn wythnosolyn pedair tudalen. Ceiniog (1d) oedd ei
bris bellach. Mae'n bosibl iddo gael ei gyhoeddi yn blyciol unwaith eto o dan y
teitl The Menai Straits Visitor.
***
NEWYDDION
Môn oll yn ymddangos ar ei dudalennau – a'r rhain yn tystio i effeithiolrwydd
rhwydwaith gohebwyr lleol papurau'r Herald.
Yr
Herald Cymraeg oedd papur pwysicaf Môn yn y cyfnod hwn.
Yr
oedd cyswllt agos hefyd rhwng The Holyhead Weekly Mail a Swyddfa'r Herald yng
Nghaernarfon. Fe gyhoeddwyd yr wythnosolyn hwn am y tro cyntaf, fe ymddengys,
ym Mehefin 1881, a Morswyn, (S.G. Griffith, 1850-1893), a Phencerdd Cybi yn ei
gyhoeddi ar y cychwyn.
Ond
yr oedd yr H.W.M. yn cael ei olygu a'i argraffu yng Nghaernarfon o'r rhifyn
cyntaf un, ac erbyn Mawrth 1884, John Evans oedd perchennog y papur, er bod
swyddfa leol wedi cael ei chynnal yn Stryd y Farchnad, Caergybi tan 18 Medi
1885. Wedi hyn swyddfa'r Herald yng Nghaernarfon oedd prif ganolfan y papur.
Fe
gafwyd tusw o deitlau ar y papur hwn. Ymddengys mai The Holyhead Weekly And
North Wales Observer oedd y teitl gwreiddiol, wedyn fe gafwyd The Holyhead
Weekly Mail And Anglesey Herald, 1882-1885; The Holyhead Mail And Anglesey
Herald, 1886-1921; The Holyhead Mail And Llandudno And Colwyn Bay Herald
1921-1937, hyd nes cyrraedd The Holyhead And Anglesey Mail, 1937 hyd heddiw.
***
FE
werthwyd papurau'r Herald i Richard Fletcher Smith a Frederick Coplestone, dau
Sais a pherchenogion y Chester Chronicle yn 1885, er bod yr holl waith argraffu
a golygu yn parhau yng Nghaernarfon.
Coplestone
ei hun oedd y perchennog o 1890 hyd 1932 – trwy gydol dyddiau aur Daniel Rees,
T. Gwynn Jones, Picton Davies a'r gweddill o'r hen griw llengar.
Rhaid
troi at bapurau'r Genedl - ochor y Parch Evan Jones, Moriah, Anthropos, W.J.
Parry a E. Morgan Humphreys o'r haul tanbaid a ddisgleiriai yng Nghaernarfon yn
y blynyddoedd hynny – am fanylion am Y Wyntyll, un arall o bapurau'r dref a
gyhoeddwyd ar gyfer pobol Môn.
Cafwyd
dwy Wyntyll yng Nghaernarfon. Pythefnosolyn pigog – Private Eye
Anghydffurfiaeth, Rhyddfrydiaeth a marsiandïaeth Arfon oedd y cyntaf ohonynt, a
gyhoeddwyd gan E. Keris Jones a Peter Hughes o 20 Rhagfyr 1883 hyd 3 Gorffennaf
1884. Fe ddringodd ei gylchrediad i 6,000 o gopïau cyn i’r cylchgrawn gael ei
atal am sathru gormod o gyrn pwysig.
'Roedd
yr ail Wyntyll yn glamp o bapur newydd wythnosol, a'r is-deitl 'Newyddion
Rhyddfrydol Môn' yn datgan popeth amdano. Cyhoeddwyd ef o 26 Chwefror 1903 hyd
7 Mai 1925. Cwmni Y Wasg Genedlaethol Gymreig – perchenogion Y Genedl Gymreig,
Y Werin a'r Eco oedd piau'r Wyntyll ar y cychwyn, a Chaernarfon oedd canolfan
argraffu a golygu'r papur, gydag is-swyddfa yn Llangefni.
Fe
ddechreuodd Thomas Jones, (Powyson), a John Jones – dau o aelodau'r cwmni,
argraffu a chyhoeddi'r holl bapurau ar eu liwt eu hunain yn 1904, a dyma fu'r
drefn hyd 1920 pan brynwyd y busnes gan y National Press of Wales.
Yn
ei anterth, yn yr haf bach Mihangel cyn y rhyfel mawr, yr oedd gan y cwmni hwn
nifer o bapurau lleol – Y Gwyliwr, Awel Eryri, Y Sylwedydd, a diau mai'r
Wyntyll oedd y pwysicaf o ddigon.
Rhaid
dychwelyd at Yr Herald Cymraeg. Bu'r papur yn bwysig gan ddarllenwyr yn yr
ynys. Ar 7 Ionawr 1930 fe ddechreuwyd argraffiad arbennig ohono –
'Argraffiad
Môn' oedd yr is-deitl swyddogol ar ei dalcen.
Erbyn
y pumdegau yr oedd hwn wedi tyfu'n 'Bapur Môn'. Ar 3 Gorffennaf 1956 fe
lansiwyd Herald Môn, ac felly y mae pethau heddiw yng Nghaernarfon.