GWELLA'R DA YN AMERICA ~ gan Syr Thomas Parry

GWELD llyfr ar iechyd anifeiliaid ffarm, wedi ei ysgrifennu gan un o'r pregethwyr Methodistaidd cynnar a'i gyhoeddi yn America, a'm gyrrodd ar y trywydd yma. Yr oedd tref Utica yn nhalaith Efrog Newydd yn ganolfan Gymreig bwysig am flynyddoedd yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac yno y mae'r trywydd yn arwain.

Y mae dwy erthygl werthfawr ar Utica gan ddau ysgolhaig, sef yr Athro Emrys Jones o Brifysgol Llundain a'r Athro D.M. Ellis o Goleg Hamilton, Utica, yn Nhrafodion y Cymmrodorion, 1952 a 1981. Ond trafod y mae'r ddwy ddirywiad Cymreigrwydd y dref - troi iaith y capeli yn Saesneg ac Americaneiddio cymeriadau ac arferion y Cymry. Mi garwn innau sôn am ganol y ganrif ddiwethaf pan oedd y diwylliant Cymreig yn bur ffyniannus.

Yn ystod y ganrif cyhoeddwyd yn agos i ddau gant o lyfrau Cymraeg yn Utica, ac yno am flynyddoedd yr oedd cartref y newyddiadur adnabyddus Y Drych. Cychwynnwyd hwnnw yn Efrog Newydd yn 1851, a'i symud i Utica yn 1861. Ei gyhoeddwr, T.J. Griffiths, oedd prif argraffydd y dref yn ail hanner y ganrif, a bu wrthi hyd ddechrau'r ganrif hon.

Yn 1797 y sefydlwyd Utica, a bu'n dynfa i lawer iawn o Gymry, yn enwedig o Sir Gaernarfon. Mor gynnar â 1801 cychwynnwyd eglwys gan y Bedyddwyr, ac ar ddydd calan 1802 eglwys Annibynnol. Braidd yn hwyr, sef yn 1830, y sefydlwyd eglwys gan y Methodistiaid Calfinaidd.

Erbyn 1855, yn ôl y cyfrifiad swyddogol, yr oedd 860 o drigolion Utica wedi eu geni yng Nghymru, a'r rhan fwyaf o lawer ohonynt yn grefftwyr parchus ac yn wŷr diargyhoedd eu buchedd. Yn 1860 dechreuwyd cynnal eisteddfod flynyddol, a dal i'w chynnal am dros gan mlynedd.

Bu Utica yn gartref, parhaol neu dros dro, i rai cyfnodolion Cymraeg. Un o'r rhai cynharaf oedd Cyfaill o'r Hen Wlad, a gychwynnwyd yn 1838 a pharhau hyd 1933. Un arall oedd Y Cenhadwr Americanaidd, a sefydlwyd yn 1840.

***

DECHREUWYD argraffu yn Gymraeg yn y dref yn gynnar. Yn 1808 cyhoeddwyd Pigion o Hymnau, ar gyfer y ddwy eglwys a grybwyllwyd eisoes er eu bod yn perthyn i ddau enwad gwahanol, a dyma'r llyfr cyntaf a argraffwyd yn Gymraeg yn Nhalaith Efrog Newydd. 0 1840 ymlaen ceir sôn am amryw o argraffwyr ag iddynt enwau Cymreig, a rhai ohonynt yn bur fentrus, fel D.C. Davies, a argraffodd Y Mynegair, sef concordans Ysgrythurol, yn 1859, llyfr o 703 o dudalennau.

Yr argraffydd y carwn i ddweud ychydig amdano yw Evan E. Roberts. Ni wn i ddim o'i hanes ond bod ganddo ffugenw, a hwnnw, mwy na thebyg, yn nodi sir ei eni yng Nghymru – Ieuan o Geredigion. Y cownt cyntaf sydd gennyf fi ohono yw fel argraffydd y Cyfaill o'r Hen Wlad yn 1841-2, a bu wrthi'n argraffu hyd o leiaf 1871. Ef oedd yn golygu, argraffu a chyhoeddi'r cylchgrawn pythefnosol Haul Gomer yn 1846.

Machludodd yr Haul ar ôl naw mis. Byr oedd parhad amryw o gylchgronau Cymraeg America, fel cylchgronau Cymru hefyd o ran hynny.

Y mae'n rhaid fod gan Roberts helaethrwydd o offer argraffu a chysodwyr cyfarwydd, oherwydd yr oedd rhai o'i gyhoeddiadau yn sylweddol iawn. Dyna Eiriadur Charles yn 1844-5, yn ddwy gyfrol, a chyfanswm o 1250 o dudalennau. Yn 1850 argraffodd Y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth, cyfieithiad Thomas Jones o Ddinbych o waith William Gurnal, llyfr o 716 o dudalennau.

Ond y fenter fwyaf oedd y Testament Newydd, gyda nodiadau esboniadol James Hughes a diwinyddion eraill, yn bedair cyfrol drwchus.

Y mae Roberts fel petai'n arbenigo mewn argraffu emynau. Dechreuodd tua 1845 gyda Y Durtur, casgliad bychan o emynau a chaniadau dirwestol. Yn 1855 cynhyrchodd lyfr llawer mwy – dros 600 o dudalennau – Casgliad Newydd o Salmau a Hymnau, wedi ei awdurdodi gan y Methodistiaid Calfinaidd yn America gyfan. Yna yn 1864 daeth Hosanna: Casgliad o Donau ac Emynau at wasanaeth y Cysegr, gan Edward J. Lewis, un o Gymry Utica.

Argraffu ar ran rhywun arall y byddai Roberts bron bob tro, a chrefyddol yw natur ei holl lyfrau, ac eithrio un, a llyfr ar filfeddygaeth oedd hwnnw. A dyma fi'n ôl at yr hyn a'm gyrrodd ar y trywydd trofaus hwn.

***

YN ÔL Y Bywgraffiadur, gŵr o Benmorfa yn Sir Gaernarfon oedd John Edwards (1755-1823). Yn ifanc yr oedd yn dipyn o fardd, a dywedir iddo gyfansoddi anterliwt. Ond pan oedd tuag ugain oed cafodd dröedigaeth ysbrydol, a daeth yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn sefydlydd eglwysi. Bu'n ffarmio yn Ysbyty Ifan ac yn Nyffryn Clwyd, a gorffen ei oes yn y Plas-yng-Nghaerwys.

Yr oedd yn filfeddyg gwybodus, ac ysgrifennodd lyfr ar y pwnc, a'i gyhoeddi yng ngwasg Thomas Gee yn Ninbych yn 1816 o dan y teitl Y Cyfarwyddyd Profedig i bob Perchen Anifeiliaid. Y mae'n trafod y clefydau sy'n taro anifeiliaid ffarm – buchod, llo, ychen, ceffylau a defaid – ac yn rhoi cyfarwyddyd ar sut i’w gwella.

Rhaid bod bri ar lyfrau fel hwn, oherwydd nid oedd ond dwy flynedd, sef yn 1814, er pan gyhoeddodd Ioan Painter yn Wrecsam lyfr o'r enw Meddyg Anifeiliaid "gan ewyllysiwr da i'r Cymry".

Bu ail argraffiad o lyfr John Edwards yn 1837, wedi ei ddiwygio gan ei feibion J. ac E. Edwards, a'i gyhoeddi gan John Lloyd yn yr Wyddgrug. Ac yn awr awn yn ôl i America. Yn 1849 caed argraffiad Americanaidd, ac ar y ddalen deitl, "Utica: argraffwyd gan E.E. Roberts, 2 Heol Seneca." Nid oes son fod Roberts yn argraffu ar ran neb y tro yma, ac felly y mae'n debyg mai ef oedd y cyhoeddwr hefyd. Y mae'n llyfr o 310 o dudalennau, chwe modfedd wrth bedair, ac wedi ei argraffu'n lanwaith iawn.

Tra diddorol fuasai gwybod pa faint o gopïau a argraffwyd a sut werthu a fu arnynt. Y mae'n amlwg fod digon o Gymry yn ffarmio o fewn cyrraedd i Utica i Evan E. Roberts farnu y buasai'n talu iddo gyhoeddi'r llyfr, ac yr oedd yn Remsen, heb fod ymhell, lawer iawn o Gymry'n ffarmio.

Yn 1851 y cyhoeddwyd y pedwerydd argraffiad, a hynny gan P. M. Evans yn Nhreffynnon. Y pumed oedd un 1865 (er na ddywedir hynny ar y ddalen deitl, ond gellir profi'r flwyddyn o'r cynnwys) o wasg Hughes a'i Fab yn Wrecsam. Ychwanegwyd atodiad yn hwn a newidiwyd y teitl yn Y Meddyg Anifeiliaid. Nodir dau awdur, sef John Edwards, Caerwys, a John Edwards, Abergele.

Mab yr awdur gwreiddiol oedd y cyntaf o'r rhain, a dywedir ei fod yn "Member of the Royal Veterinary College", a mab iddo ef oedd y gŵr o Abergele, yntau yn "Member of the Royal College of Veterinary Surgeons, London", ac aelod hefyd o goleg cyffelyb yng Nghaeredin. Daeth ef yn gydfuddugol ag un arall am draethawd ar borthiant anifeiliaid yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy yn 1861. (Diolch i Mr Derwyn Jones am help i adnabod y gwŷr hyn).

Dyna'r hyn a wn i am John Edwards, Penmorfa, a'i lyfr a'i deulu. Os oes rhywun arall sy'n gwybod rhagor, da fydd cael clywed.

Nodiad. Ceir llawer o wybodaeth am gyhoeddi llyfrau Cymraeg yn America yn A Bibliography of Welsh Americana, gan Henry Blackwell. Cyhoeddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol, 1942.