FFYNONELLAU CANU'R BOBOL ~ Arolwg gan Meredydd Evans

BELLACH y mae ar gael gyfrol Wyn Thomas, Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru (Amgueddfa Werin Cymru, 1982) a chynnwys honno fanylion am brif gasgliadau ein cerddoriaeth werin, lleisiol ac offerynnol, yn ogystal â chyfeiriadau at lyfrau, ysgrifau a thraethodau ymchwil yn ymwneud ag astudio amryfal weddau ar y gerddoriaeth honno.

Os yw darllenwyr Y Casglwr am restr o deitlau'r ffynonellau pwysicaf ar gyfer ystyried cerddoriaeth werin Cymru, yn ystyr ehangaf yr ymadrodd, yna cyfrol Wyn Thomas amdani. Fy mwriad i yn hyn o lith yw sôn yn gyffredinol am bresenoldeb y canu gwerin yng nghyfrolau argraffedig casglwyr y ddeunawfed ganrif.

***

SYLWER bod a wnelom ni yma i'r gân werin fel y cyfryw; nid â'r alaw yn unig nac ychwaith â'r geiriau ar wahân iddi. Ar lawer cyfrif bathiad anffodus am `folksong' yw `alaw werin' (a chaniatáu mai dyna ydyw); byddai `can werin' wedi bod yn nes ati.

A bod yn fanwl, uned a ffurfiwyd o alaw a geiriau yw cân werin ac yn uned gryno felly y trosglwyddwyd hi o genhedlaeth i genhedlaeth nes o'r diwedd i ryw gasglwr neu'i gilydd ei gosod mewn nodiant ar bapur a'i chymoni ar gyfer ei hargraffu.

Felly y daeth yn gân-werin-ar-bapur a thueddodd hynny, wrth gwrs, i risialu ei ffurf a'i chadw'n weddol ddigyfnewid.

Yn yr ystyr hon mae'n bur fain arnom am ffynhonnell fyrlymus i’r gân werin yn y ddeunawfed ganrif. Nid, bid siŵr, nad oedd caneuon gwerin i'w clywed ar wefusau Cymry'r ganrif honno. Mae'n rhesymol tybio mai felly yr oedd pethau.

Y gwir yw, fodd bynnag, nad oedd diddordeb pennaf casglwyr y cyfnod yn digwydd gorwedd mewn nodi caneuon cyflawn. Telynorion oeddynt, yn drwm dan ddylanwad y mudiad hynafiaethol ac yn awyddus, chwarae teg iddynt, i ddangos i'r byd fod gan eu cenedl hwythau ei hen drysorau cerddorol nodedig: tra nodedig yn wir, gan y mynnent, rai ohonynt, eu cysylltu â'r Derwyddon!

Pa gerddor o'r ddeunawfed ganrif, eiddigeddus dros enw da ei wlad, a drafferthai i gysylltu ei cherddoriaeth â phobl gyffredin? Bydd yn rhaid inni aros hyd y ganrif ddilynol i weld cychwyn ar ogoneddu'r rheini – yr hen gryduriaid!

Ymhellach, os am ennill edmygedd haenau uchaf cymdeithas oes mor glasurol ei chwaeth â'r ddeunawfed ganrif (dyna'r ddelfryd a arddelid, o leiaf) go brin y byddai'n werth rhoi amlygrwydd i'r penillion syml a ddenai fryd gwerin gwlad.

***

ETO, nid yw hyn yn hollol deg â chasglyddion cerddorol fel Ifan Wiliam ac Edward Jones, er enghraifft. Ymserchai'r olaf, yn arbennig, yn y penillion telyn a mynnodd eu cymharu, i raddau, ag epigramau'r Groegwr.

Y mae lle i gredu bod Ifan Wiliam yntau yn cael blas arnynt ac am i'r byd mawr ddod i wybod rhywbeth amdanynt. Ef, wrth gwrs, a fu'n cyd-lafurio â John Parry, Rhiwabon, i gyhoeddi'r casgliad cyflawn cyntaf o gerddoriaeth Gymreig, Antient British Music (1742).

Fel y gwyddys ni chynhwyswyd geiriau o gwbl yn y gyfrol honno ond mynegwyd bwriad yn un o gylchgronau'r cyfnod i'w dilyn gyda chyfrol arall a fyddai'n cynnwys geiriau ynghyd ag alawon. Yn wir, lluniwyd copi enghreifftiol o'r gwaith arfaethedig ( a ddarganfuwyd yn weddol ddiweddar gan Osian Ellis) ac y mae o leiaf un gân yn y copi hwnnw y gellir yn bur hyderus ei hystyried fel cân werin.

Cyflwynir y gweddill o'r caneuon, i bob pwrpas, fel enghreifftiau o 'singing with the Harp, Violin, etc. at this time by the Welsh at their Musical Meetings'.

Enw'r gân dan sylw yw 'Malldod Dolgellau' ond rhaid prysuro i nodi mai enw ar yr alaw yw hwn a bod enghreifftiau ohoni ar gael mewn casgliadau eraill. Y pwynt allweddol i sylwi arno yw, fodd bynnag, fod geiriau ynghlwm â hi yma a'r rheini ar ffurf ymddiddan smala rhwng hen ŵr a merch ifanc.

***

0 DROI at Edward Jones mae'n berthnasol sylwi bod naw o alawon y Relicks (argraffiad 1794) yn gysylltiedig â geiriau Cymraeg ac wyth ohonynt yn rhai y gellir hawlio eu bod yn perthyn i'r traddodiad llafar, er nad yw'r un geiriau bob amser ynghlwm wrth yr un alawon. Mae'r nawfed, gyda llaw, yn debyg o fod yn enghraifft o ganu penillion, fel y cyfryw.

Sut bynnag am hynny, dyma'r caneuon gwerin: 'Hob y Deri Danno/Dando' (ffurfiau'r De a'r Gogledd arni); 'Distyll y Donn' (gyda thriban llosgyrnog i'w ganu ar yr alaw); 'Cerdd yr hen-ŵr o'r Coed' (yr alaw yn un o amrywiadau niferus 'Y Dôn Fechan'); 'Ar hyd y nos' (gyda phenillion ar fesur Hen Bennill; hyn yn golygu ailadrodd y llinell olaf); 'Nôs Galan' (mesur Hen Bennill yma hefyd); 'Dadl Dau' (alaw a ddefnyddid ar gyfer canu ymryson?);'Suo-gân'(cnewyllyn yr hwiangerdd a adwaenir heddiw fel 'Si hei lwli 'mabi').

Arwyddocâd y cyfeiriadau hyn at Ifan Wiliam ac Edward Jones yw na ellir anwybyddu eu gwaith wrth astudio'r gân werin. Yn achos yr olaf yn arbennig mae'n ddigon tebyg iddo glywed nifer o'r alawon a nodwyd ganddo yn cael eu canu gyda geiriau penodol, ond iddo ddewis eu hanwybyddu wrth argraffu ei waith. Eithr a ellir penderfynu ynglŷn â hyn mewn achosion neilltuol?

***

MAE LLE i gredu bod hynny'n bosibl ar brydiau. Er enghraifft, meddylier am yr alaw a gyhoeddwyd yn Relicks (argraffiad 1794) dan y pennawd 'Mentra Gwen; (o'r Goleuddydd)'. Yn awr, gwyddom fod 'Mentra Gwen' yn enw ar fydr barddonol yn hytrach nag ar alaw a cheir caneuon ar y mydr hwn yn y traddodiad llafar, rhai ohonynt yn perthyn i'r un teulu â 'Mentra Gwen' Edward Jones.

Mae'r un peth yn wir am yr alaw a elwir ganddo yn 'Cwynfan Brydain'. Y tebyg yw iddo gymysgu rhywfaint ar deitlau yma gan fod ei alaw ef yn wahanol hollol i’r 'Cwynfan Prydain' arferol (pa ffurf bynnag a ddigwydd fod ar honno).

Y gwir yw mai amrywiad ar 'Crimson Velvet' yw alaw y Relicks a lluniwyd honno, gellir tybied, ar gyfer mydr barddonol penodol; mae ei ffurf, yn ddieithriad, yn ieuo ynghyd, yn glòs â mydr barddonol arbennig.

Ceir cadarnhad i hyn oll o ystyried gosodiad gan Edward Jones yn ei ragymadrodd i'r adran ar 'Welsh Pennillion' yn y Relicks:

Gwir mai'r hyn sydd ganddo yng nghefn ei feddwl yma yw canu penillion, gyda'r delyn yn chwarae rhannau o'r alaw ar brydiau, ond awgryma'r ail gymal fod enghreifftiau o alawon y gellid eu canu yn gyfan gwbl ar eiriau rhai o'r hen benillion neu, efallai, ar fydrau eraill mwy cymhleth.

***

YN WIR, gall ei bod yn bosibl inni wneud hyn gyda pheth o waith John Parry, Rhiwabon, hyd yn oed. Ystyrier yr alaw 'Y Fedle Fawr' a geir yn British Harmony (1781). Diamau mai i amrywiad o'r alaw hon y cyfansoddodd Edmwnd Prys, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ei gerdd 'Cân y Gwanwyn', a gellir teimlo'n bur hyderus mai alaw i'w chanu yw honno wedi bod ar hyd ei thaith i lawr y cenedlaethau. Canwyd nifer o garolau Nadolig arni o bryd i'w gilydd.

Digon tebyg hefyd, gyda llaw, mai alaw Seisnig o'r enw 'About the bank of Helicon' oedd hi ac mai ar sail trydydd pennill cerdd yr Archddiacon y bedyddiwyd hi yn `Fedle Fawr' gan y Cymry. Yn British Harmony, ymhellach, y cyhoeddwyd gyntaf yr alaw sy'n dwyn yr enw 'Calennig' ac awgryma'r gair hwnnw, ynddo'i hun, fod honno'n alaw gyda geiriau yn gysylltiedig â hi.

Y tebyg yw iddi gael ei defnyddio i ganu o gwmpas y tai ar ddechrau blwyddyn; yn wir, mae geiriau calennig ar gael y gellid yn rhwydd eu canu arni.

Y gwir yw bod angen ystyried cyfrolau argraffedig John Parry, Rhiwabon, Ifan Wiliam ac Edward Jones yn drylwyr, a gochelgar bid siŵr, er mwyn ceisio darganfod olion traddodiad llafar y gân werin ynddynt.

Yn sicr mae'r traddodiad llafar o berthynas i'r alawon telyn yn ddigon amlwg i'w weld yn eu casgliadau ac, yn achos Ifan Wiliam yn neilltuol, ceir peth goleuni ar draddodiad ein canu penillion; eithr nid ydynt, o bell ffordd, yn amherthnasol i astudiaeth lawn o'r gân werin.