ARFERION PRIODASOL YN YR HEN DDYDDIAU ~
Cipdrem gan E. Emrys Williams

GWNAETH arferion priodasol Cymru argraff ddofn ar lawer o ysgrifenwyr, yn frodorion a Saeson fel ei gilydd. Yr oedd gan rai ohonynt wybodaeth a phrofiad personol o'r arferion a ddisgrifir ganddynt, ond mewn llawer o'r adroddiadau gwelir arwyddion mwy neu lai amlwg taw copïo gwaith rhyw awdur blaenorol a wneir yn hytrach na disgrifio'r hyn a welodd yr ysgrifennwr â'i lygaid ei hunan.

Gwaith Lewis Morris(1701-65) yw un o'r disgrifiadau cynharaf, a thrafodir ei erthyglau ef gan fy nghydweithiwr Dafydd Ifans mewn rhifyn diweddar o'r cylchgrawn Ceredigion. Y mae'n debyg i arferion y sir hon wneud cryn argraff arno pan ddaeth o Fôn i fyw yn Sir Aberteifi gan fod yna gryn wahaniaeth rhwng priodasau de a gogledd Cymru.

Awdur a welodd rai o'r arferion hyn pan oeddynt eisoes wedi colli llawer iawn o'u harwyddocad cynhenid ond eto heb ddiflannu'n llwyr oedd D.J. Williams (1885-1970), ond y tebygrwydd yw fod ei stori hir 'Y Gaseg Ddu' yw Cymru (1916) yn seiliedig, fel y rhan fwyaf o'i waith, ar yr hyn a glywsai ar yr aelwyd gartref yn hytrach nag ar ei atgofion personol.

Diddorol yw sylwi taw ym mhlwyf Pencarreg gerllaw afon Teifi y lleolir peth o'r hanes a rydd Lewis Morris ac mai'r un ardal yw cefndir stori D.J. Williams.

0 blith y Saeson hoffwn sôn am ddisgrifiad Anne Beale, er nad rhywun ar ymweliad â Chymru ydoedd hi, fel rhai o'r lleill, ond merch o gyffiniau Gwlad yr Haf a fu am gryn amser yn ennill ei bywoliaeth yn ein plith.

Dywed Y Bywgraffiadur ymhellach iddi ysgrifennu amryw nofelau 'yn ymwneud â bywyd ac arferion y Cymry ac ychydig iawn o'r awduron Seisnig sydd wedi dangos mwy o gydymdeimlad â Chymru'.

***

NID wyf yn bwriadu sôn am holl arferion priodas Cymru yn y fan hon,ond yn hytrach ganolbwyntio ar un agwedd arnynt, sef y llythyron a ddanfonid neu a ddygid oddi amgylch yn gwahodd cymdogion, cyfeillion a pherthnasau i'r wledd neu'r neithior. Yng ngeiriau llythyr o Gwm-du ger Llandeilo yn 1854:

Ceir ambell un o'r llythyron hyn mewn llawysgrifen, ond oni cheir enw'r derbynydd arno, nid yw bob amser yn bosibl penderfynu ai rhai gwreiddiol ydynt ai copïau, efallai o lythyr argraffedig. Fodd bynnag, rhaid cofio bod yr arferion hyn lawer yn hŷn na'r cofnodion - boed lawysgrif neu brintiedig - sy'n gysylltiedig â hwy.

Y gennad yn y dyddiau hynny oedd y cymeriad lliwgar hwnnw, y gwahoddwr, ac er i'r ysgrifbin a'r argraffwasg yn eu tro gyfyngu rhywfaint ar ei weithrediadau, ni ddisodlwyd ef yn llwyr ac ni lwyddwyd i ddistewi ei ffraethineb. Felly defnyddid ef o hyd i daenu'r llythyron dros ardal led helaeth, tasg a gymerai rai diwrnodau.

Ar wahân i wahodd pobl i'r wledd prif ddiben y llythyron oedd casglu anrhegion i helpu'r pâr ifanc. Gellid dosbarthu'r rhoddion yn dri math, sef rhoddion yng ngwir ystyr y gair, ad-daliadau o roddion roddasai'r gŵr neu'r wraig ifanc neu eu perthnasau ar achlysuron cyffelyb yn y gorffennol, a benthyciadau i'w talu'n ôl gan y pâr ifanc rywbryd yn y dyfodol.

Gan fod y llythyr yn cynnwys addewid pendant i dalu'r dosbarth olaf yma'n ôl pan elwid amdanynt, yr oedd angen cadw cyfrif manwl, a cheir disgrifiad o'r dyn a gadwai'r cownt, sef yr 'ysgrifennydd neithior, neu "daith" fel ei gelwid yn y cylchoedd hyn' yn stori D.J. Williams.

Fe'i ganwyd ym mhlwyf Llansewyl yn 1885, a'r flwyddyn ganlynol fe anwyd fy nhad yn yr un plwyf. Wrth yr enw 'papure taith' y cyfeiriai ef at yr hyn a elwir yn Saesneg yn 'bidding letters', ac iddo ef yr wyf yn ddyledus am deitl y nodyn hwn.

Diddorol yw nodi bod taith gan Jaci Penrhiw, tadcu D.J. Williams, pan briododd yn 1837, ac er nad yw'r papur taith ar glawr gellir honni'n hyderus i un gael ei argraffu ar yr achlysur, gan fod y llyfr cownt a gadwyd bryd hynny yn ddiogel yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda phapurau'i ŵyr.

***

ER hynny y mae un o'r llythyron sy'n y Llyfrgell Genedlaethol yn ymwneud â pherthynas i D. J. Williams. Y dyddiad yw 15 Mai 1871 a chyfeirio y mae at briodas Mary, merch Nwncwl Bili, brawd ei dadcu.

Saesneg yw iaith y llythyr ac felly nis adgynhyrchir yma, ond yn ei le rhoddir llythyr Cymraeg o Rydcymerau a argraffwyd ryw ddeunaw mis ynghynt, ac y mae'r enwau Jenkins ac Elinor yn ddigon o warrant fod y teulu a briodir yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd neu'i gilydd â Neli'r Cart, gwraig yr oedd gan D.J. feddwl mor uchel ohoni.

Er taw dibynnu ar atgofion pobl eraill a wna D.J. Williams yn bennaf am ei ddisgrifiad o'r daith, a'r atgofion hynny yn ymestyn yn ôl am hanner canrif neu fwy, credaf fod gennym ddisgrifiad llygad-dyst o un taith arbennig wedi'i ysgrifennu o fewn blwyddyn neu ddwy i'r achlysur a nodir.

Gan Anne Beale, a oedd ar y pryd yn athrawes i blant offeiriad a drigai ym mhlas Llwynhelig ger Llandeilo ac awdur The Vale of the Towey â gyhoeddwyd yn 1844, y ceir yr hanes manwl hwn.

Dechreuir drwy sôn am ymweliad y darpar-ŵr ag ysgolfeistr, a oedd hefyd yn fardd, mewn ardal fynyddig er mwyn llunio'r papur taith. Anodd yw credu'r stori ramantus hon gan i'r Parchedig Morgan Williams yn Collectanea ryw ugain mlynedd ynghynt roi wyth o'r llythyron hyn yn batrymau ar gyfer y sawl fyddai ag angen amdanynt.

Yn ffodus nid oes amheuaeth nad yw'r papur y cyfeiria Miss Beale ato ar gael a chadw yn archifdy Dyfed yng Nghaerfyrddin, er bod y dyddiadau, enw'r priodfab a'r lle y cynhelid y dathlu wedi eu newid i ryw raddau.

Soniai'r awdur ymhellach taw yn Gymraeg y cyfansoddwyd y llythyr, ac yna'i gyfieithu, ond ychwanega iddo gael ei argraffu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, ac ni rydd unrhyw awgrym fod cyhoeddi papur taith yn y ddwy iaith yn ddim byd allan o'r cyffredin.

Fodd bynnag, er bod tri neu bedwar cant o'r llythyron diddorol hyn ar glawr, ni welais erioed enghraifft o bapur mewn Cymraeg a Saesneg.

A dylid nodi englyn a geir ar waelod llythyr Margaret – a gofiaf yn siopwraig yn Nhalyllychau hanner canrif yn ôl – merch David Evans ('Dewi Dawel'):

***

YN YR Amgueddfa Werin ceir papur a argraffwyd yn Llandeilo, dyddiedig 29 Ebrill 1839 sy'n sôn am y 'prevalent custom (which) exists from time immemorial amongst Plant y Cymry of making a BIDDING'. Gwaith yr un argraffwyr yw llythyr dyddiedig 24 Hydref 1842, y seliodd Anne Beale ei stori arno, ac y mae corff y llythyr yn union eiriad â’r llythyr sydd yn Sain Ffagan.

Felly rhaid mai ffug yw ei hanes am yr ymweliad â'r ysgolfeistr yn ei fwthyn mynyddig, ond eto rhaid cyfaddef bod rhyw arbenigrwydd yn perthyn i'r ddau bapur hyn o wasg T. ac E. Williams, Llandeilo.

Ymhellach, er i'r awdures adael i'w dychymyg garlamu'n wyllt mewn un cyfeiriad, y mae ei disgrifiad o'r daith ei hunan yn hynod fanwl, ac, am a wyddom, yn berffaith gywir, ac yn sicr yn seiliedig ar y daith ar 11 Tachwedd 1842, lai na thair wythnos wedi dyddiad y llythyr.

Gan nad yw'r dogfennau diddorol hyn mor gyfarwydd i lawer ag y dylent fod, gwell cynnig rhai rhesymau am y diffyg gwybodaeth yma.

Y prif achosion yn ddiau yw'r cyfyngu arnynt o ran lleoliad ac amser. Yng nghyfrol X o'r West Wales Historical Records, t. 164, dywedir na cheir hwy ond yn siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin a'r rhannau o Frycheiniog, Morgannwg a Phenfro sy'n ymylu ar y ddwy sir flaenorol.

Yn wir, dim ond un papur wedi'i argraffu yn Aberystwyth sydd ar glawr, er bod tystiolaeth i un cwmni'n unig argraffu o leiaf hanner dwsin yn y dref.

Yn eithaf arall y fro hon dim ond rhyw dri o'r rhai a argraffwyd yn Abertawe a Chastell Nedd a oroesodd, ond cadwyd nifer sylweddol o gynnyrch gweisg Caerfyrddin, Aberteifi, Llandeilo a Llanbedr Pont Steffan.

Y mae'r papurau hefyd yn gyfyngedig i gyfnod arbennig, sef y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda llond dwrn yn unig o ddegawd olaf y ganrif flaenorol ac o'r ganrif bresennol hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf.

Rheswm arall am y brinder papurau yw eu maintioli – dalen fechan tua phum modfedd wrth saith – a'u gwna yn ddeunydd rhwydd eu llosgi, a hefyd na argreffid ond cant neu ddau, neu efallai, dri, ar y tro.

RHAID i mi gydnabod taw am fod papur taith fy nhadcu a'm mamgu, a argraffwyd yn Gymraeg yn Llanbedr yn 1871 yn y Llyfrgell Genedlaethol, y cymerais i ddiddordeb ynddynt i ddechrau.

Erbyn hyn yr wyf wedi gweld gwybodaeth achyddol bwysig ynddynt yn aml, ac y mae dod o hyd i rai na wyddid o'r blaen am eu bodolaeth yn rhoi rhyw wefr i mi.

Gobeithiaf y gall rhai ohonoch chwi’r darllenwyr roi eich llaw ar ambell un, ac efallai eu danfon er diogelwch i ryw sefydlaid megis y rhai a enwyd yn y nodyn hwn.