Y GEIRIAU AR HEN EIRIADUR gan Thomas Parry
Y MAE fy nghopi i o Eiriadur Dr. John Davies, Mallwyd (1632) yn ddiddorol oherwydd y tri gŵr a fu'n berchenogion arno o'm blaen i. Ar y ddalen deitl y mae enw Daines Barrington. Ganed ef ym 1727 a bu farw yn 1800. Yr oedd yn fab i'r Arglwydd Barrington, a bu'n farnwr ar gylchdaith Gwynedd am dros ugain mlynedd.
Yr oedd yn gryn hynafiaethydd, a daeth i adnabod gŵyr o gyffelyb fryd yng Ngogledd Cymru. Rhoes gefnogaeth i Evan Evans (Ieuan Fardd) gyda'i waith ysgolheigaidd, ac ef a ddaeth ag Ieuan i sylw'r bardd Saesneg, Thomas Gray, a Dr. Johnson. Ef hefyd, yn ôl un cyfeiriad yn llythyrau'r Morrisiaid, a ddug y draul o gyhoeddi llyfr Ieuan, Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards (1764). Yr oedd brawd iddo, Shute Barrington, yn Esgob Llan-daf o 1769 hyd 1782.
***
AR Y ddalen weili o flaen y ddalen deitl yn y Geiriadur y mae'r geiriau hyn : "Paul Panton.
The gift of the Hon. Daines Barrington." Yn Sir y Fflint yr oedd cartref gwreiddiol Paul Panton. Hyfforddwyd ef yn gyfreithiwr. Yn 1756 priododd Jane Jones, aeres y Plas Gwyn, Pentraeth, a daeth yn amlwg ym mywyd Môn, ac yn gyfaill i William Morris.
Tua 1758 daeth i adnabod Ieuan Fardd ac i ymddiddori yn yr hen farddoniaeth Gymraeg. Ef a Daines Barrington a anogodd Ieuan i gyfieithu'r cerddi hynny o waith Beirdd y Tywysogion - a gynhwyswyd yn y Specimens.
Yr oedd y ddau yn gyfreithwyr, yn gyfeillion ac yn hynafiaethwyr brwdfrydig, a hawdd deall pam y rhoes Barrington y copi o'r Geiriadur yn rhodd i Paul Panton.
***
AR DDALEN weili arall ar ddechrau'r Geiriadur ceir hyn : "John Edward Lloyd MDCCCXCII." Dyma wrth gwrs yr hanesydd enwog, awdur y gwaith godidog hwnnw A History of Wales to the Edwardian Conquest (1911), a fu farw yn. 1947. Yn y flwyddyn a nodir, sef 1892, y symudodd Syr John o fod yn Ddarlithydd mewn Cymraeg a Hanes yng Ngholeg Aberystwyth i fod yn Gofrestrydd Coleg Bangor ac yn Ddarlithydd mewn Hanes yno. Y mae'n anodd meddwl am unrhyw lyfr wedi bod yn eiddo i dri gŵr mwy diddorol.
Efallai ei bod hefyd yn werth sylwi fod ar ddalen deitl fy nghopi i o Specimens Ieuan Fardd nodyn mewn llaw o'r ganrif ddiwethaf : "Mr. Thomas Edwards (alias Twm o'r Nant) was married by the Author of this Book in Llanfairtalhaiarn Church, Feb. 19, 1763." Yr oedd hyn yn wybyddus o'r blaen, a diddorol yw meddwl am yr ysgolhaig deuddeg ar hugain oed a'r anterliwtiwr tair ar hugain wyneb yn wyneb ar yr achlysur.