TWM O'R NANT A STAD EI LYFRAU gan Huw Ceiriog

PE TAE Twm o'r Nant yn fyw heddiw mae'n siŵr y buasai'n aelod o Gymdeithas Bob Owen, a mwy na thebyg ar y Pwyllgor! Fel llawer ohonom cai Twm drafferth i gadw ei lyfrau yn un darn, ac mae ganddo gywydd sy'n son am gyflwr ei lyfrau, sef "Cywydd i ofyn plough book binder i Mr Edward Evans o Ruthun", a gyfansoddwyd yn 1760, sydd yn Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru Ychwanegol 347 ,B, t.62.

Mae'n gywydd maith o 188 o linellau, ac mae ei dri chwarter yn moli Edward Evans a'i deulu, ond mae ynddo ddisgrifiad o lyfrau Twm. Digon tebyg fod Twm wedi byseddu llawer ar ei lyfrau, oherwydd dywed:

Gan mai saer maen oedd Twm, tybed sut rwymwr oedd o? Beth bynnag, bwriada wneud y gwaith ei hunan :

Ac felly mae Twm yn gofyn i Edward Evans am erfyn i dorri tudalennau'i lyfrau. Tybed pwy oedd Edward Evans? Fe all fod ganddo gysylltiad â rhwymo, ond y peth tebycaf yw mai uchelwr lleol oedd o.

***

Y MAE'R "plough" yn dal i fod yn erfyn a ddefnyddir gan rwymwyr, er bod llai o'i angen wedi dyfodiad y guillotine. Math o gyllell arbennig ydyw:

Mae Twm yn addo mwy o fawl i Edward os daw'r "plough" i law, ond ni chawn wybod os llwyddodd Twm i achub ei lyfrau rhag difancoll.