SYMUD LLYFRAU BOB OWEN gan David Jenkins
Y TRO cyntaf imi gyfarfod â Bob Owen, Croesor, oedd ar stesion Aberystwyth rhywdro tua chanol y '30au pan ddaeth i annerch Cymdeithas Geltaidd y Coleg. Nid anghofiaf yr olwg arno. Bwrlwm o ddyn byr wedi'i wisgo mewn siwt o frethyn cartre, het wedi'i bwrw nôl ar ei wegil, a'i fysedd yn ceisio ar y cyd ddal bag bychan a rholio sigarét cyn fod y tân wedi diffodd ar y bonyn oedd agos â llosgi’i fwstas.
Nid Cymry enwog oedd ei destun gosod y noson honno ond dyna a gawsom - un felly oedd Bob pan chwythai'r awel - a chyn diwedd ei ddarlith hudolus 'roedd wedi'n llwyr argyhoeddi na chyflawnwyd dim o bwys yn hanes gwareiddiad y gorllewin - ac yn arbennig yn yr Unol Daleithiau - heb ei fod yn waith Cymro neu'n un o'r hil. 'Roedd rhywbeth heintus yn y rhaeadr o ffeithiau a bentyrrai i brofi'r naill osodiad ar ôl y llall.
Nid oedd sôn am gyfrifiadur yn y dyddiau hynny - a phetai, ni ragorai ddim ar y compiwtar o Groesor. Pwy arall, yn wir, a feiddiai ymhen blynyddoedd dderbyn her i ateb unrhyw gwestiwn wedi'i godi o'r Bywgraffiadur Cymreig yn weddol fuan ar ôl cyhoeddi'r gyfrol swmpus honno?
***
'ROEDD llyfrgell Bob Owen yn ddihareb genedlaethol, hyd yn oed cyn yr Ail Ryfel Byd, ac eto, o ran maint nid hi oedd y fwyaf o lyfrgelloedd personol y bûm i'n ei thrafod. Eiddo R.E. Jones, Borthygest (a Thanygrisiau gynt) oedd honno.
Y mae'n wir fod llyfrau Bob yn llythrennol ym mhob stafell ond un yn y tŷ (gan gynnwys y gegin). Parlwr Aelybryn oedd yr eithriad - a hynny o barch i Mrs. Owen, un o'r gwragedd mwyaf graslon ac ystyrlon a gafodd un gŵr erioed - ond fe wyddai eu perchen leoliad pob cyfrol ac 'roedd yn bur hyddysg yn eu cynnwys hefyd.
Tua diwedd y '50au cytunodd Bob ei bod yn bryd iddo feddwl am werthu'r llawysgrifau a llyfrau hynny y medrai bellach eu hepgor ac o ganlyniad fe deithiodd y Dr. E.D. Jones a minnau lawer i Groesor a dewis o fysg y trysorau. Cawsom lawer helfa werthfawr i'r Llyfrgell Genedlaethol ac o bryd i'w gilydd cynigiai Bob ddetholiad o'r gweddill i lyfrgelloedd eraill.
Hyd yn hyn, oherwydd ei gyfeillgarwch agos â'r Dr. Thomas Richards, y Llyfrgellydd, aethai rhywfaint o flaenffrwyth Croesor eisoes i lyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor, a chredai pawb ohonom yn y byd llyfrgellyddol mai yno hefyd yr âi'r gweddill. Fodd bynnag, un pnawn galwodd Bob yn y Llyfrgell Genedlaethol ar ei ffordd adre wedi bod yn darlithio tua Chastell Nedd.
Wrth edrych yn ôl ar yr amgylchiad 'rwy'n sicr yn fy meddwl ei fod yn dechrau synhwyro ei fod yn tynnu i ben ei dalar oherwydd, heb falu awyr, gofynnodd a ofalwn am ei lyfrgell ar ôl ei ddydd gan adael i Fangor brynu'r hyn nad oedd ar y Llyfrgell Genedlaethol mo'i heisiau. Cytunais, a bu'r Dr. E.D. Jones a minnau yn fynych ar daith yn y Morris Minor i Groesor.
***
PAN DDAETH yn amser cytunwyd mai'r peth gorau oedd imi symud y casgliad yn ei grynswth i Aberystwyth - ond haws dweud na gwneud. Un peth oedd mynd â'r Morris bach i fyny'r ffordd gul o Lanfrothen er mwyn casglu bocsiaid o lyfrau - ond problem gwbl wahanol oedd symud cannoedd lawer o lyfrau, oherwydd fe gofia'r cyfarwydd fod un o fwâu nodedig Syr Clough Williams Ellis wrth gydiad y ffordd fawr â'r Iôn i Groesor fel nad oedd fodd yn y byd mynd â dim byd tebyg i pantecnicon y ffordd honno.
Y diwrnod cyntaf, felly, nid oedd dim amdani ond gwneud arolwg manwl o'r dasg a mesur lled y lôn yn y mannau culaf - a gobeithio. 'Roedd yn gwbl amlwg y cymerai wythnosau imi gyda'r car bach yn unig ac er holi ymhell ac agos ni fedrwn yn fy myw gael hyd i fen bwrpasol.
Y noson honno, fodd bynnag, wrth droi tua thre i Benrhyn-coch (ger Aberystwyth) lle mae'r ffordd yn culhau wrth dynnu at y pentre’, mi ddaliais 'hen fws bach y wlad'. Wrth ddilyn o'i ôl yn araf ddirwyn ei ffordd - fe'm trawodd! Neidiais allan o'r car ar y cyfle cyntaf ac er mawr ddifyrrwch a syndod i'r teithwyr mewn chwinciad 'roedd ei berchen, Dafydd Ifans, a minnau wrthi'n ddygn fesur hyd a lled ac uchder y bws.
Prin fodfeddi oedd i chwarae arnynt yn y lled a'r uchder, ond er imi sylweddoli mai dipyn o fenter oedd, llogais y bws yn y fan a'r lle.
***
YMHEN RHAI dyddiau cafodd rhai o'm cyd-weithwyr drip i Groesor mewn bws oedd yn llawn o gistiau gwag. Aethai'r Morris bach ar y blaen yn araf a phetrus ond mae'n rhyfedd beth a ellir dim ond meithrin amynedd a gofal. Cyrhaeddwyd Croesor cyn hanner dydd y diwrnod cyntaf a chychwynnwyd pacio'r llyfrau ar fyrder. Tua chanol y pnawn dechreuwyd llwytho'r bws.
'Roedd hi'n bnawn hirfelyn tesog (chwedl y Bardd Cwsg) a phawb yn y pentre fel petai'n cymryd siesta dda. Ond golygfa dwyllodrus oedd cysgadrwydd Croesor, oherwydd ymhen ychydig 'roedd o'm cwmpas nifer o wragedd cynhyrfus yr olwg yn protestio mod i'n dwyn o'u plith y bri a berthynai i'r lle.
Bu'n ymdaeru hir a glew, ond cwrtais iawn, ac yn y diwedd cytunwyd mai peth godidog oedd trosglwyddo i'r Llyfrgell Genedlaethol y rhan hon hefyd o waddol y genedl. Felly y'n rhyddhawyd ni.
Eithr ar y daith i lawr i Lanfrothen fel petai holl ellyllon Cwm Croesor am ein rhwystro. Teirgwaith y bu'n rhaid lledu'r ffordd, dwywaith y bu'n rhaid troi'n ‘ddrofers' - ac unwaith fe gostiodd becyn o sigaretau cyn llwgrwobrwyo gyrrwr rhaca ceffyl ei bod yn haws iddo ef droi i mewn i gae gerllaw nag i'r bws fynd yn ei wrth-ôl i Groesor.