SGWENNU HANES BOB gan Dyfed Evans
RHYW UGAIN mlynedd yn ôl fe gyhoeddid yn "Y Cymro" gyfres o erthyglau gan wahanol bobl yn adrodd peth o'u hanes hwy eu hunain. Bu'n gyfres ddiddorol a phoblogaidd.
Un o'r dynion y gofynnodd y Golygydd iddo am gyfraniad oedd Bob Owen ac erbyn Eisteddfod Glyn Ebwy yr oedd Bob wedi bras-ysgrifennu un bennod, un afaelgar iawn, a'i dwyn efo fo i'r Brifwyl i weld a oedd y "deunydd yn plesio".
Ar yr un gwynt, plesio neu beidio, dywedai'n groyw a phendant, fel y medrai ef, nad ysgrifennai 'run gair yn rhagor. 'Doedd ganddo ddim math o sêl i fynd ati.
Dyna'r rheswm syml paham y'm cefais fy hun yn ymlwybro tua Chroesor rhyw ddwywaith yr wythnos am gryn hanner blwyddyn. Onid oedd Bob am ysgrifennu penderfynodd Y Golygydd, John Roberts Williams, wneud y gorau o'r gwaethaf a'i berswadio i ddweud yr hanes wrthyf fi. Trefnwyd i gael chwe phennod; Bob, rhwng pyffiadau'r Wdbeins, i adrodd am droeon yr yrfa ar lafar, a minnau o'm nodiadau i ysgrifennu yn y person cyntaf gan geisio, gorau medrwn i, cael rhyw fath o ddilyniant yn y stori.
Un peth yn unig a achosai amheuaeth i Bob ynglŷn â'r cynllun. Beth a ddywedai ei gyfaill mawr Dr. Thomas Richards, gŵr a fuasai'n pwyso'n hir arno i ysgrifennu ei hunangofiant? A fyddai ef, y Doethur Richards, yn cymeradwyo trefniant o'r fath?
Drwy ryw hap yr oedd Doc Tom ar ei wyliau yng Nghroesor pan euthum yno gyntaf i roi pethau ar y gweill. 0 drugaredd yr oeddwn yn lled-gyfarwydd â'i ffordd ffwr'-bwt cyn hynny. "Chi sy'n mynd i ysgrifennu hanes Bob Owen?" gofynnodd gan wthio'i ben ymholgar tuag ataf ac edrych arnaf dros y gwydrau hirgrwn. "Ydych chi'n meddwl y medrwch chi 'sgrifennu hanes Bob Owen yn well na Bob Owen ei hun? "
Cyn imi gael cyfle i ddechrau mwmian nad oedd a wnelo fi ddim byd a'r peth mewn gwirionedd aeth y Doethur rhagddo. "Ydych chi'n meddwl mewn difri y gall unrhyw un ar wyneb y ddaear 'ma 'sgrifennu hanes Bob Owen yn well na Bob Owen ei hun? "
Wel, fedrwn i wneud dim, wrth gwrs, ond cytuno mai'r peth delfrydol fyddai i Bob ddal ati, ond gan na fynnai mo hynny y byddai'n resyn colli'r stori ac y gwnawn fy ngorau a...
Ac meddai'r Doc: "O! Felly wir."
***
YR WYTHNOS wedyn doi Bob Owen i Abersoch i ddarlithio mewn Ysgol Haf, ddwy neu dair noson. Arhosai yng Nghastellmarch. Euthum yno i’w nôl am ddeg o’r gloch fore Difia ac ar wahân i seibiant bach i ginio, cawl pys, a the, rhesen o driog, bu'n siarad yn ddi-baid drwy'r dydd.
Yr unig wahaniaeth drannoeth oedd mai tun samon a ddeisyfai i'w ginio. Siaradodd Iawn cymaint â'r diwrnod cynt: Bob yn siarad â minnau'n ysgrifennu nes oedd fy mraich wedi cyffio'n gorcyn. "Fydda i byth yn blino siarad, wsti," meddai.
Yn y deuddydd hynny y cafwyd y deunydd crai ar gyfer amryw o'r penodau cyntaf. Hanes ei fagu efo'i nain, Ann Owen, yn Nhwll Wenci, dyddiau ysgol, gweini yn y Wern. Ond 'doedd dim dal i ble'r arweiniai trywydd, mewn gwirionedd.
Bugeilio defaid ar y Moelwyn Bach un munud, efallai; y munud nesaf ar gwtyn moto-beic Griffith William yn 'sgrialu drwy Fwlch-yGymwynas, efo cyfrolau o Golud yr Oes dan ei fraich; yn 'stafell Syr Ifor yng Ngholeg y Gogledd, yn symud pedwar Ilwyth trol o lyfrau o lofft stabal Morfa Glas, Llanfrothen i Ael-y-bryn, Croesor pan briododd, yn glerc yn y chwarel, yn derbyn M.A. pan oedd o ar y dol, yn ffraeo a chyfamodi a Charneddog, yn ymosod ar John Elias, yn amddiffyn dringwyr mynyddoedd, yn clodfori T. Gwynn Jones. Fy ngorchwyl i oedd sicrhau dilyniant!
***
ANFYNYCH iawn y bu anghydwelediad rhyngom. Unwaith mi fynnai Bob restru enwau ugeiniau, onid cannoedd am wn i, o bobl y cawsai lythyrau oddi wrthynt. Dadleuwn innau, yn gam neu'n gymwys, y byddai pennod felly yn sobr o anniddorol i'r darllenwyr, a'r canlyniad fu cyfaddawdu ar gofnodi hanner yr enwau. Erbyn hyn mae'n edifar gennyf braidd na fuaswn wedi eu cynnwys i gyd.
Yn achlysurol byddai Bob yn anghofio sôn am ryw ddigwyddiad o bwys mewn rhyw gyswllt neu’i gilydd a chawn orchymyn i grybwyll y peth mewn pennod arall ymhen pythefnos neu dair wythnos efallai. Dadleuwn innau fod hynny'n amhosibl gan y byddai'n torri ar rediad y stori. Ond y fo a gawsai'r maen i'r wal fel rheol ac felly y dylai fod wrth gwrs. Ei stori ef oedd hi!
AMBELL dro byddai Nel, ei briod, yn ceisio dal tac arno hefyd, ond ni chawsai hithau lawer o lwyddiant ychwaith. Cofiaf, er enghraifft, y stori am un o forynion Y Wern, Llanfrothen wedi cymell rhyw hogyn i'r llofft ati a thrwy ryw figmas neu'i gilydd fe drowyd y pot o dan y gwely - a threiddiodd ei gynnwys rhwng y styllod i'r car bara a grogai o dan lawr y llofft. Ni wyddai gweision Y Wern pam eu bod yn bwyta brechdanau gwlybion drannoeth.
"I be deudwch chi hen stori fel 'na," meddai Mrs. Owen. "Fydd hi ddim ond testun siarad i bobl."
"Duw dyna ydi bywyd," rhuodd Bob. "Dyro hi i lawr yn y llyfr. I mewn a hi."
Ar ôl ychydig benodau ymddangos yn y papur fe gymeradwyodd Doc Tom y trefniant wrth lwc, ac aeth y chwe phennod arfaethedig yn ddeunaw pennod ar hugain yn y diwedd.