MANION BYD gan Glyn Evans
YM 1932 cyhoeddid deunaw o bapurau newydd Cymraeg : Adsain yng Nghorwen; Y Clorianydd, Llangefni; Y Darian, Aberdâr; Y Dydd, Dolgellau; Y Faner, Aberystwyth; Y Gwyliedydd Newydd, Y Bala; Y Goleuad, Caernarfon; Yr Herald Gymraeg, Caernarfon; Y Genedl, Caernarfon; Y Brython, Lerpwl; Y Llan, Caernarfon; Y Rhedegydd, Blaenau Ffestiniog; Papur Pawb, Caernarfon; Y Seren, Y Bala; Seren Cymru, Caerfyrddin; Y Tyst, Merthyr; Yr Udgorn, Pwllheli; Y Werin a'r Eco, Caernarfon.
***
RHIGWM yr arferid ei ganu gan blant Llŷn ar droad y ganrif oedd :
- Ni raid i ni ddim ofni
Daw Rwsians yma ‘lenni
Babŵn a chledda pren
Sy'n cadw tre Pwllheli.
Pwrpas y rhigwm oedd cael bachgen gyda chleddyf pren yn ei law i redeg ar ôl y galwyr.
***
Y LLYFR clawr papur cyntaf i'w gyhoeddi erioed ydoedd Pelham, gan Edward Bulwer-Lytton. Hon oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres Collection of British Authors a gyhoeddwyd gan Christian Bernhard Tauchnitz o Leipsig ym 1841. Ymhlith awduron eraill y gyfres 'roedd Dickens, Scott a George Eliot.
Cyhoeddwyd y llyfrau yn arbennig ar gyfer Saeson ac Americaniaid a deithiai'r Cyfandir ar drenau. Sicrhaodd Tauchnitz yr hawl i gyhoeddi llyfrau Saesneg yn yr holl wledydd lle na siaredid Saesneg ac i gadw'r hawl 'roedd yn rhaid iddo gyfarwyddo prynwyr y llyfrau eu taflu wedi iddynt orffen darllen a pheidio â dod â nhw i unrhyw wlad lle siaredid Saesneg - rhag effeithio ar werthiant llyfrau clawr caled yn y gwledydd hynny.
Dyna sefydlu amcan y llyfr clawr papur sy'n parhau hyd heddiw, y syniad o lyfr rhad tros dro.
Bu farw Tauchnitz ym 1895 ond daliwyd ati i gyhoeddi'r gyfres gan ei ddisgynyddion tan 1933. Erbyn hynny cyhoeddwyd 5,097 o deitlau gan 525 o wahanol awduron.
***
DECHREUODD Dewi Wyn o Eifion farddoni yn ieuanc iawn - cyn ei fod yn ddeuddeg oed, medda
nhw. Wedi i fachgen achwyn arno wrth athro yn yr ysgol lluniodd yr englyn hwn :
- Dic Morus, fradus, ddifri - hen chwannen
Yn chwennych drygioni,
Y gwar cam a'r garrau ci,
Y grigwd haeddai ei grogi.
***
YDYCH CHWI erioed wedi ystyried mor hen yw'r hwiangerddi mae ein plant yn eu canu? Mae Dacw mam yn dŵad mor boblogaidd heddiw ag oedd hi yn nyddiau ein teidiau a'n hen deidiau. Mae'n rhyfeddu dyn mor hirhoedlog yw hi a'i thebyg.
Ychydig o newid fu arni hefyd. Mae gennyf argraffiad 1896 ohoni a dim ond un llinell sy'n gwahaniaethu oddi wrth y fersiwn gyfoes. Ar ben y garreg wen meddai'r ail linell o gymharu ag Ar ben y gamfa wen.
Tipyn bach mwy o newid yn hanes :
- Cariad bach a finna,
Yn mynd i Lunden glanma,
Mae hi'n oer, a'r ffordd ymhell,
Gwell yw aros Gartra.
Un newydd sbon i mi tan yn ddiweddar 'ma ydoedd :
- Tra bo dŵr yn fferi Conwy,
A thra bo pont Llanrwst i'w thramwy,
Tra bo torch am wddw'r milgi
Caraf Robin gwas yr Abbi.
Ac 'rwy'n arbennig o falch i gyfaill sôn wrthyf am hon y diwrnod o'r blaen :
- Pan briodir Gwen a minna,
Fe fydd cyrn ar ben y gwydda,
Ieir y mynydd yn blu gwynion,
A cheiliog twrci fydd y person.
***
MEWN ERTHYGL yn Nhaliesin yn ddiweddar cyfeiriwyd at yr hysbysebu mawr oedd yna ar feddyginiaethau cwac yn y papurau Cymraeg yn ystod oes Victoria. Parhaodd yr arfer yn ddiweddarach nag oes yr hen begores honno wrth gwrs gyda'r Cymru yn hynod ymwybodol o freuder einioes.
Gwyrthiol - onid dim arall - ydoedd y ffisigau a werthwyd a dyma ddywedodd un hysbyseb yn 'Y Cymro' yn y tridegau :
At Mri. Hugh Davies a'i Gwmni, Fferyllwyr, Machynlleth.
Agent
Nigeria Affrig 1932
"Da chwi anfonwch gyda'r liner gyntaf o Lerpwl 1,000 o Davies's (Machynlleth) Cough Mixture. Mae'r hen feddyginiaeth dda Gymreig yn gwella peswch y brodorion yn rhwydd."
Dyma gyfarwyddyd Meddyg (M.D., L.R.C.P., M.R.C.S., etc.) "Mae physig Davies Machynlleth yn ddiguro at esmwythau’r Asthma, y Frest, Y Pas, Diffyg Anadlu, a Dolur gwddf."
At leisiau pregethwyr, areithwyr cyhoeddus a chantorion nid oes well.
Pris 1/3 a 3/- Pob Chemist a stôr.
Os oes gennych chwi hysbyseb ddiddorol byddwn yn falch o glywed oddi wrthych a chael copi ohoni.